giovedì, aprile 12, 2007

Twat gwallt

Dw i’n teimlo dros y boi RAC ar Heol y Frenhines (Queens Street i chi a mi). Fe fu’r lle yn lloches iddo, ond daeth yr AA yno yn llu a bellach ni welir mohono. Ond does ots gen i, AA ydw i efo.

Medaf i ddim cyfleu fy niflastod llwyr heddiw. Mae’r gwaith yn erchyll. Chefais i mo fy ngeni i gyfieithu. Dw i’m yn siŵr o ddiben fy modolaeth, chwaith, ond mi ddyfalaf ei bod yn cylchdroi o amgylch hufen iâ.

Dw i’n nerfus hefyd. Dw i’n cael fy ngwallt wedi ei dorri wedyn. Ac ni o farbwr. Gyda’r chwaer i lawr mi benderfynodd hithau bod angen makeover arnaf i. Mae hi ‘di dewis steil gwallt newydd i mi. Mae hi ‘di bwcio lle yn Tony & Guy’s p’nawn ‘ma i mi. Edrych fel twat fydda i erbyn diwedd y dydd, mi fetiaf fy holl eiddo arno (sydd yn cynnwys fy CDs Dafydd Iwan a het lwyd o Awstria).

Penderfyniad. Ewyllys. Aberth. Nôl at y gwaith.

mercoledì, aprile 11, 2007

"I'm a Naughty Boy in the World"

Dw i byth yn peidio â rhyfeddu ar sut y mae bywyd yn lluchio rhyfeddodau fel hyn ataf o hyd er mwyn eu hadrodd i bawb; ond dydw i ddim yn ddiolchgar amdani.

Fel rheol mae’n well gen i gerdded na chymryd tacsi. Er hyn, wedi mynd am fwyd efo’r teulu neithiwr, a hwythau i lawr yng Nghaerdydd am sbel, mi gefais dacsi i’r Bae er mwyn gwneud y cwis, fel pob nos Fawrth (aflwyddiant arall y bu er y gwelwyd gwella yn ein safle a’n gwybyddiaeth cyffredinol). Ond tacsi a gefais.

Dyn Arabaidd oedd y gyrrwr. Dim byd annaturiol am hynny, meddyliais. Roedd hynny tan iddo ddechrau taro’i fol a gweiddi “Fat! Fat” – a chymryd dim diddordeb fy ymatebion i (ysywaeth, nid peth angyffredin o mo hynny). Wedyn, dyma fo’n dechrau canu rhyw gân byrfyfyr (mi dybiaf) a gynhwysodd tôn gron o “I’m a Naughty Boy in the World”. Mi fentraf mai cân byrfyfyr ydoedd; wn i ddim pwy ddiawl byddai’n canu y math beth, wrth i mi edrych drwy’r tacsi i’r awyr yn gweddio am achubiaeth rhag y dyn.

Wedi nifer iawn o’r bennill, a phwyntio at butain yn y stryd a gofyn i mi “Do you like these girls?” (ac na oedd fy ateb, a gaf i gadarnhau) dyma fo’n fy ngollwg yn nhafarn Y Wharf. “£500. Not a penny less. Hah! £5. Get out of my taxi. See you next year”.

Ar fy myw na wnei, meddyliais, wrth fynd i brynu peint.

martedì, aprile 10, 2007

Tywynna'r haul drwy'r swyddfa

Amser cinio caf faguette, ac wedi hynny Lucozade a Boost i’m cadw i fynd drwy’r p’nawn. Anghenfil glwcos wyf y prynhawn, yn dyheu am awyr las a gweirydd gwyrddion.

lunedì, aprile 09, 2007

Arogl yr Afon

Fe fu’n benwythnos da. Bu imi ei fwynhau. Does gwell nag ymweliad â Gogledd Cymru, anheddle angylion.

Dw i’n mynd nôl am Gaerdydd heno. Wedi penwythnos mor hir a hapus prin iawn fy mod i isio mynd i’r gwaith yfory, ond ysywaeth 24 awr i rŵan fe fyddaf yn cyfieithu drachefn. Dw i wedi cadw fy hun yn brysur cofiwch. Mi es i Gaernarfon fore Sadwrn i brynu Diwrnod Efo’r Anifeiliaid, yn ogystal â CD Wil Tân i Nain. Fe soniem am y peth ddydd Gwener, wrth iddi fynnu yr hoffai glywed “CD newydd Sam Tân”.

“Dwyt ti’m yn rhy hen i hynny, Nain?” gofynnais
“Nadw i, mae o’n 40,” atebodd hithau, cyn inni ddatrys y pos.

Y prynhawn hwnnw mi es i bysgota gyda’r Dyn a Elwir yn Dyfed (DED). Yn anffodus bu i’r DED ddewis pysgotfan eithriadol o wael, a’r mwyaf a ddaeth i’m rhan oedd sefyll ar granc. O leiaf bu i’r DED ddal cranc - cyn sefyll arno. Eironig ydoedd. Ac nid pleserus oedd gosod y blow-worms ar y bachyn; cânt yr enw oherwydd eu tueddiad i ffrwydro'r munud y cyffyrddant unrhyw beth siarp.

Diog o ddiwrnod y caf cyn dychwelyd i’r ddinas. Bu imi atal yn nhoiledau Ganllwyd nos Iau ar y ffordd i fyny, wrth yr afon a chanfod fy mod yn cofio sut mae afon yn arogli. Dw i’m yn dweud celwydd. Ydych chi bobl y ddinas yn cofio sut arogl sydd ar afon? Anghofiais i.

Casgliad o bethau bychain yw bywyd. Dydi arogl afon fawr o beth, ond pan mae’n rhan annatod o’ch bod sydd yn amlwg wedi’i cholli mae yn dy daro yn dra chaled.

giovedì, aprile 05, 2007

Diwrnod Hira' 'Mywyd

Dw i’m am smalio y medra’ i wneud gwaith heddiw. Mae’n heulog a dw i’n gyrru i’r Gogledd heno yn syth ar ôl gwaith (sbïwch fi’n blogio’n gwaith yn ddrwg i gyd - ond mae diwygiadau i lwybrau troed Ceredigion yn troi ar rywun yn rhyfeddol o sydyn), ac mi fyddaf yno erbyn 11 er mwyn cael gweld pôl piniwn HTV. Mae hyn yn drist.

Mae pobl Metro yn dal i fy hambygio ar y ffordd i’r gwaith. Hyd yn oed pan dw i’n cerdded tu ôl i’r rhywun (côc yn din o agos) maen nhw dal yn llwyddo i stwffio papur o fy mlaen i a datgan “Metro?”. “Dim diolch” bydda i’n ei ddweud bob tro. Fel arfer, wrth ddweud “diolch” yng Nghaerdydd fe fydd ar hyd y llinellau “Thank you diolch yn fawr”, oherwydd mae’n bwysig dweud ‘diolch’, jyst er mwyn dangos bod ‘na Gymry Cymraeg o gwmpas y lle, yn ogystal â Phwyliaid a Somalis. Ond pan fyddaf mewn tymer drwg, rhyw dim diolch hunanfodlon a swta a ddaw o’r genau i ganlyn targed fy llid. Prin iawn fy mod i isio siarad Saesneg pan fo tymer drwg drosof; rhywsut mae naws y Gymraeg yn addasach o lawer o ran llid a dirmyg.


Gas gen i fod yn y gwaith pan fo rhywbeth gennych chi i wneud ar ôl gwaith a ti bron â marw isio’i gwneud hi. Fe fydd yn ddiwrnod hir. Safwch gyda mi yn y bwlch, gyfeillion; deuwch ataf i’r adwy.

mercoledì, aprile 04, 2007

Y Fi Fawr Wleidyddol

Wel, dyna ni. Rhois fy mhen ar y bloc a darogan beth fydd yn digwydd yn 2007, er yn anffodus dydw i ddim yn gweld Plaid Cymru yn curo hyd at 16 sedd. Dw i yn, fodd bynnag, yn gobeithio’n arw na fydd Llafur yn cadw ei mwyafrifoedd enfawr, dall; na fydd y Ceidwadwyr yn torri tir newydd ac y bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn chwalu. Pa ddiffygion bynnag sydd i’r Torïaid a Llafur (ac mae cyfrolau bethau yn hyn o beth, a chrynswth i Blaid Cymru hefyd), o leiaf bod gronyn o egwyddor a choelio yn eu credoau. Dw i’n gwrthwynebu Llafur oherwydd eu hagwedd dirmygus tuag at y Gymraeg; y Toriaid, oherwydd eu bod nhw ar ochr dra gwahanol i’r sbectrwm gwleidyddol imi, ond mae fy ngwrthwynebiad i’r Democratiaid Rhyddfrydol yn seiliedig ar eu dimbydrwydd llwyr fel mudiad gwleidyddol.

