domenica, maggio 06, 2012

Gwynedd: dadansoddiad ystadegol


Fe wyddoch fy mod i’n licio ystadegau, felly dyma ddarn diduedd am ffigurau Gwynedd. Ac ydyn, maen nhw’n ddigon diddorol, ond mi adawaf i eraill gynnig dadansoddiad goddrychol. Fe ranna i’r blogiad hwn yn adrannau inni weld y darlun cyfan. Er gwybodaeth, pan gyfeiriaf at aelodau annibynnol, dw i hefyd yn cynnwys y rhai heb nodi plaid, a dw i’n ymddiheuro os oes unrhyw ystadegau anghywir – mae’n lot o waith ac mae’n ddigon hawdd drysu! Serch hynny gobeithio fy mod wedi cyfleu darlun cyflawn o sefyllfa wleidyddol Gwynedd.



Gwynedd Gyfan

Newid bach iawn a gafwyd yn nifer y seddi o’i gymharu ag etholiad 2008. Plaid Cymru enillodd fwyaf (+2 sedd), gyda Llais Gwynedd hefyd yn cipio un yn fwy. Nid oedd newid yn nifer yr aelodau annibynnol na Llafur, ond aeth y Democratiaid Rhyddfrydol i lawr o 4 sedd i un yn unig.

O ran canrannau, roedd Plaid Cymru 1.7% yn uwch (40.4%), Llais Gwynedd 3.4% yn uwch (24.2%) gyda rhai annibynnol i lawr 2.7% i 22.8%, a Llafur i lawr fymryn. Etholwyd 20 o gynghorwyr yn ddiwrthwynebiad yn 2008 – 18 oedd ffigwr 2012, er bod un ward eto i ddatgan. Enillodd Llais Gwynedd fil yn fwy o bleidleisiau o gymharu â 2008, ac roedd y Blaid hefyd i fyny ryw 300-400. Roedd Llafur i lawr fymryn – yn gwbl groes i’r duedd genedlaethol – gydag ymgeiswyr annibynnol yn cael mil yn llai o bleidleisiau.

Ymddengys, ar y cyfan, fod Llais Gwynedd, ac i raddau llai Blaid Cymru, wedi elwa ar drai’r ymgeiswyr annibynnol. Pleidleisiodd 670 o bobl yn llai yn 2012 nag yn 2008.



Arfon

Yn Arfon, enillodd Plaid Cymru sedd yn ychwanegol, ac aelodau annibynnol ddwy – collodd y Dems Rhydd dair. Roedd nifer y pleidleisiau, canran y bleidlais a’r newid yn y ganran fel a ganlyn

Plaid Cymru 6,200 (39.8% - 2.5% yn is)

Annibynnol 3,757 (24.1% - 2.6% yn uwch)

Llafur 2,634 (16.9% - 2.3% yn is)

Llais Gwynedd 2,049 (13.2% gyda chynnydd o 4.9%)

Ar wahân i Lais Gwynedd felly, prin fod newid yn ardal Arfon. Er i ganran Plaid Cymru leihau, enillwyd mwy o bleidleisiau. Gwelwyd cynnydd ym mhleidlais ymgeiswyr annibynnol, un sylweddol yn un Llais Gwynedd, cwymp bach i Lafur, a haneru pleidlais y Democratiaid Rhyddfrydol – enillodd lai na mil, a cholli un o’u seddi traddodiadol yng Ngwynedd ym Menai Bangor.



Dwyfor

Disodlwyd Plaid Cymru gan Lais Gwynedd fel y blaid fwyaf yn Nwyfor. Enillodd Llais Gwynedd dair sedd ychwanegol, gyda’r Blaid yn colli dwy, ac aelodau annibynnol 1. Enillodd Llais Gwynedd 42.2% o’r bleidlais, sef cynnydd o 5.3% - ond nid oedd ond 13 pleidlais yn fwy nag yn 2008. Collodd Plaid Cymru 599 o bleidleisiau ond roedd y ganran yn sefydlog. Arhosodd pleidlais ymgeiswyr annibynnol yn sefydlog, yn wahanol i weddill Gwynedd. Cadwodd y Democratiaid Rhyddfrydol sedd yn ddiwrthwynebiad.

I raddau, gellid dadlau mai Plaid Cymru gollodd yn Nwyfor yn hytrach na Llais Gwynedd yn ennill, ond mae gan y Llais bellach 10 o’r 20 sedd yno, gyda’r Blaid ar 6 yn unig. Roedd gan Blaid Cymru 15/20 sedd yma yn etholiad 2004, ac mae’n ardal y mae’n rhaid iddi ei hadennill i sicrhau grym fel plaid fwyafrifol ar Gyngor Gwynedd.



Meirionnydd

Ni chafwyd etholiad yn 9 allan o’r 20 o seddi ym Meirionnydd (5 Plaid Cymru; 4 Annibynnol), ond cafodd Plaid Cymru lwyddiant mawr yn y seddau a gystadlwyd. Enillodd dair sedd yn fwy (fyny i 13); 862 o bleidleisiau yn fwy, a 46.7% o’r bleidlais (+15.7%).

Roedd cwymp sylweddol yn nifer y rhai a bleidleisiodd dros ymgeiswyr annibynnol (-14.6% lawr i 29.0%). Serch hynny, cafodd Llais Gwynedd noson aflwyddiannus yma. Un aelod a etholwyd (-2) a chafwyd tua 500 pleidlais yn llai. Dim ond 5 ymgeisydd a safodd dros y Llais – ond serch hynny ni safodd ond 6 yn 2008 felly gwelwyd colled yn ei chefnogaeth gyffredinol ym Meirionnydd.



Plaid Cymru v Llais Gwynedd

Cystadlodd Plaid Cymru a Llais Gwynedd yn erbyn ei gilydd am 27 o seddi – 19 ohonynt benben â’i gilydd. Yn y seddi lle mai’r unig ddau ymgeisydd oedd un o Blaid Cymru ac un o Lais Gwynedd, dyma’r canlyniad cyffredinol:

Plaid Cymru 11 sedd; 5,788 (55.6%)

Llais Gwynedd 8 sedd; 4,616 (44.4%)

Felly Plaid Cymru enillodd y frwydr benben, a hynny yn gymharol hawdd ar y cyfan. Pan luchiwyd gwrthwynebwyr eraill i’r ornest (ar gyfer 8 sedd mewn 7 ward), cymerodd bethau tro diddorol iawn. Felly yr oedd:

Llais Gwynedd 4 sedd; 1,978 (30.1%)

Plaid Cymru 3 sedd; 2,129 (32.4%)

Eraill 2 sedd; 2,470 (37.5%)

Awgryma hyn raniad ym mhleidlais Plaid Cymru pan gafwyd amryw ymgeisydd, a Llais Gwynedd fanteisiodd ar hynny. Serch hynny, pe bai’r seddi hyn yn rhai penben rhwng y Blaid a’r Llais, mae’n aneglur pwy fyddai wedi ennill, er bod y ffigurau penben yn awgrymu y byddai gan Blaid Cymru fantais.  



Casgliad

Cafodd Plaid Cymru etholiad llwyddiannus yng Ngwynedd eleni, er iddi fethu â chipio mwyafrif dros bawb. Gwelodd gynnydd yn ei phleidlais a chipiodd seddi ychwanegol. Er colli yn Nwyfor, a cholli’n wael o ran seddi, ni chollodd yn fawr o ran y bleidlais, a chafodd gynnydd sylweddol iawn ym Meirionnydd. Serch hynny, i’r blaid yn lleol, rhaid atgyfnerthu yn Nwyfor eto i sicrhau mwyafrifau ar y cyngor. Ar y llaw arall, mae hi wedi cryfhau ei gafael ar Arfon a Meirionnydd, ond awgryma’r canlyniadau o hyd elfen o ddadrithio â hi yn y sir.

Roedd etholiad Llais Gwynedd yn llwyddiant ar y cyfan, ond roedd ei pherfformiad ym Meirionnydd yn wan tu hwnt. Dangosodd nad fflach mo llwyddiannau 2008, a llwyddodd i ddal tir a enillwyd yn Nwyfor yn dda iawn. Serch hynny, ni safodd cymaint o ymgeiswyr ag y gobeithid (nifer sylweddol yn llai os rhywbeth), a phan aeth benben â’i phrif elynion, Plaid Cymru, aflwyddiannus ydoedd ar y cyfan.

Collodd ymgeiswyr annibynnol lawer iawn o bleidleisiau y tro hwn – er y cedwid 18 o seddi. Serch hynny, mae mwy o aelodau annibynnol ar y cyngor nag yn 2004, pan roedd 11.

Nid yn annisgwyl, chwalodd pleidlais y Democratiaid Rhyddfrydol, ac nid oedd gan y Ceidwadwyr fyth obaith mewn unrhyw ward yng Ngwynedd.

Gwelodd Llafur unwaith eto ddirywiad yng Ngwynedd, yn gwbl groes i unrhyw ran arall o Gymru. Awgryma wendid mawr yn y blaid leol o ran trefniadaeth a gweithgarwch, er yn Arfon gwelwyd yn 2010 bod o hyd bleidlais Lafur gref yma ar lefel Brydeinig nas adlewyrchir ar y lefel leol.

Nessun commento: