mercoledì, aprile 21, 2010

Y dadleuon diweddar

Ychydig o eiriau byr i chi heddiw. Rhwng ei liniadur yn torri (kaput go iawn ‘lly) a’r apwyntiad yfory gyda’r osteopath, dydi’r Hogyn ddim yn cael cyflwyniad hwyl i fod yn 25 oed. Yn wir, edrycha popeth yn dduach ar hyn o bryd. Mae meddwl bod y Democratiaid Rhyddfrydol ar frig y polau ar ddiwrnod fy mhenblwydd yn gwneud i mi fod isio crio.

Am gynnig ambell sylw ar y dadleuon gwleidyddol diweddar a gawsom ydw i. Gadewch i mi sôn yn gyflym am un nos Lun, a welais ddoe, gyda’r ymgeiswyr ym Maldwyn. Os gwelsoch y ddadl honno byddech chi wedi dod i gasgliad amlwg, sef yn gyntaf bod y Llafurwr yn warthus. Byddai’n warth iddo beidio â dod yn bedwerydd gwael. Roedd Heledd Fychan yn dda iawn, a dwi’n credu i’r gynulleidfa gynhesu ati’n fwy na’r lleill, ond mi lwyddodd Lembit ddal ei dir ar y cyfan. Roedd Glyn Davies yn arferol ffwndrus. Dwi wastad wedi synnu ei fod yn cael ei ystyried yn unrhyw beth arall, a dweud y gwir yn onast – yn fy marn i, dydi o ddim yn cyfleu ei hun fel cymwys na chall. Petai bywyd yn deg, byddai Maldwyn yn frwydr rhwng y Blaid a’r Rhyddfrydwyr ar dystiolaeth neithiwr.

Ond beth am y dadlau rhwng yr arweinwyr? Daeth yn amlwg mai Ieuan Wyn Jones ddaeth allan ohoni orau fore Sul, i chwi ychydig brin a wyliodd. Ond beth am neithiwr?

Waeth be ddywedwch, mae Ieuan Wyn yn cyfleu ei hun fel dyn sy’n dallt be mae’n sôn amdano. Yn gyffredinol, byddai dyn yn ymddiried ynddo. Byddwn i ddim yn gosod fy hun yn y ffanclyb, ond o bawb neithiwr efe gyflëodd ei hun unwaith yn rhagor fel yr un a ddeallai orau y sefyllfa wleidyddol a’r hyn y safai ei blaid drosto, gan ddeall i’r dim ei pholisïau ac amcanion. Roedd ei araith agoriadol ychydig yn wan, ond fel dadl bore Sul, fe gryfhaodd Ieuan Wyn Jones yn sylweddol wrth i’r ddadl fynd rhagddi.

Dydi Ieuan Wyn Jones ddim ychwaith yn mynd am soundbites ar y cyfan. I fi, mae hynny’n apelio, ond mae pobl yn gyffredinol yn hoff ohonynt, ac maen nhw’n rhan o’r gêm wleidyddol. Does gen i ddim amheuaeth chwaith, o weld y ddwy ddadl gafwyd hyd yn hyn, y gallai Ieuan Wyn Jones sefyll ar ei draed yn erbyn arweinwyr y tair prif blaid ar lefel Brydeinig a dal ei dir yn ddidrafferth.

Beth am Kirsty? Ceisiodd, dwi’n meddwl, efelychu ei harweinydd yn ystod y ddadl Brydeinig yn ei hagwedd a’r ffordd y siaradai. Weithiau cafodd y gorau ohoni, ond er enghraifft yn y ddadl am ofal i filwyr daeth ohoni waethaf yn erbyn Ieuan Wyn Jones, a lwyddodd ei diystyrru’n effeithiol. Y broblem fawr i mi ydi bod Kirsty Williams yn dod drosodd yn or-ymosodol: i fod yn onast, fel ‘chydig o ast. A dwi ddim yn licio’i dull o areithio – mae’n ffug. Mae ganddi ei chryfderau, a neithiwr hi gafodd y ganmoliaeth fwyaf gan y gynulleidfa gydag ambell linell a ddewiswyd yn ofalus. Da iawn hi am wn i, ond dwi’m yn ei licio, waeth beth fo ‘marn ar ei phlaid, a synnwn i petai fawr neb wedi cynhesu ati, er iddynt gytuno llawer â hi.

Y ddau ddaeth allan ohoni’n ofnadwy oedd Peter Hain a Cheryl Gillan. Roedd tactegau Peter Hain yn boenus o anghywir – mynd ar ôl y Ceidwadwyr yn ddi-baid. Ni ddysgiff mai dyna’r dacteg anghywir nes bod Mai 7fed arnom, mi dybiaf. Y gŵr oren (llawer mwy oren na bore Sul) oedd yn hawdd y gwaethaf. Pan ofynnwyd iddo beth yr oedd Llafur wedi’i gyflawni dros y tair mlynedd ar ddeg diwethaf, llwyddodd enwi tri pheth. Wel, dydi un peth da bob 4.33 o flynyddoedd ddim yn ddrwg yn ôl safonau San Steffan!

O ran Cheryl Gillan, roedd ganddi fwy i’w brofi na neb ar ôl ei ffwndro ar fore Sul. Iawn wnaeth hi ar y cyfan, ond fe’i llusgwyd i mewn i gecru â Peter Hain a manteisiodd Ieuan Wyn a Kirsty ar hynny’n llawn. Ni chafodd gyfle i ymosod ar y Blaid na’r Rhyddfrydwyr, sy’n rhaid i’r Ceidwadwyr ei wneud yng Nghymru.

Mae’n hynod drist na chaiff y dadleuon hynny fawr o effaith oherwydd prin, mi dybiaf, oedd y rhai a’u gwyliodd. Yn seiliedig ar y ddwy drafodaeth gafwyd hyd yn hyn, rhaid dweud mai Ieuan Wyn Jones a Kirsty Williams sydd ar y blaen, gan gadael y ddau arall yn drydydd a phedwerydd gwael. Nid dyna fydd yr achos yng Nghymru pan ddaw ati, dwi’m yn credu, a phiti garw am hynny.

3 commenti:

Anonimo ha detto...

Yn synnu'n fawr i chi feddwl i'r lembo ddal ei dir!
Yn fy marn i, roedd yn ymosodol iawn ar Heledd, yn gas, ac, unwaith eto, yn dangos nad yw'n deall y sefyllfa o safbwynt treuliau. Ffwl o'r radd flaenaf. A'r trasiedi mwyaf yw'r tebygrwydd y bydd yn cael ei ddychwelyd i San Steffan.

Alwyn ap Huw ha detto...

Rhaid imi gytuno a barn y dienw uchod, roedd Lembit yn ymddangos fel un cas ac annymunol; camgymeriad mawr oedd gweiddi "shut up girl" ar Heledd, fe ddaeth o drosodd fel un o ddinosoriaid "hawl Ddwyfol i'w sedd" Llafur y cymoedd yng nghanol y ganrif ddiwethaf.

Ydi, mae Glyn yn gallu ffwndro a rwdlan, ond mae o'n gwneud hynny mewn ffordd annwyl, mae o'n dod drosodd fel y taid bydda bawb yn hoffi ei gael, ac mewn oes lle mae delwedd yn bwysicach weithiau na pholisi, mae hynny o fantais iddo.

Hyd yn oed pan fydd Kirsty yn dweud pethau rwy'n cytuno a nhw mae hi'n mynd dan fy nghroen i. Mae yna rywbeth am y ffordd y mae hi'n siarad rhyw hanner acen Gymreig werinol a hanner Saesnig posh. Mae rhai pobl, Dylan Thomas, Richard Burton, Siân Phillips hyd yn oed Dafydd Wigley wedi llwyddo i wneud y fath cyfuniad yn llwyddiannus ac yn hyfryd ond yn Kirsty mae'n hyll ac yn hagr. Mae ambell i wleidydd wedi derbyn gwersi elocution - mi fyddai'n talu ar ei ganfed i'r Rhydd Dems rhoi'r fath gwersi i Kirsty.

Hogyn o Rachub ha detto...

Diolch am eich sylwadau. Dau beth cyflym:

Dwi'n dal i feddwl y gwnaeth Lembit yn iawn - er cytunais bod "shut up girl" dros ben llestri. Mi safodd ei dir a dwi'n parchu hynny mewn gwleidydd.

O ran Glyn, mae ffwndro a rwdlan, hyd yn oed mewn ffordd 'annwyl', i mi'n bersonol yn fy nhroi i ffwrdd o wleidydd yn syth bin.

Pe bai'n rhaid i mi ddewis fy nghynrychiolydd rhwng rhywun ychydig yn gas ond medrus, a ffwndrus ac annwyl, am y cyntaf yr awn i.