mercoledì, gennaio 27, 2010

Dyffryn Clwyd

Nôl i Glwyd â ni, gyfeillion, ac i etholaeth sydd wedi dechrau dod yn llawer mwy ymylol nag y bu dros y blynyddoedd diwethaf – Dyffryn Clwyd. Mae Dyffryn Clwyd yn cynnwys rhai o drefi mwyaf adnabyddus y gogledd, megis Prestatyn, Dinbych a’r Rhyl. Mae llawer o Gymraeg yn ne’r etholaeth, ond rydych chi’n fwy tueddol o glywed acenion Seisnig wrth yr arfordir. Ganwyd tua 57% o’r boblogaeth yng Nghymru, sy’n fwy na Gorllewin Clwyd, ond ychydig dros bumed fedr Cymraeg. Mae bron i chwarter y boblogaeth wedi ymddeol, ac mae gan chwarter yn union salwch hirdymor sy’n eu cyfyngu.

Lle braf, felly. Ond yn wleidyddol un o newydd-ddyfodiaid y Glwyd newydd oedd Dyffryn Clwyd a ddaeth i fodolaeth ar gyfer 1997. Mae cadarle Llafur yn Rhyl, ond mae llawer iawn o gefnogaeth i’r Ceidwadwyr yn yr etholaeth, a thua’r de mae gan y Blaid fymryn o gefnogaeth gynhenid.

Y Blaid Lafur sydd wedi dal y sedd ers ei chreu, yn y Cynulliad yn ogystal ag ar lefel San Steffan. Dydi hynny ddim yn syndod enfawr – wedi’r cyfan, ardal y Rhyl ydi’r ardal fwyaf poblog, ac o’r fan honno y daw ei chefnogaeth graidd. Fodd bynnag, awn yn gyntaf i drafod y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru.

Er bod gan y Blaid fwy o gefnogaeth ‘naturiol’ yn yr etholaeth (er bod y gefnogaeth honno isel iawn), mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi dod yn drydydd yma’n gyson yn etholiadau San Steffan, ond dydi eu pleidlais heb gynyddu rhyw lawer ers 1997 – thua thri y cant. Tua dau y cant fu’r cynnydd ym mhleidlais y Blaid ers hynny. Gyda’r canrannau mor isel mae trafod y niferoedd yn ddibwynt.

O ran diddordeb, rhwng 6% a 10% y caiff y Dems Rhydd yma mewn etholiad Cynulliad (daethent yn bumed yma ym 1999) a Phlaid Cymru yn well, rhwng 14% a 20% yw ei hanes hi. Ni welir yma, nac yng ngweddill Clwyd, sedd werdd neu felen eleni.

Dechreuwn, pam lai, gyda Llafur, y ceffylau blaen ers dros ddegawd. Dydi cefnogaeth Llafur yma heb ddirywio i’r fath raddau â nifer o’i seddau eraill. O dros ugain mil o bleidleisiau ym 1997, cafodd fymryn yn llai na 15,000 yn 2005. Dydi’r dirywiad ddim yn fwy nag wyth y cant o ran y ganran o’r bleidlais gafwyd. Felly, mewn termau cymharol, mae Llafur yn dal ei thir. Efallai na fydd dal tir yn gymharol yn ddigon eleni, fodd bynnag.

Cafodd y Ceidwadwyr gweir yma ym 1997 – cawsant 11,662 o bleidleisiau ond roedd hynny gwta naw mil yn llai na Llafur. Ond fel Llafur, mae pleidlais y Ceidwadwyr hefyd wedi dirywio yma o dros fil. Fodd bynnag, mae’r ganran wedi bod yn gyson ar y traean, felly dydi’r dirywiad heb fod yn nodedig. Y broblem i Lafur ydi bod hynny wedi digwydd ar adegau lle’r oedd y Ceidwadwyr y tu ôl yn y polau piniwn, ac nid dyna’r achos mwyach.

Felly’r mwyafrif yn 2005 oedd 4,669 (14.4%). Digon i beri pryder.

Chafodd y Ceidwadwyr fawr o effaith yma yn y Cynulliad hyd 2007, ond y flwyddyn honno newidiodd pethau’n syfrdanol, gyda Dyffryn Clwyd yn un o’r llond dwrn o seddau y daethent o fewn trwch blewyn i’w cipio. ‘Doedd y gogwydd o 7.4% ddim yn ddigon i ennill yma, ond roedd yn ddigon i hollti’r mwyafrif Llafur i lawr i 92 o bleidleisiau, wrth i’r Ceidwadwyr sicrhau dros wyth mil o bleidleisiau.

Roedd y gwahaniaeth ym mhleidleisiau yn Etholiadau Ewrop y llynedd yn sylweddol. Fel a ganlyn oedd hi:

Ceidwadwyr 4,956 (31.2%)
Llafur 2,798 (17.9%)

Roedd hi’n fuddugoliaeth glir, ond sylwch eto, thua thraean o’r bleidlais gafodd y Torïaid (er gwybodaeth 36% gafwyd yn 2007). O ystyried hynny, y cwestiwn mawr yw hyn – a all y Ceidwadwyr gael yn sylweddol fwy na thraean o’r bleidlais? Mae’n anodd dweud gan nad oes cynsail i hyn.

Fodd bynnag, yn 2008, llwyddodd y Ceidwadwyr nid yn unig ennill mwy o bleidleisiau yma yn yr Etholiadau Cyngor, ond cipiwyd seddau o Lafur yn unman llai na’r Rhyl. Er bod y niferoedd a bleidleisiodd yn isel iawn, roedd hynny’n eithaf camp.

Iawn, felly rydyn ni wedi dod i’r casgliad mai’r Ceidwadwyr sydd ar ei fyny yma. Am hwyl, neu hynny o hwyl y gallwn ei gael gydag ystadegau, beth am adlewyrchu gogwydd etholiadau Cynulliad 2007 mewn etholiad cyffredinol, gan dybio y bydd mymryn yn fwy o bobl yn pleidleisio. Felly y byddai:

Ceidwadwyr 13,415 (39.0%)
Llafur 13,278 (38.6%)

Byddai hynny’n ddigon i’r Ceidwadwyr ennill yma, ond dim ond o drwch blewyn. Gwyddom y gall Llafur gael 20,000 o bleidleisiau yma, a byddai rhywun yn meddwl, yn dilyn tueddiadau diweddar San Steffan, y gallai ei phleidlais ddisgyn i tua 12,000 yn yr etholiad hwn.

O ran y Ceidwadwyr, mae’n anodd eu gweld yn cael llai na 11,000 y tro hwn, ond eto byddai cael dros 14,000 o bleidleisiau yn ganlyniad rhagorol mewn difrif. Ond efallai mai dyna sy’n rhaid ei wneud i ennill.

Nid y gogwydd ydi’r broblem i’r Ceidwadwyr, mae’r fath ogwydd, a mwy, yn cael ei awgrymu gan y rhan fwyaf o bolau, y broblem yw’r niferoedd. Serch hynny, mae popeth yn awgrymu y dylent ennill sedd fel hon. Mae’n debycach hefyd y bydd Ceidwadwyr yr ardal yn llawer tebycach o bleidleisio na Llafurwyr ardal y Rhyl a mannau eraill. Gallai bygythiad llywodraeth Geidwadol, fodd bynnag, sbarduno llawer mwy i bleidleisio. Beth am dybio gogwydd o 7.4% unwaith eto ond y tro hwn gyda 70% yn penderfynu pleidleisio. Dyma’r canlyniad:

Ceidwadwyr 14,300
Llafur 14,100

Y broblem gyda’r canlyniad hwnnw ydi bod y bleidlais Lafur yn dal ei thir – synnwn i ddim y gallai Plaid a’r Dems Rhydd rannu mil neu fwy o bleidleisiau ar draul Llafur, gan wneud y sedd yn ddiogel i’r Ceidwadwyr.

Damcaniaethol yw pob proffwydoliaeth, wrth gwrs. Gyda’r Ceidwadwyr yn amlwg ar gynnydd yma nhw sydd debycaf o ennill – ond fel seddau eraill Clwyd a ddadansoddwyd hyd yn hyn, rhaid cofio bod cipio’r seddau hyn am gymryd llawer o waith caled – mae uchafswm pleidleisiau Llafur llawer yn uwch na’r Ceidwadwyr, ond y Ceidwadwyr debyg sydd debycaf o bleidleisio. Ni ddylem gymryd buddugoliaeth Geidwadol yn ganiataol. Ond chyda’r Dems Rhydd a Phlaid yn barod hefyd i gymryd mantais ar gwymp arfaethedig Llafur, ‘sdim rhyfedd ei bod yn ymddangos y bydd yn colli yma eleni.

Proffwydoliaeth: Mwyafrif o tua 2,000 i’r Ceidwadwyr – ond gall o bosibl fod yn agosach.

Newidiadau mawrion bywyd

“Myn sbienddrych i,” ddywedodd y Dwd, gan droi ataf a bron fy nharo oddi ar y gwely gyda’i thrwyn enfawr, “dan ni’n edrych yn hŷn”. Cyn i mi fynd ymlaen dylwn egluro digwydd bod ar y gwely er mwyn mynd drwy hen luniau prifysgol yr oeddem. Roedden ni ar fin mynd am dro i ASDA ond roeddwn i wrthi’n trefnu dillad i roi i elusen, sef sanau gan fwyaf, wyddoch yn y bagiau hynny a ddaw i’ch tŷ bob hyn a hyn ac fe’u cesglir yn nes ymlaen. Rhoes y Dwd ffrae i mi am hyn, gan ddweud eu bod nhw’n cwyno eisoes bod pobl yn defnyddio siopau elusen fel biniau dillad ac na werthfawrogid fy hen slipars llychlyd.

Basdads anniolchgar, feddyliais i, cyn eu rhoi nhw’n y bag yn barod i fynd i’r siop, a throi at y lluniau ennyd.

Am flynyddoedd ar ôl brifysgol roeddwn i’n erfyn am fynd nôl. Dwi wedi pasio hynny rŵan, newidiwn i mo ‘mywyd ar y cyfan, er y byddai ambell fis nôl yn Senghennydd yn codi ‘nghalon. Ond ‘rargian, roedd ‘na olwg ar y rhan fwyaf ohonom. Mae’r wynebau ffres, opstimistaidd wedi troi’n fodlon ac mor amlwg, amlwg hŷn, a’r ddillad ‘smart’ yn edrych yn unrhywbeth ond am hynny – mae byd o wahaniaeth rhwng deunaw oed a chanol yr ugeiniau.

Erbyn hyn, gofia’ i ddim sut beth oedd bod yn naw stôn na chael gwallt trwchus. Gas gen i’r gwallt tenau a etifeddwyd gan fy Mam. Dyddiau da yw dyddiau fu. Mae’r newid yn rhywun o adael ysgol fawr i ddechrau’r ugeiniau yn anferthol – o fynd i brifysgol, os dyna’ch ffawd, rydych yn aeddfedu i raddau ond eto ddim. Ar ôl gadael a chyrraedd 22-23 mae ‘na aeddfedu pellach wedi mynd rhagddo wrth i rywun ddechrau dallt faint o gostus yw byw a pha mor undonog y gall byd gwaith fod. Rwyt erbyn hynny, waeth beth fo’th rawd, yn oedolyn.

Ond sylwais adref dros y penwythnos bod un newid mwy yn digwydd mewn bywyd, sef ymadael â ysgol fach a mynd i’r ysgol fawr. Roedd y nesaf peth i bedair blynedd ar ddeg yn ôl y tro diwethaf i mi grio, a chofiaf yn iawn mai’r diwrnod y gadewais Ysgol Llanllechid ydoedd. Er gwaethaf ambell gyfnod isel ers hynny, fydd hwnnw wastad yn un o ddyddiadu tristaf fy mywyd. Ar y llwyfan, yn canu ‘ysgol Llan yw’r ysgol orau...’, gwyddwn â’r doethineb rhyfedd hwnnw sy’n perthyn i blant fod rhywbeth arbennig wedi dod i ben yn fy mywyd.

Feddyliais am hyn wrth ddarllen fy hen ddyddiaduron. Y flwyddyn oedd 1996 a minnau ym mlwyddyn olaf Llanllechid. Gwelais yn syth pa mor ddi-niwed a dwl a bodlon yr oeddwn o’r ysgrifennu – o fynd i hel penbyliaid yng Nghae Poncs i Sion Bryn Eithin yn ffendio porno yng ngwrychoedd yr ysgol a Jarrod yn sgrechian arnynt, ew, atgofion da, os nad od. Erbyn mis Medi roeddwn yn Nyffryn Ogwen. Ar y cyfan, wnes i ddim mwynhau’r ysgol fawr – dwi ddim yn meddwl y buodd tan y chweched i mi wirioneddol dechrau mwynhau bywyd i fod yn onast – ond gwelir o’r ffordd yr ysgrifennais erbyn Rhagfyr ’96 – ‘nothing happened today’, ‘not bothered to write anything’ – y newid mawr sydd rhwng y ddwy ysgol. Mae’n ymylu ar drawmatig.

Un cofnod diddorol oedd o 1997 fymryn cyn etholiad hanesyddol y flwddyn honno. Y geiriau ysgrifennwyd yn y dyddiadur (a oedd am ryw reswm yn ddyddiadur yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol) ‘I want the Lib Dems to win and Plaid Cymru to win a seat’.

Dydi pobl ddim yn hoff o newidiadau, myfi yn eu mysg, ond dylwn ddiolch am rai!

martedì, gennaio 26, 2010

Castell-nedd

Sedd ddiddorol ydi Castell-nedd, dyna fy marn i, er na fentrwm ddweud y ffasiwn beth ddeuddeg mlynedd nôl. Os ydym i weld ‘Portillo Moment’ yng Nghymru, dyma’r bet gorau. Yn wir, byddai’r gogwydd a fyddai ei angen ar yr ail blaid i ennill yma yn ddigon tebyg i hwnnw a gafwyd yn Ne Enfield ym 1997. Ar yr olwg gyntaf, mae Peter Hain yn un o fawrion y Blaid Lafur, yn fwystfil gwleidyddol, ond teimla rhywun ei fod wedi’i ddatgysylltu â chyhoedd Cymru dros y blynyddoedd diweddar. Bydd ystyried y sgandalau yn ei gylch yn ffactor a fydd yn ei niweidio, ond i ba raddau? Efallai tua’r un graddau â Lembit, ond nid yw’r bygythiad i Hain yng Nghastell-nedd i’r un graddau â’r her sy’n wynebu Lembit ym Maldwyn (er y mynegais fy marn am hynny ynghynt).

Beth am felly fwrw ati’n syth bin, ac ystyried Castell-nedd yng nghyd-destun Oes Hain. Er iddo ddod i gynrychioli’r sedd drwy isetholiad yn ’91, ystyriwn 1992 ymlaen. Soniwn yn fras am 1992 a 1997. Rydyn ni’n dueddol o gymryd yn ganiataol erbyn hyn mai Plaid Cymru yw prif wrthwynebwyr y blaid Lafur yng Nghastell-nedd, ond nid dyma’r achos yn ystod y rhan fwyaf o’r nawdegau. Y Ceidwadwyr ddaeth yn ail yma yn ystod yr etholiadau hynny, ond rhaid pwysleisio mai ail ofnadwy fu hi: cafwyd 15% o’r bleidlais ym 1992 a ddisgynnodd i 9% ym 1997.

Roedd mwyafrifoedd Llafur yn y nawdegau yn anferthol yma – yn wir, roedd mwyafrif ’97 Llafur yma yn fwy na’r mwyafrif yn y Rhondda; y ganran a gafwyd yn uwch nag yn Nhorfaen. Dyna felly’r cyd-destun. Ers hynny, mae Llafur wedi dirywio’n enbyd. Ro’n i am addo i’m hun i beidio â dweud ‘dirywiad o draean yn nifer y pleidleisiau ers 1997’, ond, wel, dyna fi wedi’i ddweud – 37.9% i fod yn gwbl gywir, mymryn dros draean.

Dirywiodd y nifer a bleidleisiodd ddeuddeg y cant rhwng ’97 a ’05, ond gwnawn ddadansoddiad byr o’r tair plaid arall ar ôl gweld y newid yn y ganran rhwng y blynyddoedd hynny.

Llafur (-20.9%)
Plaid Cymru (+9.0%)
Dems Rhydd (+8.0%)
Ceidwadwyr (+2.8%)

Rhaid dweud yn gyntaf bod dirywiad Llafur yma yn waeth na’r hyn a welwyd gennym hyd yn hyn. Mae’r Ceidwadwyr wedi tynnu’n ôl mymryn ond dydyn nhw ddim yn rym yma o gwbl – maen nhw’n amhwysig a dweud y lleiaf.

Dydi hi ddim yn syndod gweld bod Plaid Cymru wedi gweld y fath gynnydd – rhyw fath o orlif, bosib, o Lanelli a Dinefwr, ond mae’r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd wedi gweld cynnydd trawiadol yn yr ardal. Yn wir, yn 2005, roedd y ddwy blaid o fewn mil o bleidleisiau i’w gilydd fwy na heb – Plaid Cymru ar 17% a’r Dems Rhydd ar 14%. Y gwahaniaeth ydi bod elfen naturiol i gefnogaeth y Blaid yma, ond nid i’r Rhyddfrydwyr i’r un graddau.

Gan dynnu’r Ceidwadwyr o’r hafaliad (oni chawn wneud hynny ym mhobman!), sy’n ddigon teg dwi’n meddwl, dyma’r newid mewn pleidleisiau ers 1997.

Llafur -11,489
Plaid Cymru +2,781
Dems Rhydd +2,515

Felly cynnydd parchus i’r cenedlaetholwyr a’r rhyddfrydwyr ond cwymp erchyll, os nad di-droi’n ôl, yn y bleidlais Lafur.

Tueddaf i feddwl y bydd y bwlch rhwng etholiadau Cynulliad a San Steffan yn araf leihau yn ystod y blynyddoedd nesaf, a chawn olwg gyflym ar sefyllfa’r etholaeth ar lefel genedlaethol ac nid Prydeinig am eiliad. Dydi crap Llafur ar sedd Bae Caerdydd ddim yn gadarn o gwbl, a Phlaid Cymru yw’r unig rai a all gipio’r sedd. Dyma ganlyniad 2007:

Llafur 10,934
Plaid Cymru 8,990
Mwyafrif Llafur: 1,944 (7.7%)
Gogwydd o 7.3% Llaf > PC

Cafodd Plaid Cymru lai o bleidleisiau yma yn 2007 na chafodd yn ’99, a hefyd Llafur, ond dydi’r canrannau na nifer y pleidleisiau yn ofnadwy o wahanol. Yr hyn sy’n wahanol ydi bod y mwyafrif yn is. Mae hon yn sedd y gall Plaid Cymru ei chipio'r flwyddyn nesaf - os saif Adam Price byddwn i’n fodlon rhoi bet hegar arni - ac o wneud hynny, ymhen rhyw ddegawd, gall hon droi’r wyrdd ar lefel San Steffan, yn debyg i sut y gall Llanelli wneud eleni.

Y gwahaniaeth ydi seddau cyngor. Er bod y rhan fwyaf o seddau cyngor Plaid Cymru ar y cyngor yn yr etholaeth hon, ni welwyd newid mawr yma ers blynyddoedd, ac mae Castell-nedd Port Talbot yn un o ddau gyngor a reolir gan y Blaid Lafur gyda mwyafrif dros bawb. Mae hynny’n bryder os yw’r cenedlaetholwyr am weld cynnydd cynaliadwy yma.

Dyma ganlyniad Etholiad Ewrop 2009:

Llafur 5,419 (29.9%)
Plaid Cymru 4,175 (23.0%)

Rŵan, gwn mai adrodd ffigurau yr wyf yn yr uchod yn hytrach na dadansoddi. Gellir o bosibl dweud hyn, fodd bynnag; mae dirywiad Llafur yng Nghastell-nedd wedi bod yn aruthrol, a Phlaid Cymru sydd wedi camu i’r bwlch yn fwy na neb arall. Llanelli i raddau llai ydyw.

Dwi hefyd yn meddwl y bydd agwedd Peter Hain at ddatganoli, y ffordd y mae wedi mynd ati i gyflawni ei rôl fel Ysgrifennydd Gwladol, a hefyd yr holl ffars yn ymwneud â’i ymgyrch am y dirprwy arweinyddiaeth, am ei niweidio’n fawr. Mae’n amhosibl gwybod i ba raddau heb fod yn yr etholaeth o ddydd i ddydd – ond dwi’m yn meddwl ei fod o wedi pechu digon i roi fflich i fwyafrif sy’n agosáu at 13,000.

O ystyried y cyfan o’r uchod, tueddwn i feddwl na chaiff Plaid Cymru lai na 7,000 o bleidleisiau yma eleni, ond mae’n anodd ei gweld yn torri’r 10,000 mewn gwirionedd. O ran Llafur, yn sicr ni chaiff lai na tua 12,000 o bleidleisiau, a byddwn i’n dueddol o ddweud y bydd hi’n cael tua phymtheg mil.

Dydi’r polau fawr o ddefnydd i ni fan hyn. Po fwyaf y darllenaf am bolau Cymreig YouGov, y mwyaf dwi’n eu hamau - ond mewn sedd lle nad yw’r Ceidwadwyr yn rym ni fydd y polau Prydeinig o ddefnydd ychwaith. Pan fo Plaid Cymru ar gynnydd yma (2001 a 2007) mae’n dueddol o fod yn ogwydd rhwng saith a naw y cant wrth Lafur i’r Blaid. Yn wahanol i ambell le, nid dirywiad enfawr Llafur yn unig sy’n esbonio’r gogwydd, ond hefyd gynnydd ym mhleidlais Plaid Cymru. Nid ydi’r Blaid am weld cynnydd fel y gwelsai yn etholiad 2001 ledled Cymru, yn fy marn i, ond mae Llafur yn waeth ei byd o gryn dipyn, felly tueddaf i feddwl bod gogwydd o tua naw y cant yn ddigon posibl.

Gyda dwy ran o dair o’r etholwyr yn pleidleisio, bydda’r canlyniad yn rhywbeth tebyg:

Llafur 16,400
Plaid Cymru 9,800
Mwyafrif: tua 6,600

Yn reddfol, mae’n ddigon posibl y gall Plaid Cymru gyrraedd tua deg mil o bleidleisiau yma eleni. Wedi’r cyfan, mae tua hynny wedi pleidleisio dros y Blaid o leiaf unwaith, ond tuedda rhywun i feddwl bod y ffigur i Lafur (-2,400) efallai yn optimistaidd o’i rhan hi. A fyddai’n deg, tybed, ddweud iddi ddisgyn i tua’r pymtheg mil a rhannu’r gweddill rhwng y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol (a gall yr ail yn sicr dynnu pleidleisiau wrth Lafur, hyd yn oed yma)? Mae’n ddigon posibl.

Yn olaf, beth am alw draw i’r bwcis? Dyma’r odds diweddaraf y gallwch ei gael ar Gastell-nedd:

Llafur 1/7
PC 4/1

Mae’n syndod mawr gen i fod y Blaid yn 4/1 – pris gwael iawn dwi’n credu, oherwydd er gwaethaf popeth welwn ni ddim ogwydd o 18% yng Nghastell-nedd eleni, sef y gogwydd sydd ei angen ar Blaid Cymru i ennill yma. Pe bawn yng nghyd-destun y Cynulliad, byddai’n wahanol. Os llwydda Plaid Cymru atgyfnerthu o ddifrif yn ardal Llanelli dros y ddegawd nesa’, a phe bai etholiad mewn degawd, byddwn i ddim mor siŵr. Ond ‘Portillo Moment’, nid a gawn eleni. Sori i’ch siomi!

2010 yw hi, nid 2020, ac eleni bydd Llafur o hyd yn teyrnasu yma.

Proffwydoliaeth: Peter Hain i ddychwelyd i San Steffan, gyda mwyafrif llawer llai o amgylch y 6,000.

lunedì, gennaio 25, 2010

Dillad Dad a hanesion eraill

Bob tro y bydd rhywun yn cyrraedd adra mae dau sicrwydd. Y cyntaf yw bod Nain yn fwy gwallof nag erioed, ‘rhen gorigl gam iddi, ac y bydd Mam wedi prynu dau beth i mi. Y cyntaf ydi jel cawod. Tasech chi’n gweld faint o jel cawod sy’n fy llofft adra fe fyddech chi’n taeru ‘na fi ydi’r person glanaf fu. Yn anffodus dydi hynny ddim yn wir, fi fydd y cyntaf i gyfaddef fod yn gas gen i folchi ac y bydda i dim ond yn gwneud o ddyletswydd. Ro’n i’n ddigon hapus yn cael dwy gawod yr wythnos yn y Brifysgol, sy’n ddrwg am fyfyriwr hyd yn oed. A gwyddom y ffieidd-dra myfyrwyr yn eu llawn ogoniant.

Yr ail beth fydd Mam wedi prynu ydi crysau-t. Mae ‘na ddwy ochr i’r geiniog hon, a’r ddwy ochr yn echrydus. Yn gyntaf, fydda i byth yn eu licio. Fydda i’n mynnu nad ydi hi’n eu prynu ond mi wnaiff beth bynnag – pwy ddiawl fu gan fam a wrandawodd? O ran hynny bydd yn prynu ambell un a phob un wan jac naill ai union yr un peth ond mewn lliw gwahanol, neu’n debyg uffernol.

These are the ones I got you from Cheshire Oaks – they’re expensive ones.
I don’t like them, Mam.
Oh well, never mind, they were only cheap.


Dyna ddudodd y sgriwan annwyl y tro hwn. Yr ail beth ydi bod gen i ddigonedd o ddillad beth bynnag. Tasa Broadway yn llwyfannu drama chavaidd ‘roll byddai’n rhaid gwneud ydi galw acw a gofyn cael benthyg dillad i gast cyfan. Y broblem efo fi ydi na fydda i’n lluchio dillad yn aml iawn, felly mae ‘na ddigonedd o sanau a phethiach yn yr ystafell sy’n hen fel y diawl ond sy’n rhywsut dianc fy ngolwg.

Yn bur ffodus byddaf yn rhoi trefn ar bethau heno, gan fod y bobl elusen wedi rhoi bag drwy’r drws. Dwnim os ydyn nhw isio sanau, ond byddan nhw’n cael pentwr bob tro y byddan nhw’n dod acw. Sion Corn y Sanau ydwyf yn wir.

Ond dyna drasig oedd gweld bod Dad wedi prynu dillad iddo’i hun. O, mam bach. Mae gan fy Nhad synnwyr ffasiwn ceffyl dall fel y mae hi, ond ar ôl i Mam ddweud bod angen rhagor o ddillad arno y peth olaf yr awgrymodd wrth ddweud hynny oedd y dylai brynu ei ddillad ei hun.

Felly, ac yntau wedi bod ym Mangor gydag Anti Rita, daeth nôl gyda dau ddiledyn erchyll. Y cyntaf oedd crys-t piws, sy’n rhy dynn iddo. Argol, os wyt ti’n cael dy mid-life creisis rŵan, Dad, yn dy oed a’th amser, fyddi di’n fyw am byth, feddyliais i. Yr ail beth oedd fflîsî arall fyth. Mae gan Dad fwy o fflîsîs na neb arall yn y byd, a phob un yn llwyd neu’n frown.

Pan fydda i’n hanner cant a chwech, dwi ddim isio bod fel Dad.

domenica, gennaio 24, 2010

Aberafan ac Ogwr

Dyma ddwy etholaeth gyfagos dwi’n teimlo na ddylent gael dadansoddiadau trylwyr yn eu cylch, ac felly rhyw fath o ddadansoddiadau lite fydd y rhain. Y rheswm am hyn ydi eu bod ymhlith y rhai lleiaf tebygol o newid dwylo, i’r graddau nad ydyn nhw am newid dwylo, a’u bod yn etholaethau tebyg i’w gilydd. Dydi’r rhain ddim yn dir naturiol i’r un blaid arall eithr y Blaid Lafur, ac mae’n anodd gweld pwy all lenwi’r bwlch yn y naill neu’r llall. Dechreuwn gydag Ogwr.

Cafodd Llafur 74% o’r bleidlais yma ym muddugoliaeth 1997. Hyd yn oed yn isetholiad 2002 cafodd dros hanner y bleidlais. Ond i geisio dyfalu beth all ddigwydd yn 2010, edrychwn ar faint y mae nifer pleidleisiau’r pleidiau wedi cynyddu neu ddirywio ers 1997. Ceir canlyniad yr etholiad cyffredinol diwethaf a’r newid ers ’97 yn y cromfachau.

Llafur 18,295 (-9,868)
Dem Rhydd 4,592 (+1,082)
Ceidwadwyr 4,243 (+527)
Plaid Cymru 3,148 (+469)

Y Democratiaid Rhyddfrydol, felly, yw’r blaid sydd wedi elwa fwyaf ers 1997, ond nid oes neb wedi manteisio o gwbl ar gwymp y Blaid Lafur yma. Roedd y Rhyddfrydwyr, Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr o fewn 5% i’w gilydd ym 1997 a dyna’r sefyllfa o hyd yn 2005. Cafodd Llafur bymtheg y cant yn llai o’r bleidlais ers ’97, ond, a dwi’n diawlio’n hun am ailadrodd hyn eto, aeth ei phleidlais i lawr tua thraean. Ni wnaeth wahaniaeth – roedd Ogwr o hyd yn waetgoch.

O alw draw i’r Cynulliad am eiliad, llwyddodd Plaid Cymru gael 27% o’r bleidlais ym 1999. Erbyn 2007 Plaid Cymru oedd yn yr ail safle unwaith eto ond roedd ei phleidlais wedi dirywio i 17%. Cafodd Llafur dros hanner y bleidlais – mymryn yn fwy na chafodd ym 1999. Yn draddodiadol, os yw Llafur yn ennill yn gadarn mewn etholaeth Cynulliad, mi wnaiff yn well fyth mewn etholiad San Steffan.

Felly does neb am ddisodli Llafur yma. Gan ei bod yn sedd mor ddiogel i Lafur, mae rhywun yn llawn disgwyl i’w phleidlais ddisgyn, gan nad oes perygl iddi golli. Ond dyma un o ambell sedd y gallai’r nifer sy’n pleidleisio ostwng hyd yn oed yn is na 58% yr etholiad diwethaf.

Proffwydoliaeth: Mwyafrif o tua 10,000 i Lafur.

I’r gorllewin, ceir etholaeth Aberafan, y mae ei chadernid i Lafur yr un mor amlwg, ac yn un o ambell etholaeth lle y cafodd dros 25,000 o bleidleisiau yn fynych. Ers yr wythdegau, mae Plaid Cymru, y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi dod yn ail yma, ac yn ddiweddar nid ydynt yma chwaith fwy na phump y cant oddi wrth ei gilydd. Beth am ddilyn yr un fformiwla ag uchod felly o ran nifer y pleidleisiau?

Llafur 18,077 (-7,573)
Dem Rhydd 4,140 (+61)
Plaid Cymru 3,545 (+1,457)
Ceidwadwyr 3,064 (+229)

Awn ni ddim i fanylu ond yn amlwg Plaid Cymru ydi’r unig blaid sydd wedi manteisio ar ddirywiad Llafur. Mae’n werth nodi, fodd bynnag, hyd yn oed yn yr wythdegau a dechrau’r nawdegau, fod y Ceidwadwyr a’r Rhyddfrydwyr yn fynych cael dros 5,000 o bleidleisiau yma. Dim ond y cenedlaetholwyr sydd wedi gweld cynnydd ers hynny.

Galwn draw i’r Cynulliad yn gyflym eto. Mae’r duedd ddiweddar at ymgeiswyr annibynnol wedi bod yn amlwg yn Aberafan, ond i bob pwrpas mae’r pedair prif blaid yn eu hunfan ers 1999 – nid yn annhebyg i Ogwr. Roedd hyd yn oed mwyafrif Llafur yn debyg. Tra gellir gweld bod Llafur yn dirywio yma, a hefyd yn Ogwr, nid yw i’r fath raddau â rhan fwyaf o’r wlad, ac nid oes neb wedi llenwi’r bwlch. Pe gwelwn dranc gwirioneddol ar y blaid Lafur yn ystod y blynyddoedd nesaf, bydd hon yn un o’r seddau a fydd yn parhau’n driw iddi tan y diwedd chwerw.

Hyd yn oed yn etholiadau Ewrop y llynedd cafodd Llafur tua’r un faint o bleidleisiau a’r tair plaid arall gyda’i gilydd. Yn wir, yn Aberafan dydi nifer y cynghorwyr yma heb newid, i bob pwrpas, ers blynyddoedd chwaith – Llafur sy’n rheoli yma o hyd ar gyngor Castell-nedd Port Talbot, sef wrth gwrs dim ond un o ddau gyngor a reolir ganddi ben ei hun.

Gallech wneud dadl dda o blaid unrhyw un o’r tair plaid arall yn dod yn ail yma eleni. Yr unig sicrwydd y tu hwnt i hynny ydi y bydd Llafur yn teyrnasu yma o hyd – gyda mwyafrif erchyll o fawr, os nad un sy’n cymharu â dyddiau ei llawn gogoniant.

Proffwydoliaeth: Unwaith eto, mwyafrif tua 10,000 i Lafur.

Dwi’n meddwl ar ôl ymwared â Threfaldwyn, Aberafan ac Ogwr bod nifer o etholaethau diddorol iawn i’w dadansoddi yng Nghymru: Ynys Môn, Bro Morgannwg, Gorllewin Caerfyrddin a Phontypridd yn eu plith. Wrth i ni gyrraedd yr hanner ffordd, dyma sut mae Cymru Rachubaidd 2010 yn edrych erbyn hyn.



sabato, gennaio 23, 2010

Trefaldwyn

Pnawn da bawb! Ar ôl ambell sedd bur anniddorol (sori os dwi’n pechu rhywun yn dweud hynny!) gall sedd Trefaldwyn fod yn ddiddorol eleni – yn ôl rhai. Bydd unrhyw un sy’n darllen y dadansoddiad hwn yn gwybod yn iawn hanes tir gwleidyddol y rhan hon o’r byd, a’r ddau a fydd yn mynd benben â’i gilydd i’w chynrychioli. Ond adawn ni hwy tan ddiwethaf, ia?

Dwi’n meddwl fy mod yn gywir yn dweud mai dyma’r unig un o holl seddau Cymru nas cynrychiolwyd byth gan Lafur, felly teg dweud na fydd hi’n disgwyl buddugoliaeth annisgwyl yma eleni. Chafodd Llafur fyth ugain y cant o’r bleidlais yma dros y deng mlynedd ar hugain ddiwethaf. Yn wir, byddwn i ddim yn synnu petai Llafur yn colli ei hernes eleni – caiff yn sicr llai na deg y cant o’r bleidlais.

Dydi Trefaldwyn ddim cweit mor anobeithiol i Blaid Cymru o ran natur yr ardal. Yn wir, mae ardaloedd o’r etholaeth sy’n ymddangos yn dir naturiol iddi, ond mae’r rhain yn ardaloedd isel eu poblogaeth, yn bennaf yn y gorllewin pellaf. Gan ddweud hynny, ‘does gan Blaid Cymru’r un cynghorydd ym Mhowys gyfan, felly yn amlwg ‘does seiliau cadarn i’w chefnogaeth adeiladu arni.

Unwaith erioed y mae wedi cael dros 15% o’r bleidlais yn yr etholaeth, sef ym 1999. Fodd bynnag, mae ymgyrch frwd yn mynd rhagddi, ac fe ddylai’r Blaid o leiaf oddiweddyd Llafur i’r trydydd safle. I fod yn onest, byddai peidio â gwneud yn siomedig iawn.

Awn felly fesul etholiad i weld yr unig ddwy blaid all ennill Trefaldwyn, sef y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol. Erbyn 1997, roedd mwyafrif y Dems Rhydd yn gadarn iawn, sef bron yn 20%, a phleidlais y Torïaid wedi dirywio o draean ers ’83, i lawr o dros 12,000 i fymryn uwch 8,000. I ddadansoddi 2010 rhaid i ni ddadansoddi’r hyn a ddigwyddodd yma yn Oes Lembit.

Fel y gwelwch, fydd hynny ddim yn cymryd hir.

Gwnaeth Lembit Opik enw iddo’i hun yn gyflym iawn, a daeth yn aelod lleol digon poblogaidd. Gogwydd wrth y Ceidwadwyr gafwyd yn 2001 wrth i’w pleidlais hwy lithro’n is fyth. Yn gryno, dyma eto’r sefyllfa bedwar blynedd yn ddiweddarach - gostyngodd pleidlais y Ceidwadwyr i 27% gyda nifer eu pleidleisiau’n sefydlog ar ychydig dros 8,000. Llwyddodd Lembit gael dros hanner y bleidlais. Peidiwn â diystyru hynny - ym mhrif gadarnle Cymreig y Rhyddfrydwyr, chafodd y blaid ddim mwyafrif o’r pleidleisiau ers degawdau. Roedd ennill 51% o’r bleidlais yn gamp.

Ond yn ôl rhai gall y Rhyddfrydwyr chwalu’n llwyr yma eleni. Er bod Lembit Opik erioed wedi mwynhau sylw’r cyfryngau, mae ei fwynhad o hynny wedi cynyddu’n sylweddol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Ar yr un llaw mae’n dangos ei fod yn fod dynol, ac mae ganddo broffil y gall y rhan fwyaf o wleidyddion ond dyheu amdano. Wedi’r cyfan, dyma Ddemocrat Rhyddfrydol amlycaf Prydain, heb os – mae mwy o bobl yn gwybod pwy ydi Lembit na Nick Clegg. Mae’r ffaith ei fod yn ysgrifennu i’r Daily Sport yn hytrach na’r Mail neu Express yn ategu at hynny.

Gall sylw drwg, wrth gwrs, ddod â ben i yrfa wleidyddol. Ond er bod Lembit yn dod drosodd fel ffŵl, dydi o ddim yn llwgr nac yn annifyr. Dyn od, ond dyn iawn yn y bôn. Gall pobl faddau hynny, a gall pobl droi yn erbyn y rhai sy’n ymosod ar gymeriadau o’r fath, sydd yn eu crombil yn ddigon diniwed.

Ar y llaw arall, dydi bod yn ffŵl fwy nag unwaith ddim yn fantais wleidyddol. Mae’n gwneud iddo ymddangos ei fod yn esgeuluso ei ddyletswyddau gwleidyddol ac nad yw’n gwasanaethu ei etholwyr i’w lawn allu. Y gwir ydi, mae ei weithgareddau dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf wedi ennyn cythruddo yn fwy na chanmoliaeth.

Mae Glyn Davies, wrth gwrs, yn wrthwynebydd cadarn. Byddai rhai yn dweud adnabyddus – ond y gwir ydi y tu hwnt i’r swigen wleidyddol (sy’n cynnwys ninnau sy’n ymddiddori mewn gwleidyddiaeth) ‘does fawr neb yn gwybod pwy ydi o. Mae pob un wan jac o bobl Maldwyn yn gwybod am Lembit – ni ellir dweud yr un peth am Glyn. Enw da sydd ganddo, nid enw mawr.

Tasem yn sôn am etholiad Cynulliad, byddwn i’n llai siŵr o ddiystyru Glyn Davies. Yn y sedd honno mae’r Ceidwadwyr yn fwy peryglus.

Ym 1999 cafodd y Rhyddfrydwyr, yn ôl eu harfer diweddar, bron i hanner y bleidlais, neu 48%. Gyda 23%, roedd y Ceidwadwyr ymhell iawn y tu ôl, dyna’n wir eu canlyniad gwaethaf yma ers cyn cof. Ond rhwng 1999 a 2007 roedd y gogwydd i’r Ceidwadwyr yn wyth y cant, a’r mwyafrif Rhyddfrydol yn is na dwy fil o bleidleisiau. Heb ddylanwad UKIP, a gafodd 10% o’r bleidlais, digon posibl mai Dan Munford, nid Mick Bates, fyddai’r aelod cyfredol. Os nad ydi Trefaldwyn yn un o brif dargedau’r Ceidwadwyr yn 2010 mae rhywbeth o’i le.

Y Ceidwadwyr hefyd enillodd yma yn 2009. Daeth y Democratiaid Rhyddfrydol yn drydydd y tu ôl i UKIP. Ymddengys bod felly gefnogaeth weddol i’r blaid fechan honno yn y rhan hon o Gymru, ond ymddengys ei bod yn dwyn cefnogaeth gan y ddwy brif blaid yma. Yn 2010, bydd hynny’n fanteisiol i’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Nid diystyru’r canlyniad ydw i, roedd yn ganlyniad echrydus i’r Rhyddfrydwyr. Ond ai dylanwad Lembit oedd hynny, neu bobl a oedd am roi cic i Lafur drwy wisgo esgidiau Ceidwadol neu UKIP? Yr ail, dybiwn i.

Er gwaethaf y ffaith bod y niferoedd sampl ym mhob ardal yn erchyll o fach, awgrymodd arolwg diweddaraf YouGov o Gymru y bydd y bleidlais Ryddfrydol yn syrthio bump y cant a’r Ceidwadwyr codi ddeg y cant. Dwi’n reddfol amheus o bolau Cymreig, hyd yn oed un sy’n defnyddio rhyw lun o etholiadeg, ond petai hynny’n digwydd yn Nhrefaldwyn, ni fyddai’r Ceidwadwyr yn ennill – byddai mwyafrif gweddus gan y Rhyddfrydwyr o hyd.

A dyna gwblhau’r dadansoddiad byrraf a wnaed gennyf, ac mi ddywedaf wrthych pam: fydd Trefaldwyn ddim yn etholaeth eithriadol o ddiddorol eleni. Er gwaethaf ‘camymddwyn’ (a all yn hawdd apelio at rai pobl, chwi gofiwch) Lembit, ac ‘amlygrwydd’ Glyn Davies (mynegais fy marn am hynny uchod) y gwir ydi y bydd Trefaldwyn yn parhau’n etholaeth Ryddfrydol. Mae angen gogwydd anferthol o bron i ddeuddeg y cant ar y Ceidwadwyr i ennill yma - yn erbyn nid y blaid fawr amhoblogaidd ond y drydedd blaid.

Mewn etholaeth fel hon, bydd yr ychydig Lafurwyr yn bendant yn dewis Rhyddfrydwr. Tybiaf y gallai ambell Bleidiwr fenthyg pleidlais i Glyn Davies, ond ‘does llawer ohonyn nhw yma chwaith. A bydd ymddangosiad UKIP yma’n rhwystr i’r Ceidwadwyr yn fwy na’r Dems Rhydd.

Unwaith erioed y mae’r Rhyddfrydwyr wedi colli yma, sef 1979. Enillwyd y sedd yn hawdd ers 1983, a dydi’r Ceidwadwyr heb gael dros ddeuddeg mil o bleidleisiau ers 1987. Rŵan, byddwn i ddim yn synnu petaent o leiaf yn dechrau adennill y lefel honno o gefnogaeth yn 2010 – heb amheuaeth caiff Glyn Davies ymgyrch dda ac y bydd gogwydd sylweddol ato - ond dwi ddim yn meddwl bod perygl o ddifrif y bydd y bleidlais Ryddfrydol yn syrthio’n llai na 40%.

Proffwydoliaeth: Mwyafrif o 3,000 i Lembit Opik, a synnwn i ddim iot petai’n fwy na hynny.

venerdì, gennaio 22, 2010

Arfaethedig Daith

Diolch byth fy mod i’n mynd i’r gogledd. Mae’r car wedi bod drwy’r amser gwaethaf posib yng Nghaerdydd wrth i’r syspenshyn golapsio nos Fawrth a dwi heb ei gael yn ôl. Ond, â gras Duw, mi fyddaf yn ei gael yn ôl y pnawn ‘ma ac i fyny’r af i Rachub, pentref fy nghalon a’m bryd.

Eironi’r peth ydi mai un o’r rhesymau dwi’n mynd i’r gogledd ydi cael y brêcs wedi’u gwneud yn Ivor Jones Llangefni. Fanno y mae Nain wedi mynd erioed a dywed hi mai fanno y dylwn fynd. Car Nain ydi’r car o hyd, ond gan y bydda i’n bump ar hugain eleni, ac felly yn ôl pob tebyg wedi goroesi traean cyntaf fy mywyd, fydd yr yswiriant yn is ac i’m henw y daw.

Fydd Nain hefyd yn cael ei phen-blwydd ddydd Sadwrn. Dydyn ni byth wedi bod yn deulu sy’n dathlu penblwyddi a’u bath. Pan fyddwch chi’n cyrraedd oed Nain rydych chi’n dueddol o ofni pen-blwyddi a gorymdaith ddi-baid angau, nid fy mod isio swnio’n anobeithiol. Mae, wrth gwrs, fanteision i fod yn hen – oed yr addewid ydi hi, wedi’r cwbl.

Un peth fydd yr henoed yn ei wneud sy’n gwneud i mi feddwl “o myn uffarn” ydi bwyta’r un bwyd ddydd ar ôl dydd. Wrth gwrs, deuant o oes lle na cheid pasta a chyri a’u bath (fedra i ddim cyfleu jyst faint dwi’n licio ysgrifennu “a’u bath”). Fydd fy Nhaid yn ymhyfrydu yn dirmygu bwyd modern, i’r graddau ei fod yn honni nad oes dim yn bod efo bwyta braster. Mae’r eironi iddo gael strôc oherwydd ei fod yn bwyta gormod o fraster wedi’i golli’n llwyr arno.

Bydd Nain ar y llaw arall yn licio cyri, a phasta, ond nid cogyddes mohoni. Yn wir, bydda’n well gen i lyfu silff ffenest ‘na bwyta bwyd Nain yn ddigon aml, ond mi all wneud grefi da sy’n gorchuddio popeth arall. Y wers i’w dysgu ydi os na allwch goginio, dysgwch wneud grefi da neu gael swydd sy’n talu i chi allu brynu uffarn o lot o sos coch.

A thros y penwythnos, gan na fyddaf yn meddwi (wel, cawn weld!) gobeithiaf ddod â dau ddadansoddiad gwleidyddol arall i chi. Felly byddwch falch bod gennych rywbeth i edrych ymlaen ato.

giovedì, gennaio 21, 2010

Dartiau

Dwi’n gobeithio mynd i weld dartiau yng Nghaerdydd ym mis Ebrill. Rhys y dyn moel sy’n ceisio cael tocynnau, a chredaf y deuai Haydn (drewllyd) a Ceren Sian (absennol ers misoedd ond ddim mor ddrewllyd). Bydd rhywun wrth ei fodd efo dartiau, mae’n gêm y galla i eistedd i lawr a’i wylio yn ddi-dor. Mae’n gynhyrfys a ‘sdim angen i chi fod yn iach i gystadlu. Os rhywbeth, anogir afiachrwydd, sydd i’w ganmol yn y gymdeithas nanïaidd hon.

Pa chwaraeon all rhywun feddwi a gweiddi a dawnsio ynddo, wir? Heblaw am griced - ond mae’n gas gen i griced – mae o bosibl yn un o’m Deg Casineb Uchaf, a chredwch chi fi mae’n frwydr frwd bod yn y rhestr honno. Ew, na, ‘sdim i guro cyffro dartiau.

Ro’n i’n eithaf da ar ddartiau am gyfnod. Yn fy llofft yn Rachub, y mae Mam yn gwrthod ei gweddnewid er gwaetha’r ffaith nad ydw i’n byw yno’n gyson ers dros chwe mlynedd, mae dartfwrdd. Ro’n i’n treulio amser maith yn ymarfer, er fy mod wedi cael llai o drebl twenties na theithiau i’r lleuad. Mae Mam yn dda yn darts, roedd hi’n fy nghuro’n eitha’ cyson, dyna pam y bu i mi chwarae dartiau ben fy hun gan fwyaf. Doedd Dad da i ddim, ond i fod yn deg dydi Dad ddim yn dda yn unrhyw beth. Tad ydyw, wedi’r cyfan. Dangoswch i mi dad all wneud rhywbeth, yn dda, a chi a gewch wahoddiad i’r tŷ am lasiad o win coch da a chawn weld sut ddatblygith y nos.

Dydi rhai pobl ddim yn ystyried dartiau yn chwaraeon. Yn fy ffordd gul o feddwl dwi’n anghytuno â phawb sy’n anghytuno â mi. Mae gen i set o bethau yn fy mrên o bethau sy’n chwaraeon a phethau sy ddim. Dydi golff ddim, er enghraifft. Anhgytuno? Dos i ffwc.

Ta waeth, gobeithio y cawn docynnau ac y cawn fynd. Mae’n braf cael rhywbeth i edrych ymlaen ato!