mercoledì, marzo 30, 2011

Cymru'n Un II

Rhaid i mi gytuno â’r Hen Rech pan mae’n dod i Cymru’n Un II – no, nefar, byth. Fel mae’n digwydd, dwi’n rhannu ei atgasedd pur at y Blaid Lafur – mae hi’n aneffeithiol, yn hunanol ac yn daeog. Os oes unrhyw blaid yn haeddu diflannu o wleidyddiaeth Cymru am byth, y blaid Lafur ydi’r blaid honno. Yn bersonol, alla i ond â chywilyddu ar y ffaith bod y Cymry’n dragwyddol ailethol y criw di-glem hwn i dra-arglwyddiaethu drostynt.

Serch hynny, diolch i Blaid Cymru, mae Cymru’n Un wedi bod yn gymharol lwyddiannus yn fy marn i. Ond dwi’n meddwl mai dyna diwedd ei lwyddiant o ran Plaid Cymru. Y gobaith oedd y byddai rhywsut yn rhoi hygrededd newydd i’r Blaid ymhlith y Cymry, er prin yw’r dystiolaeth mai dyma sydd wedi digwydd waeth beth fo’r sefyllfa wleidyddol. Cyflawnwyd yr hyn a gyflawnwyd ond dwi’n meddwl efallai bod y Blaid fwy neu lai lle’r oedd hi bedair blynedd yn ôl – yn etholiadol dydi hi fawr gryfach os o gwbl. Dyna awgrym y polau, a waeth pa esgusodion a wneir, dyma oedd hanes etholiadau 2009 a 2010.

Gadawodd John Dixon y Blaid ddoe, gan ddweud yn ei farn o bod y gwahaniaeth rhwng Plaid Cymru a’r pleidiau eraill yn lleihau gormod. Gall neb gyflwyno dadl gadarn i anghytuno â hynny, er nad ydw i’n cytuno â phopeth a ddywedodd. Mae dwy ochr i geiniog y consensws a geir yng ngwleidyddiaeth Cymru heddiw, i Blaid Cymru gellir dadlau mae erydu ei chenedlaetholdeb traddodiadol, angerddol yw’r ochr ddu. Nid yw ei harddull lai tanbaid, mwy saff, yn dda i gyd.

Y broblem ydi ymhlith arweinyddiaeth Plaid Cymru ydi na all amgyffred nad yw pobl yn pleidleisio dros y Blaid oherwydd polisïau, er mor ganmoladwy ydynt, ar addysg neu iechyd neu hyd yn oed yr economi. Rhoddir pleidlais i Blaid Cymru fel mynegiant gwleidyddol o hunaniaeth genedlaethol. Dybiwn i y gallai mwyafrif y Cymry wneud hynny dan yr amgylchiadau cywir. Dydi Plaid Cymru ddim yn ceisio creu’r amgylchiadau cywir. Cenedlaetholdeb yw unig arf unigryw’r Blaid – mae ei gelu yn dacteg dwp a dweud y lleiaf.

Ond yn ôl at Cymru’n Un II. Mae’r fersiwn cyntaf wedi bod o fudd i Blaid Cymru boed hynny dim ond o gael profiad o fod yn rhan o lywodraeth. Ond digon ydi digon. Dwi heb siarad â NEB sydd fel arfer yn pleidleisio Plaid Cymru sydd am weld ail-ddyfodiad y glymblaid bresennol, a hynny oherwydd eu bod am gael llais annibynnol, cryf a chenedlaetholgar yn y Senedd. Gyda’r SNP yn mwy na brwydro’n ôl yn yr Alban, a hynny drwy arddel cenedlaetholdeb, fe fyddech chi’n meddwl y byddai’r Blaid yn gwneud yr un peth. Dim byd tebyg. I aralleirio Kim Howell, dros y misoedd diwethaf, mae Llafur wedi rhagori ar genedlaetholdeb y cenedlaetholwyr. Os gall Llafur wneud hynny, gall unrhyw un.

I raddau, gallai llwyddiant neu aflwyddiant y Blaid eleni ddibynnu ar ddal ei thir. Wnaiff hi mo hynny drwy fflyrtio â Llafur na’r pleidliau eraill. Wnaiff hi mo hynny drwy ddewis pwyll dros dân yn y bol. A wnaiff hi mo hynny drwy gyfaddawdu. Roedd Cymru’n Un yn arbrawf llwyddiannus – profodd y gallai’r Blaid fod yn blaid lywodraethol. Yr her rŵan ydi dod yn brif blaid. A wnaiff hi mo hynny drwy wneud yr hyn sy’n edrych yn bryderus a chynyddol bosibl – clymbleidio’n gyson â’r blaid Lafur.

Yn gryno, dydi’r Blaid ddim yn manteisio o gwbl ar ei sefyllfa unigryw o fod yr unig blaid genedlaetholgar yng Nghymru. Os rhywbeth, mae’n ymddangos fel petai’n mynd i gyfeiriad gwahanol (‘ymddangos’ ydi’r gair pwysig yn fanno, wrth gwrs). Mae John Dixon yn poeni am gyfeiriad Plaid Cymru. Gyda’r bwlch rhwng y pleidiau’n llai, dwi’n poeni y gallai gael blwyddyn etholiadol ddu uffernol.

2 commenti:

Anonimo ha detto...

diffyg flach ac arweinyddiaeth Ieuan Wyn (arweinydd anweledig) sy'n gyfrifol am hyn. Basau rhywun yn disgwyl i PC godi cwpwl o bwyntiau oddi ar 2007 ond dydy Ieuan heb wneud na dweud dim yn hyrwyddo ei hun, ei blaid na chenedlaetholdeb. Mae e wirioneddol yn meddwl y gnaiff bobl bleidleisio PC achos fod nhw wedi bod yn bobl neis sydd heb wneud smonach.

Trist.

Anonimo ha detto...

Dwi o blaid gweld Cymru'n Un II ... ond dwi'n amau y caiff Llafur ddigon o bleidleisiau i reoli ar ben eu huniain.

Dwi'n amau y bydda nhw'n ddigon hapus i reoli ar ben eu hunain os cawn nhw 28 sedd. Y rhesymeg fydd y bydd y 3 gwrth-blaid yn rhy gecrus i weithio gyda'u gilydd.

Gall Toriaid golli fôts i UKIP, LibDems golli fôts i Lafur a PC ddim casglu unrhyw fôts gan LibDems anhapus, na Llafur na Toriaid.

Yr unig obaith i PC yw rhyw fath o deimlad yn y wlad fod pobl ddim am i Lafur reoli fel One Party State.