mercoledì, gennaio 13, 2010

Dyfodiad y dynion eira

Dyma’r eira’n ôl yng Nghaerdydd felly. Oherwydd y rhagwelir y bydd yn bwrw glaw y pnawn ‘ma, barith hi ddim. Dydw i ddim yn licio’r tywydd bob hyn a hyn ‘ma – dwisho lwmp go foddhaus ohono cyn symud ymlaen. Mae o fel yfed diod swigod. Wyddoch chi, pan gymrwch lymaid, a dachi’n cael y teimlad rhyfedd hwnnw wrth y chwarennau (glands i’r digyfieithwyr o’ch plith) sy’n dweud “ew, wnaeth honno’r tro”. Ond os cymrwch lymaid heb lawn cael y teimlad hwnnw rydych chi’n teimlo’n anghyflawn, a rhaid ceisio eto.

Fel yr ail dwi’n ei deimlo. Dwisho eira mawr am ambell ddiwrnod ac wedyn cawn symud ‘mlaen.

Dydw i ddim yn ymddiried mewn dynion eira i fod yn onest efo chi. Os ydych chi’n cerad i’r gwaith, a hynny’n o fuan hefyd, mae’r creaduriaid eisoes wedi’u codi. Gan ystyried nad ydi hi wedi bod yn bwrw eira yng Nghaerdydd tan hwyr y nos dwi’n dechrau poeni eu bod nhw’n codi’u hunain. Dyn ag ŵyr pwy fyddai’n codi cyn iddi wawrio i adeiladu dyn eira. Gwnaiff rhai pobl rwbath i fod yn wirion. Fel cael eu waled a’u ffôn wedi dwyn mewn un noson. Ffwcia chi, nid ‘y mai i ydi o bod Caerdydd yn bydew llawn lladron.

Mae’n beryg bywyd cerad ar hyd y strydoedd ‘fyd. Mae pawb i’w weld yn cerad ar y ffyrdd, gan fod graen ar y rheini. Mae’r palmentydd yn drybeulig o rewllyd a bydda’n well gan y lliaws risgio’r ceir na’r rhew, neu felly yr ymddengys.

Welish i hyd yn oed hen ddynas ar un o’r sgwtars hen bobl/pobl dew ddiog ‘na. Roedd hi’n ei heglu hi lawr Cornwall Road fel Colin McRae, ond, wel, yn fyw. Dydi’r henoed ddim y bobl fwya’ diogel ar y teclynnau, fe’ch sicrhâf. I’r gweddill ohonom sy’n ceisio cerad o amgylch Caerdydd, mae’r risg o geir, rhew a henoed ar y sgwtars ‘na yn ddigon i godi ofn ar rywun. Dwnim sut dwi wedi llwyddo llusgo’n hun o’r tŷ yn wyneb y fath arswyd.

Mae hefyd yn ei gwneud yn anoddach osgoi’r bobl elusen ar Heol y Frenhines. Pan fydd y llawr yn llithrig, bydda i’n cerdded fel pengwin – nid o eisiau, ond o raid. A dweud y gwir bydd rhywun yn dallt pam bod pengwins yn cerad felly erbyn hyn. Ond mae gan y bobl elusen ddawn ryfeddol o allu cerad yn normal, ac mae’n ddigon hawdd iddyn nhw eich dal chi’n ddirybudd.

“No, no, no” dwi’n dweud yn is bob sillaf wrth eu pasio’n araf, “I go back to work”. Dalith iddyn nhw wneud un diwrnod ohono, mwn.

Nessun commento: