venerdì, aprile 09, 2010

Bron yno

Mynegwyd eisoes ar y blog hwn bod yr Hogyn o Rachub, ym mha le bynnag yr â yng Nghaerdydd, yn gweld lesbians. Ddim o’m gwirfodd na’m dychymyg, ffaith ydyw. Wn i ddim chwaith os mai’r gaydar sydd ar y blinc gen i ond yn aml iawn alla i ddim dweud y gwahaniaeth rhwng lesbian a hogyn tew yn ei arddegau sy’n steilio’i wallt i geisio ymddangos yn ddel. Wyddoch y teip – bwyta gormod o Doritos ac yn treulio oriau ar MSN.

Dreuliais innau oriau ar MSN, ond wn i ddim ai dyna mae’r kids (y dywedodd, mewn ymgais i fod yn hip) yn ei wneud heddiw. Yn yr hen dyddiau arferem ni feicio i bob man – ydi pobl ifanc yn defnyddio beiciau y dyddiau hyn dŵad? Nac ydyn, mwn. Rhy prysur ar eu iPhones a’u iPods neu lawrlwytho iTunes – mae’r enwau yn ddigon i fynd ar fy nefau. ‘I’ ‘I’ ‘I’ – fi fi fi. Dyna’r oll sy gan bobl ots amdano y dyddiau hyn. Wedi mynd y mae’r dyddiau y clywid John ac Alun yn dod o faniau bechgyn yn eu harddegau ar Stryd Pesda. Ia wir, mi gofiaf yr oes, bûm yno, ac yn ei chadw’n fy mhen a’m calon.

Dywedir mai ffordd o brysuro henaint yw casáu ieuenctid. Dwi ddim yn casáu ieuenctid ond dydw i ddim chwaith yn uniaethu. Roedd y gwahaniaeth rhyngof i a chenhedlaeth fy chwaer, sydd dim ond dair blynedd yn iau felly i bob pwrpas yn rhan o’m cenhedlaeth i, yn weladwy erbyn i mi adael ysgol: o ran diddordebau, gweithgareddau, agwedd, yn ieithyddol, yn ymddygiadol – popeth.

Gwell gen innau bigiad gwenyn ar gaill na newid fel rheol. Pam y chwerwder? Wel, ymhen llai na phythefnos fydda i’n bump ar hugain oed. Teg dweud bod cyrraedd y chwarter canrif fel rheol yn cael ei ystyried yn un o gerrig filltir bywyd. Hyd yn oed yn 24 oed gall rhywun i bob pwrpas smalio fod yn 21 – a hynny oherwydd i chi brofi tair blynedd yn y brifysgol, os oeddech yn ddigon ffodus i fynd (ac ym Mhrydain Llafur Newydd mae pob ffwcar dwl yn mynd), a thair o weithio. Ond yn 25 oed, mae’r cydbwysedd fel rheol ar ben. Rydych chi wedi gweithio am hirach nag y buoch yn fyfyriwr.

Ac fela mai. Mae rhywbeth gwirioneddol oedolyn-aidd am 25 oed. Dim ond tua’r oedran hwnnw y mae rhieni yn gadael fynd yn llwyr hefyd. Haws i hogia heneiddio, wrth gwrs, does ‘run dyn yn ei iawn bwyll yn llwyr aeddfedu – dyna’r gwir. Mi wneith merch aeddfedu. Mae’n ffodus i ferched nad ydi dynion yn gwneud oherwydd ni fyddant wedyn yn gallu brolio eu bod nhw’n fwy aeddfed. Wn i, enethod, rydych chi’n hoff o frolio pethau felly’n ffug-flinedig go iawn. Ar ôl canrifoedd o gael eu trin, yn gwbl annheg wrth gwrs (er yn eithaf delfrydol o’r safbwynt gwrywaidd), fel dinasyddion eilradd mae’n fodd i ferched feddwl yn ddigon cyfiawn ‘sut ddiawl mai’r rhain reolai o’r blaen?’

Duw Duw, dydi chwarter canrif yn ddim. All dyn ond chwerthin neu grio, a’r cyntaf ydi’r dewis cyntaf gen i bob tro. Ond byddai stopio colli ffonau symudol ac yfed gwerth canpunt bob dydd Sadwrn o fudd yn yr ymdrech i wneud hynny.

O ia, bu bron i mi anghofio, yn dilyn yr hwyl a gefais yn etholiadau 2007 mi fydd Blog yr Hogyn o Rachub yn fyw ar noson yr etholiad, Mai 6ed. Gobeithio y bydd ambell un arall wrthi hefyd tan yr oriau mân!

3 commenti:

Anonimo ha detto...

A minnau'n byw'n Seland Newydd nawr am flwyddyn, mi fydda innau'n dilyn dy flog ar noson yr etholiad - ond pnawn etholiad fydd hi fan hyn. Dwi'n eitha gutted mod i'n colli'r etholiad ma (a refferendwm posib, a falle etholiadau'r Cynulliad), ond y cysur, o bosib, yw y galla i ddilyn y canlyniadau'n fyw rhwng tua 1pm a 4pm ar bnawn Gwener, gan gael chydig o sesh tra mod i wrthi!
Sai'n cofio a ydw i wedi rhoi sylw ar dy flog di o'r blaen - os na, dyma achub ar y cyfle i ddweud 'mod i wedi bod yn ei ddarllen (a'i fwynhau) yn achlysurol ers sawl blwyddyn, heb sylweddoli 'mod i'n dy nabod di (ac yn arfer gweithio ar ddesg tua 4 metr oddi wrthot ti!)
Iwan

Hogyn o Rachub ha detto...

Sumai Iwan, datguddiad yn wir - ti'n amlwg wedi teithio'n bell ers byw yn Grangetown ... a braf ydi gwybod y bydd o leiaf rywun yn darllen y noson/pnawn 'na!

Anonimo ha detto...

Ie, nath y geiniog syrthio chydig fisoedd nol pan nath rhywun (Llinos o bosib) ddweud dy fod ti'n dod o Rachub - clic!

Iwan