lunedì, febbraio 16, 2009

Hogyn call

Y ffordd dwi’n deimlo’n awr dwi’n amau dim fy mod newydd gael penwythnos rygbi. Yn rhannol gysylltiedig â chyfrifoldebau’r wythnos, ro’n i’n hogyn da ac ni chefais sesiwn anferth ar y penwythnos. Roedd rhywbeth gwag am dim ond ennill y Saeson o wyth pwynt ar ôl y gyflafan a broffwydolwyd, ond curo Sais ydi curo Sais ac mi a’i cymeraf. Fe wyliem y gêm yn Nos Da sydd gyferbyn â’r stadiwm. Trodd hwnnw’n ddigon diddorol ond roedd ‘na lwyth o genod yno’n tynnu lluniau a malu cachu yn hytrach na chymryd sylw o’r gêm oedd braidd yn ddiflas.

Ategwyd hynny wrth i mi gael trafferth yfed o ddifri. Dwi ddim yn cofio gorffen gwaddod ‘run beint heb bron â chwydu. Roeddwn hefyd yn flinedig ond dwi wastad yn flinedig y dyddiau hyn – henaint ydi o, uda i rŵan.

Roedd ‘na awyrgylch go dda yn Nos Da hefyd (welish i Edi Bytlar yn ffilmio’i ddyddiadur fideo ‘na) ond fedra i ddim yn fy myw ymuno pan fydd pobl yn gweiddi ‘Way-ules! Way-ules!’, hyd yn oed pan fyddaf yn y stadiwm. Dwi’n siŵr nad fi ydi’r unig un sy’n ffendio rhywbeth yn wrthun am y gair hwnnw.

Felly ro’n i adra erbyn 10.30 yn gyfrifol fy myd. Pan fydda i isio bod yn gyfrifol mi fedraf fod ac yn hynod felly. Gan ddweud hynny gallaswn fod wedi mynd allan drwy’r nos a theimlo mor ddi-lun ag ydwyf ar y funud. Am y tro cyntaf ers hydoedd deffroais y bore hwn yn glaforio, ac chyda clust wleb. Ro’n i’n meddwl mai gwaedu oeddwn i, ond na, eithr clusthylifog.

Wnes i hyd yn oed gael cawod ar fora Llun am y tro cyntaf ers cyn cof. Dydi peidio â chael cawod yn y bora ddim yn beth newydd, gyda llaw. Fydda i’n un o’r rhai hynny sy’n hoffi cael cawod gyda’r nos, a theimlo’n ffres o flaen Pobol y Cwm a Chwis Meddiant, achos ‘blaw am Nant Conwy mae’r gogs i gyd i’w gweld yn curo’r Hwntws, ond mae trefn naturiol i bopeth mwn.

giovedì, febbraio 12, 2009

Chwyrlïo'r Gwaed

Fysa chi yn dueddol o feddwl fy mod yn rhywun sy’n fodlon curo’r Saeson ac aberthu popeth arall i gyrraedd y nod hwnnw, ond nid felly’r achos. Gan ddweud hynny, p’un a ydynt yn dîm Camp Lawn neu’n dîm o amaturiaid (noder y presennol), Lloegr ydi’r tîm y mae pob Cymro, Albanwr, Gwyddel neu Ffrancwr isio’i guro. Dw i’n dyfalu mai Ffrainc y mae’r Eidalwyr isio’i churo yn fwy na neb. Mae ‘nheulu yn yr Eidal wrth eu boddau efo Saeson; i fod yn onast dwi’n meddwl yr oeddent braidd yn siomedig o glywed nad Saeson ydym ni pan es i’r Eidal. Do’n i ddim yn hapus efo hynny; tai’m i licio cael fy nghamgymryd am Sais, waeth pa mor lipa ac erchyll wyf fy ngolwg.

Ar ôl treulio dechrau’r wythnos yn edifar ac yn flinedig dwi bellach yn well ac yn edrych ymlaen at y penwythnos. Fydd ‘na rai yn wahanol i mi ond ni lwyddodd Cymru v Gwlad Pwyl ym Mhortiwgal wirioneddol danio’r enaid cymaint ag y bydd dydd Sadwrn.

A dydd Sadwrn fydd hi ‘fyd. Dydw i ddim yn cytuno efo chwarae gemau ar ddydd Sul, mae’n annheg ar y cefnogwyr. Wrth gwrs, ‘sdim rhaid i rywun fynd allan nac yfed i werthfawrogi gêm Chwe Gwlad, ond eto mae’n rhan o’r profiad. Dyna be fydda i’n ei licio am y Chwe Gwlad, mae’n gystal profiad ag yw’n bencampwriaeth. Ond mae’r elfen o ofal a geir ar gêm ddydd Sul yn sbwylio’r peth rhywfaint.

Fydd y nos Wener yn erbyn Ffrainc yn ddiddorol. Mae gennyf i hanner diwrnod ar gyfer y gêm honno. Er bod yn rhaid i mi ddweud na hoffais y syniad, yn ddiweddar mae gêm nos Wener yn swnio’n ddigon braf o syniad. Fydd yn brofiad gwahanol, a fydda i’n licio amryw brofiadau.

Ond dyna ni, i mi dydi’r Chwe Gwlad ddim yn cychwyn go iawn cyn bod rhywbeth yn chwyrlïo’r gwaed ac yn deffro’r galon; ni ddigwyddodd cweit cyn yr Alban, ac wn i ddim pam, ond mae hi yma rŵan a dwi’n y swing.

mercoledì, febbraio 11, 2009

Y tew a'r tenau

Dwi am fod yn gas ennyd, am unwaith. Fydda i ambell waith yn licio gwylio’r rhaglen Supersize vs Superskinny. Rŵan cewch ddweud wrthyf fod gan y bobl hyn broblemau a chyflyrau ati a dwi’n cytuno ond mae ‘na un rhan o’r rhaglen hon, sy fel rheol ddim y math o raglen dwi’n ei licio, sy’n neud i mi wenu bob tro sef pan mae’r peth tenau a’r peth tew yn bwyta bwyd ei gilydd. Mae un yn mynd bŵ-hŵ-hŵ mae’n rhaid i mi fyta mwy cyn mynd bŵ-hŵ-hŵ dwi ddim isio buta hyn, gyda’r llall yn mynd bŵ-hŵ-hŵ dwi angen bod yn denau cyn mynd bŵ-hŵ-hŵ dwisho bwyd.

Fydda i hefyd yn eitha licio’r person tenau yn bwyta bwyd yr un tew a phwdu drwy’r broses gyfan yn dweud bod y bwyd yn afiach ac wnim sut allwch chi fyta’r ffasiwn beth, gan weld yr un mawr bron â marw isio rhoi hedbyt i’r llall am ddweud ffasiwn beth ac yn glafoerio ger y plât.

Dydw i heb â blogio’r wythnos hon hyd yn hyn oherwydd y gwir amdani ydi dwi wedi bod yn rhy flinedig. Wn i ddim p’un a ddywedais wrthych am gynllun y Sul sef gwylio’r gêm, cael ambell i beint a chael bwyd cyn mynd adra a bod yn ffresh i’r gwaith? Wedi bod allan efo gwaith nos Wener a chofio fawr ddim ar ôl tua 10, a mynd i’r Mochyn Du cyn cael cyfla i sobri ddydd Sadwrn, allwch chi ddychmygu fuo ‘na fawr o siâp arna i, na’m gwddw (stori hir), ddydd Sul.

Gallwn adrodd ar sut le ydi’r Fuwch Goch, a minnau yno ddwy noson mewn rhes, ond ‘sdim pwynt achos dwi rili heb syniad, ond nôl i ddydd Sul...

Cefais un beint a llwyth o Bepsi wrth wylio’r gêm, ond ar ôl hynny ‘doedd ‘na fawr o siâp arna i. Ro’n i’n fy ngwely erbyn wyth heb lwyddo cyrraedd y bwyty, a doeddwn i ddim yn ‘ffres’ echdoe na ddoe. I fod yn onast ro’n i mor flinedig mi gollais gêm o sboncen yn erbyn Ellen Angharad am y tro cynta.

Dwi’n iawn rŵan. Fydda i ddim yn mynd mor wirion y penwythnos hwn er mai’r gêm fawr sy’n dyfod. Tan hynny, neith ‘di relacs bach.

venerdì, febbraio 06, 2009

Buwch goch, goch, goch ie fin-goch fin-goch fin-goch

Efallai y byddwch wedi clywed am agoriad tafarn Y Fuwch Goch heno ‘ma – mae’r e-byst wedi bod yn mynd i bob cyfeiriad a hefyd roedd darn arni yn Wedi 7 neithiwr (byddaf, mi fyddaf yn gwylio Wedi 7 o bryd i’w gilydd, a ‘sgen i ddim cywilydd). Dwi’n meddwl piciad heibio ‘na heno i weld sut fath o siâp sydd ar y lle.

Bar Shorepebbles oedd yn yr adeilad yn flaenorol. Bydd rhai ohonoch yn gwybod y bu’r lle hwnnw’n gyrchfan i Gymry Cymraeg am fisoedd lawer cyn iddo gau cyn wythnos yr Eisteddfod (o bob wythnos!). I bob pwrpas roedd yn denu pobl a oedd wedi diflasu ar Glwb Ifor neu’n teimlo’n rhy hen i fynd yno bob wythnos, heb sôn am bobl yn cael peint cyn ac ar ôl Clwb, a phobl nad oeddent yn gallu mynd i mewn i Clwb oherwydd y ciwiau enfawr – ond hefyd roedd y berchnoges a oedd yn Gymraes yn boblogaidd iawn.

Roedd ‘na fwlch pan gaeodd. Newidiodd y lle i Kaz-bah, a doedd y perchnogion newydd ddim yn or-hoff o Gymry Cymraeg. Cawsom sgwrs â hwy rywbryd yn ddigon ddi-niwed yn dweud bod mwyafrif y cwsmeriaid yn Gymry Cymraeg, ond doedden nhw ddim yn hapus efo hynny, a dweud yn blaen na fyddant yn gwneud ymdrech benodol i’w croesawu. Digon teg, eu lle nhw ydoedd, ond dydi o ddim yn synaid da troi dy gefn ar ffynhonnell bwysig o’th incwm, na bod mor ddirmygus ag oedden nhw i ni y noson honno.

Caeaodd y lle ychydig fisoedd wedyn, a dwi ddim yn synnu. Pan ddaw at agweddau llugoer tuag at y Gymraeg mewn siopau a llefydd cyhoeddus mae’r Cymry Cymraeg yn weddol apathetig, ond pan ddaw at dafarndai a bariau maen nhw’n gallu troi cefn yn eu niferoedd. Rhyfedd, ond hollol wir.

Clwb Ifor sy wedi prynu’r lle erbyn hyn. Tybiaf fod Clwb yn ddigon ymwybodol bod llwyth o Gymry Cymraeg yno, ac yn gwybod y rhesymau a nodais uchod o ran pam eu bod yn mynd yno. Dwi’n gobeithio y daw’r lle eto’n gyrchfan i ni ac yn meddu ar naws debyg. Roedd cymaint o bobl wahanol yno bob nos Sadwrn: pobl o brifysgol, pobl o gwaith, pobl roeddech chi’n eu hadnabod heb wybod pam na sut – diflannodd hynny ar ôl tranc Shorepebbles, cawn weld a fydd Y Fuwch Goch gystal!

giovedì, febbraio 05, 2009

Fydda pengwin yn iawn, felly minnau 'fyd

Dwi newydd sylwi ar rywbeth hudol. Sut, er mwyn Duw, y mae styffylau yn aros at ei gilydd mewn rhesi cyn i chdi eu rhoi nhw mewn styffylwr? Ew, mae’r hen fyd ‘ma dal yn llawn lledrith os edrychwch yn y llefydd cywir.

Mae’r eira wedi penderfynu ailymddangos yng Nghaerdydd heddiw. Mae’n fy ngwneud i chwerthin sut y mae’r wlad wedi sefyll yn stond oherwydd ychydig o eira. Mae’r rhan fwyaf o ysgolion Caerdydd wedi cau heddiw, sy’n hollol bathetig. I fod yn onast efo chi, mae’n fy ngwneud i chwerthin braidd, yn enwedig gan fod y bobl propaganda a’r papurau newydd Seisnig mor aml yn hoffi sôn am ba mor wydn ydi Prydeinwyr efo’u ‘Bliz Spirit’ ac ati. Haha! Maen nhw’n rong!

Gan ddweud hynny, bydda pobl ‘stalwm heb wneud y ffasiwn lol allan o bopeth. Dyma’r arferol nid yn ofnadwy o bell yn ôl. Un ifanc dwi, a dwi’n cofio mynd i’r ysgol pan fo’r eira’n ddigon drwm. Dwi hyd yn oed yn cofio gwneud unwaith yn yr ysgol uwchradd, sydd wir yn dangos pa mor uffernol ydi pobl ein dyddiau ni. Pobl ddinesig ydi’r gwaetha, dybiwn i.. Bydda Nain yn dweud o leiaf fod rhywun yn gweld y bobl ddu rŵan, ond gan fy mod i’n 23 a ddim i fod efo rhagfarnau gwell i mi beidio â dweud hynny.

Fyddan nhw’n iawn ar y cyfandir, ac mae hyd yn oed yr Iancs yn llwyddo mewn llawer gwaeth na hyn chwara teg. Y ffordd dwi’n ei weld, os ‘sdim ots gan begwin, ddylwn i fod yn iawn, achos petha tila ydi’r rheini mewn difri calon.

mercoledì, febbraio 04, 2009

Pethau beunyddiol sy'n mynd ar fy nerfau rhif #6133

Pam fod pob cam dwi'n ei wneud yn swnio'n wahanol waeth faint y bydda i'n ceisio gwneud i bob cam swnio 'run peth? Sut fod y ddau droed yn gwneud hyn? IECHYD roedd o'n gwneud i mi wallgofi wrth gerad i gwaith heddiw!

martedì, febbraio 03, 2009

Mae'r eira 'di mynd yn barod y basdad

Bydd eira’n mynd ar fy nerfau i. Fel pawb arall, p’un a ydynt yn ifanc fel y fi neu’n hen a ffôl (25+), bydd eira yn deffro’r plentyn o ddwfn fy mod. Dwi’n cyffroi. Dwi’n licio ei weld ymhobman, yn gorchuddio’r llawr ac yn disgyn yn fwyn o’r nefoedd. Ond bydd gweld yr eira’n diflannu yn ddigon i sathru fy hwyliau.

Felly fu heddiw a neithiwr. Ni ddaeth yr eira go iawn tan iddi nosi neithiwr y Llun, ac mi ddechreuodd bob man droi’n wyn. Bora ‘ma, roedd o wedi dechrau diflannu, ac er i ni weld eira trwm bora ‘ma eto, mae holl eira Caerdydd wedi hen ddiflannu erbyn hyn. Dyna ddigalon.

Mae’n golygu bod yr haul allan yn smyg i gyd, y wancar, a’r llawr yn wlyb. Am ryw reswm dyma fy nghas beth i, sef haul a gwlypni, achos fydda i ddim yn licio gwneud pethau drwy haneri, a dydi llawr gwlyb ac awyr heulog ddim yn cyd-fynd. Wn i ddim sut i deimlo, ond mae o bob amser yn gwneud i mi deimlo’n ddrwg, boed hynny ar ôl cawod o law, neu ar ôl toddi’r eira.

Un peth a’m tarodd ar y diawl oedd y ddynas ar y newyddion neithiwr yn sôn am y plant yn chwarae yn yr eira – dyma’r tro cynta i’w cenhedlaeth nhw weld eira go iawn. Yn wir, pobl f’oedran i ydi rhai olaf sy wirioneddol yn cofio eira yn beth digon cyffredin yr adeg hon o’r flwyddyn, ac erbyn hyn mae hynny’n nyfnion y co’. Rhaid bod cymaint o blant heddiw yn gweld gaeaf gwyn yn beth hollol estron – sôn am deimlo fel deinosor!

lunedì, febbraio 02, 2009

Teulu od

“Amen
Dyn pren
Wedi colli’i ben”
-- Nain

Mae fy nheulu yn od. Soniais gynt am y merlod sy’n y caeau acw. Mae Mam wrth ei bodd gyda hyn, ac yn wir mae’r merlod yn cael eu bwydo’n well ganddi na neb arall erbyn hyn. Dydi Dad ddim yn eu licio nhw fawr ddim, ond y gwir ydi dydi Dad ddim yn licio dim fawr ddim mwyach – mae’n well ganddo lusgo’i hun o amgylch y tŷ yn edrych yn ddigon annifyr cyn bod rhywbeth sy’n ei ddiddori ar y teledu.

Fydd o’n fy ngwylltio yn gwneud hyn dro ar ôl tro, a Mam hefyd. Mae hi’n gwybod erbyn hyn hoffterau gastrig y merlod – maen nhw wrth eu boddau efo lemwns, er enghraifft, ac yn lafoer i gyd wrth eu bwyta – a bydd Mam yn chwerthin yn ddosbarth canol i gyd wrth roi sbarion bwyd iddyn nhw.

Fydd Grandad yn dweud rhyw bethau gwirion hefyd. Y peth mwya gwirion iddo fo ei ddweud yn ddiweddar ydi bod o’n “stiwpid” bod pobl yn dod adra o’u gwaith ac yn newid o’u oferôls. Dyn ag ŵyr o le y caiff hwnnw’n cael ei syniadau, ond fel â phob dyn dros ei hanner cant maen nhw fwy na thebyg ynghlwm wrth ryw ragfarn neu’i gilydd.

‘Runig beth y bydd y Nain Eidalaidd yn ei ddweud ydi “my mind it’s-a goin’”. O leiaf fod gwirionedd yn hynny o beth, ond oherwydd ei demensia bydd yn ei ailadrodd hyd syrffed. Ond fuo hi byth yn gall ar ei gorau chwaith.

Y gwir ydi dydi pethau ddim yn edrych yn rhy addawol i mi pan fydda i’n hŷn. Gobeithio fy mod wedi fy mabwysiadu, neu’n ganlyniad i raglen fridio wyddonol rhwng Beti George a phaced o Goco Pops.