lunedì, settembre 14, 2009

Hanes Sinistr Moel Faban

Dwi ddim yn meddwl i mi erioed ysgrifennu blogiad heb wirioneddol fod isio, ond dwi am wneud hyn, ac yn ôl pob tebyg fe fyddwch yn meddwl fy mod i yn, wel, nytar. Wn i ddim a ydw i’n gall i ysgrifennu hyn, chwaith. Dwi ddim yn gwybod sut i ddweud yr hyn dwi isio’i gyfleu, a beryg mai neges flêr fydd hon, ond ers ei glywed mae o’n fy hambygio a fedra i ddim peidio â dweud.

Mae’n wybodaeth gyffredin, yn ôl fy neall, ar hyn o bryd yn Nyffryn Ogwen bod ‘na bethau rhyfedd a sinistr yn mynd ymlaen ar lethrau Moel Faban y dyddiau hyn. Nid fanno’n unig, ychwaith, ond at ganol y Carneddau eu hunain. Adroddaf yn ôl yr hyn a glywais.

Dechreua’r hanes a glywais gyda fy chwaer a’i chariad. Ddydd Mercher diwethaf, y 9efd o Fedi, roedd ‘na sŵn pibgod (bagpipe) yn canu ar Foel Faban. Mae gan gariad fy chwaer fwy o gelloedd retina na phobl eraill, sydd i bob pwrpas yn golygu y gall weld yn llawer gwell a manylach na’r rhan fwyaf ohonom, ac nad eryr mohono, a hefyd yn dda iawn yn y nos. Gŵr mewn cilt ganai’r bibgod ac roedd ‘na sawl cân i’w clywed, o Amazing Grace i Galon Lân. Gwelsant bobl yn mynd i mewn i Dwll Beryl ar Foel Faban, ac o amgylch y mynydd.

Felly aeth fy chwaer a’i chariad at y mynydd i chwilio.

Yn dilyn y pibgodiwr roedd pobl, nifer o bobl, llawer gyda chlogynau, yn dilyn y bibgord gan nodio’u pennau, gan fwy neu lai anwybyddu’r chwaer a’i chariad. Yn ôl y chwaer roedd ar ambell un fathodyn, sef yn ei hôl hi fathodyn y Seiri Rhyddion. Wn i ddim a ydi hynny’n wir mewn difri ac a ydi hi’n andabod y nod, ond dyna ddywedodd.

A hithau’n nosi roedd nifer ohonynt wedi croesi Cwm Llafar a thua Gyrn Wigau, a hynny ar gryn gyflymder, yn mynd at grombil mynyddoedd y Carneddau, rhai gyda chlogynau, rhai gyda llusernau. At ba ddiben, wn i ddim. Pwy ddiawl fyddai am dreulio noson yno, heb offer na dim, wn i ddim, ond alla’ i ddim smalio i hynny fy anesmwytho’n eithriadol ben ei hun. A dyn ag ŵyr, dydi hyd yn oed y rhai sy’n adnabod pob deilien wair arnynt ddim yn gwybod hanes calon y Carneddau yn nyfnder y nos.

Yn ôl Dad mae o’n credu iddo glywed y bibgodau yn canu o’r blaen ar y mynydd. Wn i ddim faint yn ôl oedd hynny chwaith. Yn sicr, er na fedraf yn bersonol gadarnhau hyn ar hyn o bryd er y gwnaf os gallaf, mae cerrig ac esgyrn defaid wedi’u gosod mewn ffurfiau mewn rhai mannau penodol.

Ond nid dyna’r diwedd. Mae Mam yn ffrind i un o’r dynion sy’n edrych ar ôl merlod gwyllt y Carneddau o’i wirfodd, un o’r ychydig rai, ynghyd ag ambell i ffermwr wrth gwrs, sy’n treulio cryn amser ar y Carneddau. Rŵan, nid fy mwriad ydi bod yn or-ddramatig fel petae hyn yn rhywbeth o ffilm, ond yn ei eiriau ef nid yw’r mynyddoedd mwyach yn lle i fynd ar eich pen eich hun – mae o’n dweud bod pethau rhyfedd ar waith yno.

Dywedodd stori wrthi, sydd rai blynyddoedd nôl bellach am wn i, am rywbeth y bu iddo ef a’i dad weld yno un nos, rhywbeth a fyddai fel rheol yn rhagfarnllyd yn erbyn ‘pobl od’ er diffyg disgrifiad gwell – pobl noethlymun yn dawnsio o amgylch coelcerth, i gyd off eu pennau. Nis gwelwyd ef na’i dad ganddyn nhw, ond mae meddwl bod rhwybeth felly actiwli yn digwydd, ac nid yn anwiriad, yn, eto, amesmwythol.

Mae cariad fy chwaer, efo’i olwg ragorol, yn dweud iddo weld pobl yn y nos yn crwydro ar Foel Faban. Y mae’n wir i hofrennydd yr heddlu sawl gwaith erbyn hyn lanio ar y mynydd, yn agos at Dwll Beryl, a chwilio yno, cyn ymadael eto.

Seiri Rhyddion, gorymdeithiau gyda’r hwyr a llusernau yn y mynddoedd, dawnsio noeth o amgylch y tân, pibgodau – mae’n swnio fel un rhagfarn fawr neu ffilm arswyd. Ond dyna hanes y Carneddau ein dyddiau ni. A thro nesa’ y byddaf i yn Rachub, y peth cynta dwi am ei wneud ydi mynd i fusnesu (wrth gwrs!). Mae’r mynyddoedd hynny i mi yn rhywbeth sanctaidd, ac mae gweld unrhyw amhuro arnynt yn fy mrawychu yn ddirfawr.

venerdì, settembre 11, 2009

Ymwelid y Parentals. Eto.

Mae’r rhieni yn dod i lawr i Gaerdydd eto fyth y penwythnos hwn. Dydyn nhw ddim yn rhoi munud o lonydd i mi ar hyn o bryd cofiwch, ond o leiaf y bydd Sky yn help i gadw trefn arnynt y tro hwn. Gallai Dad eistedd o flaen teledu drwy’r dydd. Bydd yn mynnu ei fod yn gwneud pethau eraill, ond ar wahân i ddarllen y Daily Star mae hyn yn gelwydd o’r noethaf rin. Mae Mam ar y llaw arall yn dweud nad oes angen teledu arni, ond i raddau helaeth mae hi’n dweud celwydd.

Ah, Mam. Un anodd i’w disgrifio ydi hi cofiwch. Dwi’n meddwl mai gwir nod Mam mewn bywyd ydi ymuno â rhengoedd y dosbarth canol. Mae hi’n lanhawraig ac yn llnau i lu o bobl, ac alla’ i ond ei disgrifio fel ‘y math o berson sy’n licio bod yn ffrindiau efo darlithwyr a phobl sy’n darllen lot’. Yn gryno, mae hon yn agwedd ar ei phersonoliaeth na chafodd mo’i throsglwyddo i mi. Fel y trafodwyd gennyf i a Lowri Dwd yn y Cornwall y noson o’r blaen, braf fyddai gallu bod yn hollol gomon heb boeni am beth y mae’r rhieni yn ei feddwl.

Dwi rhywfaint yn fwy comon nag sy’n ddelfrydol i Mam, a hynny oherwydd fy mod i’n dweud ‘blydi’ o’i blaen ac yn licio cael caniau yn y tŷ. Mi fyddai heb amheuaeth yn cael sioc angheuol o’m gweld am hanner nos nos Sadwrn, pan wyf ar f’erchyllaf. Ond, yn wahanol i’r sawl tro diweddar y buont lawr, mi fydda i’n sobor y penwythnos hon yn eu gweld.

Mae’r treial newydd ddechrau.

mercoledì, settembre 09, 2009

Nid yw'r ddysgl yn wastad

Wel helo! Hen dywydd sdici ydi hi yng Nghaerdydd ein hoes ni, clòs a sdici. I fod yn onest dwi ddim yn un am y fath dywydd – does fawr gwaeth, pan oes nac awel na gwynt a’ch bod yn teimlo fel kitchen wipe a ddefnyddiwyd ar fan llychlyd. Gwn y gwyddoch y teimlad.

Bydd rhywun yn licio menyn. Fydda i’n licio dweud ‘rhywun’ – bydd Nain yn dweud rhywun yn aml – yn enwedig mewn brawddegau fel “Wel dydi rhywun ddim yn gwybod beth i’w wneud o’r pethau ‘ma” ac yn y blaen. Fyddech chi’n synnu pa mor aml fy mod i’n siarad yn y ffordd yr ysgrifennaf gyda llais dwfn. Ond yn ôl at y pwynt gwreiddiol, bydd, mi fydd rhywun yn licio menyn.

Ond ceir problem â menyn. Menyn go iawn rŵan, cofiwch, ddim marjarîn na menyn mewn pot na’u bath (mae “eu bath” yn rhywbeth dwi bob amser yn aflwyddo i’w gael i mewn i sgwrs hamddenol, ac nid er diffyg ymdrech, fe’ch sicrhâf). Y broblem yw fel a ganlyn: allwch chi ddim cadw menyn go iawn yn yr oergell, oherwydd mae’n mynd yn rhy galed. Faint ohonom, yn wir, fu’n dioddef yn sgîl maleisus rinweddau menyn caled wrth geisio ei daenu ar dafell o fara, dim ond i’r bara rwygo a’r menyn daenu’n gwbl anwastad, gan anharddu ar flas y brechdan neu dostbeth terfynol.

Felly yn fy noethineb tragwyddol mi es o amgylch Caerdydd ar fy nghinio ddoe i chwilio am ddysgl menyn. Ar gyfer y fath bethau y farchad ydi’r stop cyntaf bob tro, ond y tro hwn mi fethodd y farchad â diwallu fy angen. Y tro diwethaf y bûm yno prynais badell sauteé am £2.50 – mae ‘na grac yn y caead ac mae’n bygwth torri’n ddeilchion mân o hyd, ond parhau y mae.

Yr hyn a’m synodd, wrth gerdded i mewn i siop o’r enw Lakeside sy’n darparu nwyddau ceginiol, oedd bod dysglau menyn yn uffernol o ddrud. Roedd yr un rhataf yno dros £14. Dim ffiars, me’ fi, ‘dimi ddysgl menyn rad.

Mi ges un yn y diwedd ar Heol yr Eglwys Fair am dair punt. Un o wir nodweddion mynd yn hŷn ydi mynnu’n barhaol bod “pethau yn rhy ddrud”, gyda hanner-cof hanner-breuddwyd am y dyddiau a fu pan oedd popeth tua dwy bunt ac roedd pob un o’r hen ferched efo pyrm.

I le’r aeth yr amser?

martedì, settembre 08, 2009

Henffych, fyd modern!

Ym mêr fy esgyrn mi deimlais y byddai’r busnes o osod Sky+ yn mynd o chwith – o fildars i popty newydd mae rhywbeth bob amser yn mynd yn siop siafins gen i. Ond am unwaith roedd y reddf besimistaidd honno, sy’n frawychus ac yn ddigalon o gywir fel rheol, yn reddf wallus y tro hwn. Mae gen i Sky+. Mae o’n ffantastig.

Dwi’n dweud hynny, yno fyddai am fis yn gwylio popeth dan haul yn llenwi ‘mhen â sbwriel, ac ymhen fis mi fydda i wedi diflasu i raddau ac yn cadw at ambell i sianel. Dyna, mi dybiaf, y gwna pawb mewn difri. I brofi’r peth dwi’n recordio Dudley heddiw. Fel rheol mi adawn i frain rwygo fy llygid allan cyn gwylio Dudley, ond dwisho profi’r peth. Dwi hefyd yn recordio Steptoe and Son, y fersiwn du a gwyn. Mae Steptoe and Son yn un o’r rhaglenni comedi hen ffasiwn prin iawn iawn dwi wirioneddol yn ei hoffi ac yn ei ffendio’n ddoniol – mae’r holl beth yn dywyll uffernol a llawer o’r jôcs o flaen eu hamser, ond tai’m i fwydro am hynny rŵan.

Dwi wedi torri fy nghalon braidd nad ydw i’n cael Sky Sports News, rhaid i mi ddweud. Oroesa’ i.

Gobeithio na fydd y blog hwn yn troi’n llith o’r hyn rydw i wedi ei wylio ar y teledu ac na throf yn llysieuyn, i raddau mwy helaeth o leiaf.

Y pwynt ydi, fodd bynnag, dwi wedi cymryd cam enfawr tuag at y byd modern. Yn wir, hiraetha’ fy enaid am ennyn o wybod a sicrwydd y syml a’r glân, hiraetha’ fy enaid am harmoni’r lleisiau a’r alaw sy’n burach na’r gân: ond o leiaf fydda i’n gallu ei recordio fo rŵan pan fydda i allan yn chwydu ar gornel yn rhywle.

giovedì, settembre 03, 2009

Sky+

Gyrhaeddish i adra echnos wedi blino, gan edrych ymlaen yn bur haeddiannol at noson o deledu, yn ôl fy arfer dioglyd. Ond na, nid oedd y signal am chwarae’r gêm y tro hwnnw. Yn wir, mi ddiflannodd yn llwyr. Ers i mi ganslo’r rhyngrwyd Virgin, a oedd yn gwbl uffernol hefyd o ran signal, mae’r teledu analog wedi parhau ond yn anffodus gyda Virgin wedi myned yn swyddogol, mi aeth y signal analog hefyd.

Rŵan, gwŷr ambell un ohonoch i mi brynu Freebox fisoedd nôl, na phigodd fawr o ddim fyny, felly y troais nôl at yr analog. Heb ddewis ac yn teimlo’n ddig oherwydd y gwaith o roi popeth yn y twll cywir, sy’n anodd ar yr adeg orau credwch chi fi, i fod yn bruddglwyfus i ymuno â’r byd modern, bu’n rhaid setio’r Freebox i fyny eto.

Rŵan, yn bur rhyfedd, mae’n cael ambell i sianel y tro hwn. Fe’m synnwyd. Wrth gwrs, dydi’r un sianel namyn BBC1 yn gweithio pan ddaw’r trên heibio, sef bron bob un dros hanner yr amser cyn tuag wyth o’r gloch, ond mae’n iawn. Serch hynny, dwi angen ffics Sul o Bobl y Cwm, a dydi S4C yn unman ar y radar. Mi ffoniais Sky.

Ac felly’n mae’n swyddogol. O ddydd Llun ymlaen mi fydd gen i Sky+. Wyddoch chi be, dwi’n edrych ymlaen; fydda i mor fodern fel fy mod i’n teimlo fy mod i’n byw yn Futurama.

Mae ‘na rhai sianeli dwi yn edrych ymlaen at eu cael. Dave, wrth gwrs, ydi un, a’r llall wrth gwrs ydi Sky Sports News. Wn i ddim a fyddaf byth yn gadael y tŷ o hyn ymlaen. A dwi hefyd isio UKTV Gold yn ôl. Rhaid i hyd yn oed grinc fel fi chwerthin.

Ond tan hynny byddaf yn dibynnu ar amseroedd y trenau am f’adloniant.

mercoledì, settembre 02, 2009

Cysill gachu

Ffiaidd.

Twitter

Cefais syndod, cofiwch chi, wrth galw draw i’r blog hwn heddiw. Ar gyfartaledd tua 23 o bobl sy’n ymweld â’r blog hwn y diwrnod, sydd wrth gwrs yn nifer eithaf pitw, a ‘does fawr amheuaeth mai’r un 23 o bobl sy’n gwneud bob dydd, ond am ryw reswm ddoe roedd dros deirgwaith hynny wedi bod yma.

O edrych ar hyn mae’n debyg bod llwyth o bobl wedi canfod eu ffordd yma drwy Twitter. Wn i ddim o le ar Twitter, chwaith – rhaid i mi gyfaddef nad ydw i’n ffan o’r peth. Gan ddweud hynny prin fy mod yn ymweld, ond dydi’r holl syniad ddim yn apelio ata i yn y lleiaf.

‘Doeddwn i ddim yn gwybod yn iawn beth oedd Twitter tan i mi gael sgwrs ryfedd yn y Cornwall ryw bryd yn ystod cyfnod y Chwe Gwlad eleni – yr oll ydi’r peth ydi brawddeg yn dweud rhywbeth. Fedra i ddim gael fy mhen rownd pam y byddai rhywun isio’u darllen.


Efallai mai fi sy’n hen ffasiwn gan lynu at flog, ond na, dydw i ddim yn licio Twitter.

martedì, settembre 01, 2009

Welcome to North Wales, butt

Gan nad oedd fawr ddim ar y teledu neithiwr mi wyliais y ddrama ar BBC2, ‘Framed’. Roedd yn seiliedig ar lyfr nad ydw i, er tegwch, wedi’i ddarllen o’r blaen, ond roedd fwy neu lai’n ymwneud â phan guddiwyd rhai o luniau mawrion y Galeri Genedlaethol yn Llundain mewn mwynfeydd llechi yng Ngogledd Cymru yn ystod yr Ail Ryfel Byd a bod yn rhaid, oherwydd llifogydd, wneud hynny eto yn ein dyddiau ni. Y peth cyntaf feddyliais oedd y byddai wirioneddol yn braf gweld Gogledd Cymru ar deledu Prydeinig am unwaith.

Fedra i ddim credu’r portread a wnaed o Ogledd Cymru – mae gwallus yn bod yn anfarwol o neis.

Tai’m i sôn am y plot, roedd hwnnw’n ddigon hawdd i’w ddarogan a digon diflas yn y bôn, ond roedd y pentref ei hun yn gwbl anghynrychioliadwy o bentref yng Ngogledd Cymru. Ddim hyd yn oed y ardal Manod mwyach (dwi ddim yn 100% a oes union bentref o'r enw Manod, ond yn gwybod lle mae'r ardal), mi dybiaf, y mae un ysgol leol fechan sy’n cynnwys holl blant y pentref sydd rhwng tua 5 a 18 oed. Tasech chi’n ceisio dwyn o’r siop leol, prin y byddwch chi’n ymddiheuro am y peth drwy roi tair iâr i’r perchnogion. Ac ni fyddai cymuned lawn yn dod at ei gilydd i ail-agor parc a gaewyd gan y cyngor ar hap.

Efallai bod rheini yn y llyfr gwreiddiol, wn i ddim, ond roedd y llyfr hwnnw, hyd y gwn i, o gyfnod yr Ail Ryfel Byd. Yr awgrym cryf a roddwyd gan ‘Framed’ yw bod Gogledd Cymru yn union yr un fath â hynny o hyd. Ta waeth, efallai nad oedd hynny o reidrwydd yn sarhaus, dim ond yn ddwl.

Fyddech chi’n disgwyl i’r Gymraeg cael fwy o sylw – mewn ffordd mi amlygodd y ddrama broblem fawr, sef ceisio gwneud drama Saesneg ei hiaith mewn ardal Gymraeg, ‘doedd o jyst ddim yn gweithio i mi fel rhywun sy’n gwybod bod y ffasiwn beth â chymunedau Cymraeg yn bodoli. Cafwyd rhywfaint o’r iaith, ambell air nawr ac yn y man ar hap – roedd clywed ‘dere’ yn od.

Wrth i’r Sais fynd i’r siop i archebu ei bapur newydd roedd y ddynas eithriadol o sych yn siarad amdano, yn Gymraeg, o’i flaen wrth ei gŵr, cyn i bobl eraill siarad amdano wrth ei basio. Yr hyn a gyfleodd, boed ar bwrpas ai peidio, oedd ein bod ni ond yn dueddol o siarad Cymraeg pan fo Sais o gwmpas – sôn am stereoteip a hanner. Mi wadodd fodolaeth y Gymraeg fel iaith gymunedol. Deallaf fod yn anodd cyfleu hynny mewn drama Saesneg, ond iesgob, ni roddodd argraff dda o’r iaith pan y’i clywid.

Ond mae un peth wnaeth fy ngwylltio i eithafon y byd – roedd pawb, drwy ryw ryfedd wyrth, yn siarad ag acen cymoedd de Cymru, y stereoteip mwyaf sydd, sef bod gan bawb yng Nghymru acen Taffi, a hynny er ein hysbysu ar ddechrau’r rhaglen y câi’r lluniau enwog hyn eu cadw yn y gogledd. Un acen y gogledd a glywid drwy’r rhaglen gyfan, sydd nid yn unig yn dangos diffyg ymchwil nag ychwaith diogrwydd yn unig, ond dirmyg. Mae’n gallu bod yn ddigon anodd mynd i Loegr, os oes yn rhaid i chi wneud y fath beth, gydag acen ogleddol a’u hargyhoeddi eich bod yn Gymro achos dydach chi ddim yn dweud ‘there’s nice’, ‘I loves it’ ac ati.

Fel mae’n digwydd dwi’n licio acen de Cymru, ond ‘sgen i mohoni, a dydi o yn sicr ddim yn cael ei siarad yng Ngogledd-orllewin Cymru. Roedd yn gyfystyr â holl gast Last of the Summer Wine yn siarad gydag acen Cocni; hynny yw, yn wrthun.

Roedd hwn yn gyfle da i gyfleu gogledd Cymru, y da a’r drwg, i Brydain gyfan – rhywbeth sy jyst ddim yn cael ei wneud fel rheol. Roedd yn aflwyddiant, ac ro’n i’n ffendio’r ffaith bod y cynhyrchwyr yn meddwl y basan nhw’n gallu ‘plannu’ cymuned cymoedd y de yn y gogledd ac y byddai hynny’n ei chyfleu’n berffaith yn hollol sarhaus. Da iawn BBC – prin iawn y gellir cynhyrchu rhaglen sydd mor anghywir ar sawl lefel fel ei bod yn gwneud i blot mor wan edrych yn athrylithgar.