Serch hynny, dw i’n amau mai anghywir oedd y datganiad isod wrth edrych eto bore ‘ma. Ond mi sticia’ i iddo. Mae fy ngwleidyddiaeth i, sydd wastad wedi bod yn rhan o fy mywyd, wedi ei seilio ar ffydd ddall.

1997 oedd pan ddaru mi dechrau cymryd diddordeb mewn gwleidyddiaeth, a buddugoliaeth Llafur. Dw i’n cofio, yn 12 mlwydd oedd, gobeithio o waelod f’enaid mai’r Ceidwadwyr fyddai’n ennill. Tori bach oeddwn i, yn hoff o’r teulu brenhinol a Phrydeindod. Diolch i Dduw y daeth fy nglasoed yn ddigon sydyn.

Mi fflyrtiais gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol am sbel hir (mae ‘fflyrtio gyda Democrat Rhyddfrydol’ yn swnio’n ddiflas iawn, ond yn ddoniol pes gwelir rhywun arall yn gwneud a methu dianc o’r sefyllfa) cyn ymsefydlu’n Bleidiwr wedi imi fynd am brofiad gwaith i swyddfa Dafydd Wigley yn ’99, cyn ymuno efo’r Blaid y flwyddyn wedyn. Dw i’n cofio bryd hynny doeddwn i ddim yn or-hoff o’r syniad o annibyniaeth, ond rŵan dw i gyda’r mwyaf brwd drosti, er y gwreiddiodd fy nghariad yn y Gymraeg yn fuan yn fy mywyd, wrth i mi fynnu i Mam fy mod i’n falch o Chwarel y Penrhyn oherwydd “dyna’r unig reswm fod yr iaith Gymraeg yn fyw”. Ffeithiau anghywir, calon dda (hanes fy mywyd ymhob maes).


Ddim yn ddrwg am hanner Sais efo sblash o Eidalwr, nac ydi?

martedì, aprile 03, 2007

Mis i fynd...!

Dw i ddim am smalio fod yn pyndit gwleidyddol da iawn. A dywedyd y gwir, bob tro dw i’n proffwydo mae’n troi allan yn anghywir. Serch hyn, fel efallai y gwyddoch, mae diddordeb gennyf mewn gwleidyddiaeth, a chan fod etholiadau’r Cynulliad fis i ffwrdd, dw i am rhoi fy mhen ar y bloc a phroffwydo popeth.

Aberafan (LLAF)
Aberconwy (PC) – dw i’n mentro bydd proffil Gareth Jones yn ennill hwn i’r Blaid gyda’r Ceidwadwyr yn ail agos; er, ‘sdim cyfle i PC yma mewn etholiad San Steffan
Alyn a Glannau Merswy (LLAF) – cynulliad isaf Cymru
Arfon (PC) – mwyafrif i’r Blaid yn etholiadau’r Bae; agosach o lawer yn San Steffan
Blaenau Gwent (ANN) – iawn, dydi Trish Law ddim byd arbennig, ond fe fydd hi’n cadw’r sedd ar Fai 3ydd
Bro Morgannwg (LLAF) – Ceidwadwyr yn agosáu
Brycheiniog a Maesyfed (DEM RHYDD)
Caerffili (PC) – hwn bydd sioc y nos, gyda Llafurwyr yn mynd at Ron mewn digon o rifau i’r Blaid fynd drwy’r canol
Canol Caerdydd (DEM RHYDD) – gyda mwyafrif cryn dipyn yn llai
Castell-nedd (LLAF) – bydd Plaid yn lleihau mwyafrif Llafur yma a bydd hi’n gymharol agos
Ceredigion (PC) – a bod yn onest, dw i’n gweld Elin Jones yn cadw’r sedd yn gymharol hawdd
Cwm Cynon (LLAF) – Plaid yn crafu’n ôl, ond ddim digon o bellffordd
De Caerdydd a Penarth (LLAF)
De Clwyd (LLAF)
Delyn (LLAF)
Dwyfor Meirionnydd (PC) – nid yn unig yn ddiogel i’r Blaid ond hwn bydd sedd mwyaf diogel Cymru
Dwyrain Abertawe (LLAF) – cynnydd yn y bleidlais Dem Rhydd
D. C’fyrddin a De Penfro (LLAF) – Llafur drachefn, ond mwyafrif llai fyth iddynt dros Blaid Cymru
Dwyrain Casnewydd (LLAF)
Dyffryn Clwyd (LLAF)
Gogledd Caerdydd (CEID) – un gweddol hawdd i’r Ceidwadwyr
Gorllewin Abertawe (LLAF) – ond agosach rhwng Llafur a Plaid
Gorllewin Caerdydd (LLAF) – Plaid yn ail yn bell tu ôl i Rhodri
Gorll. C’fyrddin a Dinefwr (PC)
Gorllewin Casnewydd (LLAF)
Gorllewin Clwyd (LLAF) – dw i am fentro yma y bydd hi’n agos iawn rhwng Llafur, y Ceidwadwyr a’r Blaid, ond bod Llafur yn mynd â hi o drwch blewyn
Gwyr (LLAF)
Islwyn (LLAF) – mae rhai yn dweud bydd Plaid yn adennill hwn. Dim cyfle, yn fy marn onest i.
Llanelli (PC) – bydd Plaid yn cipio hwn o tua mil o bleidleisiau
Maldwyn (DEM RHYDD) – bydd y mwyafrif Rhyddfrydol yma’n llai o lawer
Merthyr Tudful (LLAF)
Mynwy (CEID) – lleiafrif llawer llai i’r Ceidwadwyr ar ôl ymadawiad David Davies
Ogwr (LLAF)
Pen-y-bont (LLAF) – diogel i Carwyn Jones
Pontypridd (LLAF)
Preseli Penfro (CEID) – agos iawn rhwng PC, Llafur a’r Ceidwadwyr, ond ar noson dda mi eith hwn yn Geidwadol
Rhondda (LLAF)
Torfaen (LLAF)
Wrecsam (Cymru Ymlaen) – John Marek yn dal y sedd o fwyafrif llai byth mewn cynulliad isel
Ynys Môn (PC) – Ieuan i gadw hwn OND bydd Rogers yn ei wthio yr holl ffordd; mater o gannoedd o bleidleisiau

Canolbarth Cymru – PC 1, Llaf 1, Ceid 2
Gogledd Cymru – PC 1, Ceid 2, DRh 1
Canol De Cymru – PC 2, Ceid 2
Dwyrain De Cymru – PC 2, Ceid 2
Gorllewin De Cymru – PC 2, Ceid 1, DRh 1

Llafur 25 -4
Plaid Cymru 16 +4
Ceidwadwyr 12 +1
Dem Rhydd 5 -1
Eraill 2 0

A rhywsut, dydw i ddim yn cytuno gyda’r uchod. Ond fe gawn ni weld!!

lunedì, aprile 02, 2007

Castell uwch Mynydd Parys

Felly, dyna ni. Mae’r Haydn wedi mynd adref, a fi ac Ellen sydd ar ôl yn yr hen dŷ annwyl ar Newport Road. Ond ddoe mi ges i’r diwrnod mwyaf unig yn hanes fy mywyd. Roedd Ellen yn Aberystwyth, efo côr neu ryw beth felly, a minnau yn gorfod ymddiddori fy hun drwy fwyta. Roedd yn fewnwelediad eithaf trist o sut y gallasai bywyd ben fy hun fod; hynny yw, a minnau’n ceisio prynu tŷ erbyn mis Mehefin. Er, mae ambell i fonws, megis cadw drws y lle chwech ar agor wrth biso, a chanu i mi fy hun.

Y nos a ddaeth, a gwylio A Nightmare on Elm Street a wnes. Tila ydwyf yn y bôn; tu ôl i’r cadernid gwryw, gadarn hwn mae creadur meddal Dairylea-aidd yn trigo, sydd ddim yn licio pethau sy’n mynd bymp yn y nos na sbwnjys. Mentraf ddweud bod y coedydd y tu allan i’r tŷ yn gwneud eu gwaethaf i ddod i mewn neithiwr.


Serch hynny, dw i’n edrych ymlaen at y penwythnos hir sy’n dyfod a chael mynd i’r Gogledd am sbel. Dw i angen ychydig o awyr iach, mynyddoedd a pizza call; a dywedyd y gwir dw i’n byw ar gyfer teithio i’r Gogledd ar y funud. Hynny a phan fyddwyf yn byw ar gastell uwch Fynydd Parys.