martedì, maggio 28, 2013

Ysbytai Cymru

Tydw i ddim yn un am fynd i ‘sbyty i weld neb achos does gen i fawr ddim i ddweud wrth neb yn ‘sbyty blaw am ofyn sut maen nhw (sef ‘sâl’) a dweud bod y tywydd yn afiach a bod telifishyn yn wael ar y funud.  Ond mae’n rhaid pan fo Grandad i mewn achos dyna sy’n rhaid, ond o leiaf does neb arall yn licio mynd i ‘sbyty ychwaith a phan fydd pobol yn mynd i ‘sbyty i weld rhywun debyg y bydd ‘na rywun arall yno hefyd a beth sy’n digwydd ydi y byddan nhw’n siarad ymysg ei gilydd gan eu bod heb weld ei gilydd ers talwm ac yna’n anwybyddu’r claf druan, felly ni chaiff hwnnw fawr o gwmni gan neb beth bynnag er gwaethaf yr ymweliad.

Felly roedd yno dair chwaer yno ‘di galw heibio ‘run pryd i weld gŵr Nain. Un arw ydi Nain erioed sy’n mynnu bod Grandad yn rhoi sws iddi pan ddaw yno, er nad ydi o isio mewn difri, ac yna’n ista yno’n pwdu am ei fod o’n sâl a ddim yn cynnig unrhyw gysur eithr syllu’n flin ar y dyn drws nesa’ sy’n tagu bobmathia. Ta waeth roedd Anti Betty ‘di dod ag Anti Nel i mewn. Doedd Grandad ddim yn or-hapus fod Anti Nel yn dod draw achos mae Anti Nel yn gweiddi achos mae hi flwyddyn yn hŷn nag yntau a ddim yn clywed dim, sy’n ei gwneud yn hawdd iawn i bawb o’i hamgylch ddweud “mae hon yn drysu eto”. Hi ydi’r hynaf o ferched tylwyth Pros Kairon Llansadwrn ac maen nhw i gyd ar y cyfan yn hen ferched blin, a Nain y fwyaf blin o’u plith. Mae gan Nel gath ac mae hi’n mynd â hi rownd Bangor am dro ar dennyn.

Anti Betty, yr ieuengaf o’r tylwyth, ddaeth â hi yno, ac mae Anti Betty yn wahanol i’r lleill o enethod y fferm achos dydi Anti Betty ddim yn flin nac yn gas ond bob amser yn chwerthin. Felly mi fûm innau a Betty yn chwerthin yn hapus braf yn yr ysbyty â’n gilydd a hithau’n ailadrodd y stori pan syrthiais i off y beic ym Methel. Bydd yn hoffi’r stori hon er mai brawddeg yn unig ydi hi.

Ta waeth pan mae Nel a Nain yn dechrau siarad maen nhw’n mwydro a ‘sneb yn dallt dim am beth maen nhw’n siarad. Mi oedd Nain yn dweud wrth Betty bod ‘na bobl ym Mhatagonia sy’n gwybod pwy ydw i, yr Hogyn o Rachub, a bod ‘na hysbyseb amdana i wedi bod mewn caffi ym Mangor (a wir i chi, dyma ddywedodd Nain, toes ‘na ddim clwydda ar y blog hwn byth) a doeddwn i ddim yn dallt, a doedd Betty fawr callach, ond mi dorrodd Nel ar draws i sôn am dwthpics oedd hi wedi’u prynu felly ddysgais i ddim yr hyn a geisiodd Nain ei gyfleu. Ond mae’n hysbys yn ein teulu ni bod Nel yn defnyddio twthpics. Mae gen innau dwthpics yn tŷ ‘cw yng Nghaerdydd ond tydw i ddim yn defnyddio fawr ddim arnyn nhw, felly tydw i ac Anti Nel ddim ‘run peth o ran hynny.

Doedd hi fawr o syndod bod Grandad bron â chysgu felly roedd yn rhaid ei adael a mynd i gaffi ‘Sbyty Gwynedd. Brynodd Betty goffi i bawb. Ges innau gappuchino. Cafodd Nel bot o de, ond fedr Nel ddim gweld yn dda ac roedd hanner y te yn y soser ganddi ac roedd Nain yn gwneud y stumiau rhyfeddaf arni. ‘Sneb yn gwneud stumiau cas yn well na Nain pan fydd isio.

Mi ddywedodd Betty wrth Nel yn sdrêt fod angen carped newydd arni’n lownj ‘cw, ac roedd Nel i weld yn cîn ond am bod hi’n methu â chlywed yn dda roedd yn rhaid i Nain weiddi arni yr hyn ddywedodd Betty dros y caffi “Mae gin Betty bishyn o garped i chdi, tisho fo neu ddim?” meddai. “Wel dwi’m yn gwybod,” gwaeddodd Nel yn ei hôl. Mi ddywedodd Betty am y pishyn carped a’i fod yn neis ac y deuai rywfaint draw i Nel weld. Mae Nel ‘di prynu soffa ddrud newydd felly bydd yn rhaid iddi symud mymryn ar y dodrefn yn lownj beth bynnag, “ac mi gei di’r carped bryd hynny,” meddai Nain, “mi gei di gadw cadair i chdi wylio telifishyn yno tra eu bod nhw’n neud y peth a symud dodrafn arall i gyd am ddiwrnod”. “Nadw, dwi’m yn neud hynna yn f’oed i,” meddai Nel wrthi’n benderfynol. Gollais i rywfaint ar y sgwrs ar ôl hynny, gan droi’r siwgr i mewn i’m cappuchino yn araf, araf.

“Wn i ddim pam fod hi ‘di prynu soffa mor ddrud yn ei hoed hi beth bynnag,” dywedodd Nain wrthyf ar ôl inni ffarwelio â nhw.

Roedd Nain mewn tymer digon gwael achos dim ond Gaviscon roddodd y doctor iddi yn gynharach y diwrnod hwnnw at ei chest hi. Nid hi yn unig sy’n y wôrs, fel y dywedan nhw, achos mae gan y chwaer wddw giami hefyd. Ddywedais hi wrthi, wrth fynd â Nain adra, y gwnâi bach o glorofform fyd o les iddi. Corsadol, fe’m cywirodd, nid clorofform. Ond tydw i ddim yn athronydd nac ydw?

Bu’n ddiwrnod hir ac ro’n i’n edrych ymlaen i fynd adra ond mae Nain yn blydi niwsans ar ei gorau ac fe’m gorchmynnwyd ganddi i fynd i Spar Llandegfan i nôl tri thomato a Daily Post. “Tydw i ddim isio bod yn niwsans,” meddai ond mi ydw i’n nabod Nain a does gan Nain uffar o ddim ots am fod yn boen yn din i neb.

Ond dyna ydio de, fel y dywed pobl ddim sy ddim yn rhy siŵr at beth y maen nhw’n ei gyfeirio.

Nessun commento: