martedì, dicembre 07, 2010

Lawr y lôn

Seiclwyr. Dylen nhw gadw at y llwybrau seiclo, neu, yn well fyth, brynu car. Well gen i ladd eirth gwyn na mynd i’r lên nesa’.

Motobeiciwrs. Dyma chi ffycars y ffyrdd, dwi wedi cwyno amdanyn nhw o’r blaen ‘fyd, yn sbydu’n wyllt a neud lol. A ‘sdim gwaeth mewn traffig na’u gweld nhw’n pasio pawb drwy’r canol.

Pobol sy ddim yn dweud diolch. Pan fyddwch chi’n gadael rhywun i fynd o’ch blaen a dydyn nhw’m yn codi llaw. Dyna chi ddiawliaid. Ac mae ‘na rai pobl sy’n lot waeth am hyn na’r lleill, ond rhag ofn i’r cachu hitio’r ffan wna i’m dweud tan i mi weld chi'n pyb.

Carfanau. Absoliwt ffycars.

Fflagiau Lloegr. Dim ond yn digwydd bob tua dwy flynedd fel rheol ond mae ‘na rywbeth yn nwfn enaid y Cymry yn casáu hyn â chas pur. Ac mae hynny’n fy nghynnwys i. Y peth gwaethaf i’w weld ar ffyrdd Cymru sy’n berwi fy ngwaed a gwneud i mi sgrechian ‘blydi Saeson’ i mi’n hun.

Y Cyflymslo. Wyddoch chi, y bobl ‘na sy’n mynd yn arafach na chi, ond ddim yn ddigon araf i chi allu eu pasio nhw heb yrru’n beryg neu oryrru’n echrydus. Ambell waith dwi wedi gweddïo am daflegrau ar adegau fel hyn.

Pawb heblaw amdanaf i. Yn gryno, ‘lly.

1 commento:

elis ha detto...

dwi'n casau pobl sydd ddim yn codi llaw a fflagia lloegr ar geir felly mi es i i'r cyfyng-gyngor mwya uffernol pan dynnodd car efo fflagia lloegr arno fo i'r ochr er mwyn gadal i mi basio ar lôn gefn haf yma. y nghalon i awydd codi dau fys ond y nyletswydd i i godi llaw enillodd y dydd.