lunedì, febbraio 15, 2010

Gogledd a Chanol Caerdydd

Nid bod yn ddiog, gobeithio, ydw i wrth roi’r ddwy sedd sy’n weddill yng Nghaerdydd at ei gilydd mewn un dadansoddiad. Mae’r canlyniad yn y ddwy yn gwbl, gwbl sicr - yn wahanol i ddwy sedd arall y ddinas - gydag un yn sicr o newid dwylo a’r llall gadw ei lliw.

Dechreuwn gyda Chanol Caerdydd. Mae hon yn sedd y mae tair plaid wedi’i chynrychioli dros gyfnod fy mywyd. Roedd yn Geidwadol rhwng 83 a 92, yn Llafur wedyn tan 2005 a bellach mae’n Rhyddfrydol. Nodir isod nifer uchaf, ac isaf, pleidleisiau’r tair plaid hynny rhwng 1983 a 2005 a’r flwyddyn.

Ceidwadwyr: 16,090 (1983); 3,339 (2005)
Llafur: 18,464 (1997); 9,387 (1983)
Dems Rhydd: 17,991 (2005); 9,170 (1992)

Yn gyntaf awn ar ôl y Ceidwadwyr – fel y gwelwch mae pleidlais y Ceidwadwyr wedi chwalu yn gwbl ddi-droi’n ôl yma. Mae’n anodd, i raddau, ddeall sut y bu i’r Ceidwadwyr ennill yma yn y lle cyntaf, ond roedd canlyniad 2005 bron bum gwaith yn waeth na hynny gafwyd ar ddechrau’r wythdegau. ‘Does gan y Ceidwadwyr gyfle yma bellach. Mae’n destun o maint eu dirywiad hwy yng Nghymru, er gwnaethaf eu llwyddiannau cymharol diweddar.

Beth am Lafur? Wel, mae Llafur i’w gweld i fyny ac i lawr yn y sedd. Mae pleidlais uchel iawn ganddi yma o bosibl, ond mi all wneud yn weddol ddrwg hefyd. Ond mae pleidlais naturiol gref i Lafur yma, ac efallai bod y bleidlais Geidwadol yn fwy ‘meddal’ yn y bôn. Tuedda rhywun i feddwl pe bai’r Ceidwadwyr yn gwneud yn dda yma, nid Llafur fyddai’n dioddef. Er gwnaethaf natur gyffredinol yr etholaeth, mae ‘na rannau ohoni’n ddigon ffyniannus.

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi gwneud yn dda yma, drwy ganolbwyntio nid yn unig ar fyfyrwyr ond hefyd pobl leol. Enillwyd y sedd yn 2005 oherwydd blynyddoedd o waith caled ar eu rhan. Dyma i raddau hefyd hanes y sedd yn y Cynulliad – mae gafael y Rhyddfrydwyr arni yn eithriadol gadarn, gan ennill dros hanner y bleidlais yma ddwywaith.

Mae’n anodd darogan sut y bydd brwydr rhwng Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn mynd rhagddi. Tasem mewn blwyddyn lle mai’r Ceidwadwyr sy’n llywodraethu, byddwn i ddim yn rhoi’r sedd hon y tu hwnt i Lafur, gadewch i mi fod yn hollol onest. Yn wir, dwi ddim yn amau bod hon yn un sedd y bydd Llafur ei hadennill yn y dyfodol.

Mae’n gwbl amlwg mai’r prif ogwydd yma dros y blynyddoedd fu o’r Ceidwadwyr i’r Democratiaid Rhyddfrydol. Yn y sedd hon, yn yr hinsawdd wleidyddol sydd ohoni, mae cynnydd ym mhleidlais y Ceidwadwyr yn debycach o effeithio ar y Rhyddfrydwyr na Llafur.

Serch hynny, mae gan y Rhyddfrydwyr fantais fawr – bydd Llafur yn cadw ei llygaid ar Orllewin a De Caerdydd, a’r Ceidwadwyr ar y Gogledd. Synnwn i ar y diawl petai ymgyrch o unrhyw bwys gan unrhyw un yma ond am y Democratiaid Rhyddfrydol.

O ennill etholiadau cyngor 2008 yn hawdd, a hefyd etholiadau Ewrop yn 2009 (yr unig sedd yng Nghymru iddynt lwyddo gwneud hynny), anodd yw gweld heibio Jenny Willott y tro hwn.

Proffwydoliaeth: Mwyafrif o tua 6,000 i’r Democratiaid Rhyddfrydol


Petai gogledd y ddinas yn Lloegr, byddai yn hawdd yn ardal Geidwadol bron yn ddieithriad - hyd yn oed, o bosibl, ym 1997. Dim ond dau Llafurwr sydd wedi dal y sedd, sef Ted Rowlands rhwng 1966 a 1970, a Julie Morgan ers 1997. I bob pwrpas, yr unig dro mae Llafur yn ennill yng Ngogledd Caerdydd ydi pan gaiff etholiad rhagorol yng Nghymru.

Cafodd Llafur strîc dda o ganlyniadau yma rhwng 1997 a 2007. Hyd yn oed yn y Cynulliad, dim ond y tro diwethaf, yn 2007, a gollodd i’r Ceidwadwyr. Rhoddodd Jonathan Morgan gweir i Lafur y flwyddyn honno, gan sicrhau gogwydd mawr, dros bymtheg mil o bleidleisiau a hynny gyda thros hanner yr etholwyr yn pleidleisio.

Mwyafrif Julie Morgan yn 2005 oedd 1,146 (2.5%). Mae’r fath fwyafrif yn annhebygol iawn o wrthsefyll y llif Geidwadol, nid yn unig yn genedlaethol ond yn lleol. Yn etholiadau cyngor 2008, enillodd y Ceidwadwyr 13 o seddau, i bump y Rhyddfrydwyr a thri annibynnol. Na, dwi heb fethu dim allan – ‘does ‘na ddim cynghorwyr Llafur yma.

Dwi hefyd yn meddwl fy mod yn gywir yn dweud mai dyma’r sedd y cafodd y Ceidwadwyr eu nifer uchaf o bleidleisiau yn etholiadau Ewrop – roedd dros 8,000 a bron yn ddwbl faint y cafodd Llafur.

Er y gall y Ceidwadwyr ennill pleidleisiau yng Nghanol Caerdydd gan y Rhyddfrydwyr, teimlaf eu bod yn sicr o wneud yma. Mi fydd yn un o’r seddau hynny lle ceir pleidlais wrth-Lafur gref gan bobl a fyddai fel rheol yn pleidleisio i rywun arall. Cafodd y Dems Rhydd 18% o’r bleidlais y tro hwn, a dwi’n llawn disgwyl i hynny ddirywio ynghyd â’r bleidlais Lafur.

‘Does ‘na fawr o amheuaeth am y peth, mi fydd y Ceidwadwyr yn ennill yma yn ddigyfaddawd o galed.

Proffwydoliaeth: Mwyafrif mawr i’r Ceidwadwyr, fwy na thebyg gyda thua hanner y bleidlais.

Nessun commento: