martedì, gennaio 12, 2010

De Clwyd

Beth am aros yn y gogledd-ddwyrain am rŵan? Mae hyn yn bennaf gan fy mod isio arbed gwaith i mi’n hun drwy greu dadansoddiad byr – mae amser yn mynd ac mae’n rhaid i mi frysio.

Dwi’n dweud ‘byr’ oherwydd, i raddau helaeth, mae ffigurau De Clwyd yn debyg iawn, iawn i rai Delyn. Yn bur syml, mae angen i’r Ceidwadwyr wneud union yr un peth yn Ne Clwyd ag sy’n rhaid iddynt ei wneud yn Nelyn. Edrychwch isod i ddarllen am hynny’n fanwl.

Beth ddywedwn am Dde Clwyd, felly? Etholaeth wledig ydyw gan fwyaf, gydag un o bob pump yn medru’r Gymraeg yma, er mai dim ond yng ngorllewin pellaf yr etholaeth y mae’r cymunedau Cymraeg. Fodd bynnag, dyma ffigur bach diddorol i chi, ganwyd 72% o’r boblogaeth yng Nghymru, sy’n gydradd ail yng Ngogledd Cymru gyda Wrecsam (Arfon sydd uchaf ar 74%), ac yn uwch na Sir Fôn.

Dwisho gwneud un peth ar fyrder, sef diystyru. Fel y rhan fwyaf o seddau Cymru, y Blaid a’r Democratiaid Rhyddfrydol gaiff fraint fy niystyru yn y sedd hon.

Yn San Steffan, ers ’97, mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cael, ar gyfartaledd, 12% o’r bleidlais yn yr etholaeth, er eu bod wedi llwyddo cynyddu eu pleidlais bob etholiad o’r bron. Mae’r Blaid fymryn y tu ôl ar 9%. O ran y Cynulliad, er mwyn cymharu, cyfartaledd y Rhyddfrydwyr yw 10%, ond mae Plaid Cymru gryn dipyn yn uwch ar 22%, ond mae ei phleidlais wedi dirywio ym mhob etholiad ers 1999.

Tueddaf i feddwl yn y dyfodol y gallai Plaid Cymru wneud yn dda mewn sedd fel hon, sydd â chanran uchel o bobl a aned yng Nghymru. Er, eleni, dwi’n amau’n gryf a gaiff fawr o effaith, hyd yn oed gydag ymgeisyddiaeth Janet Ryder. Yn reddfol, byddwn i’n synnu petai’r Blaid neu’r Dems Rhydd yn llwyddo cael mwy na 15% o’r bleidlais yma.

Mae hynny yn ein gadael gyda Llafur a’r Ceidwadwyr. Dwi am ddechrau gyda’r Ceidwadwyr. Un o ragflaenwyr y sedd oedd De-orllewin Clwyd, a oedd (fel gyda Delyn) yn fwy na’r sedd gyfredol (roedd y boblogaeth dros 10% yn fwy) ac eto’n cynnwys mwy o ardaloedd Ceidwadol eu naws. Yn wir, ym 1983 enillodd y Ceidwadwyr yma gyda mymryn dros draean o’r bleidlais. Parhaodd i gael tua’r ganran honno yn gyson, er iddi golli o fil o bleidleisiau yn ’87. Cafodd dros 16,500 o bleidleisiau ym 1992, ond cynyddodd mwyafrif Llafur i bum mil.

Pan ddaeth y sedd i’w bodolaeth bresennol aeth pethau o chwith, er, wrth gwrs, ’97 oedd hi a’r holl elfennau yn erbyn y Ceidwadwyr. Dyma niferoedd pleidleisiau’r blaid o 1997 ymlaen, a’r ganran gyfatebol.

[1997] 9,091 – 23.1%
[2001] 8,319 – 24.8%
[2005] 7,988 – 25.5%

Amcanganlyniad (y notial result) yw 2005 o ganlyniad i newid ffiniau, ond ‘does rhaid i mi wirioneddol ddweud wrthych yr hyn a ddigwyddodd. Cynyddodd y ganran oherwydd i nifer y bobl a bleidleisiodd ostwng. Ers cyflafan 1997, mae un o bob wyth o bleidleiswyr y Ceidwadwyr yn Ne Clwyd wedi troi eu cefnau arnynt. O ystyried mai’r Ceidwadwyr fu’r prif wrthblaid ar hyd y blynyddoedd ac i’r llywodraeth fod fwyfwy amhoblogaidd, mae hynny’n sobor. Ni chynhaliodd y Ceidwadwyr eu sail yn yr etholaeth - mae’n ardal lle mae’r Ceidwadwyr wedi dirywio ond heb ddangos arwydd eu bod yn cryfhau.

Dyna ydi hanes Plaid Cymru yn y Cynulliad – mynd o sefyllfa dda i wanhau. Ond gallaf gynnig llygedyn o obaith i’r Ceidwadwyr yn eu hachubiaeth wrthgyferbyniol – y Cynulliad Cenedlaethol. Er cael llai na 20% o’r bleidlais ym 1999 ac yn 2003, gwelodd y Ceidwadwyr gynnydd o dros 10% yn eu pleidlais yma yn 2007, gan dorri’r mwyafrif Llafur i ychydig dros fil a gosod y Blaid yn gadarn iawn yn y trydydd safle. Y newyddion drwg ydi mai Llafurwyr arhosodd adref – dim ond 38% bleidleisiodd.

Pleidleisiodd ganran is yn 2009 yn etholiadau Ewrop, ond roedd hon yn un o’r seddau hynny lle’r oedd y Ceidwadwyr yn fuddugol – yn wir, roedd 7% rhyngddynt â Llafur yma. Ond o ystyried na chafodd y Ceidwadwyr chwarter y bleidlais hyd yn oed, roedd y fuddugoliaeth ychydig yn wag.

Ac eithrio etholiad 2004 Ewrop (diffyg data ar fy rhan), ar gyfartaledd mae’r Ceidwadwyr wedi llwyddo ennill 23.8% o’r bleidlais dros y tair blynedd ar ddeg diwethaf. Rŵan, ac rwy’n dweud hyn yn gwisgo’r hen het ddiduedd honno, dydi hynny ddim yn drawiadol iawn.

Gydag eithriad y llynedd, mae Llafur ar y llaw arall wedi llwyddo ennill pob etholiad yma ers ’97 (a chyn hynny, os mynnwch). Dyma ei chanlyniadau hi yn San Steffan:

[1997] 22,901 – 58.1%
[2001] 17,217 – 51.4%
[2005] 14,808 – 45.0%

Faint ddirywiodd niferoedd pleidleisiau Llafur felly? Gyda’n gilydd: traean! Ydi, mae’r duedd yn ymestyn i bob rhan o Gymru fach. Mae’r mwyafrif ei hun wedi dirywio o 35% ym 1997 i 19% yn 2005, ond bai Llafur, nid gwaith caled y Ceidwadwyr, yw’r rheswm dros hynny. Dydi Llafurwyr bellach ddim isio dod allan i chwarae’r gêm wleidyddol.

Ar gyfartaledd mae pleidlais y Ceidwadwyr wedi cynyddu 1.2% ers 1997, a Llafur wedi gostwng 6.5%. Allai hynny ddigwydd eto? Mae hi bron yn sicr y bydd y Ceidwadwyr yn cynyddu eu pleidlais fwy na 1.2% - ond a allant gynyddu at y traean hwnnw a enillodd Dde-orllewin Clwyd nôl ym 1983?

Mae’n anoddach i’r Ceidwadwyr wneud hynny ers geni De Clwyd. Petai 70% yn pleidleisio y tro nesaf – sy ddim yn sicr wrth gwrs – byddai angen o leiaf 12,000 o bleidleisiau arnynt. Dwi ddim yn gweld hynny’n amhosib, rhaid i mi ddweud, ond yn ôl pob tebyg, fydd hynny ddim yn ddigon i ddisodli Llafur.

Gyda’u hantics diweddar mae Llafur wedi llithro’n ôl yn y polau. Troswn yn uniongyrchol, er cyfleuster, bôl diweddar (9-10 Ionawr) Angus Reid Strategies a PoliticalBetting.com sy’n anffafriol iawn i Lafur. Awgrymir ganddo fod bwlch o 16% rhwng y Ceidwadwyr a Llafur. Beth ddigwyddai yn Ne Clwyd gyda’r canlyniad hwnnw?

Llafur 34%
Ceidwadwyr 33%

Efallai y bydd hon yn flwyddyn dda i’r Ceidwadwyr yng Nghymru, ond gan fod tueddiadau Cymru o hyd yn fwy gwrth-Geidwadol fyddech chi efallai ddim yn disgwyl i Dde Clwyd fod mor agos. Ydi, mae’r bwlch rhwng patrwm Ceidwadol-Llafur Cymru yn agosáu at yr arfer Prydeinig, ond mewn etholiad cyffredinol mae’n anodd gen i ddychmygu ei bod hi yna eto. Gadewch i ni fod yn chwareus am eiliad, a chymryd yr uchod yn ganiataol, a hynny ar 70% o’r etholwyr yn pleidleisio. Dyma fyddai’r canlyniad arfaethedig:

Llafur 12,342
Ceidwadwyr 11,979

Manwl neu beth? Ro’n i’n iawn felly i ddweud y byddai angen o leiaf 12,000 o bleidleisiau ar y Ceidwadwyr i ennill yma. Byddai’n rhaid i’r bleidlais Lafur hefyd ostwng yn sylweddol drachefn.

Felly dyma’r cwestiynau sy’n rhaid eu gofyn: a fydd ymddeoliad Martyn Jones yn ergyd ddifrifol i Lafur? Ai Sais o Lerpwl sydd wedi ymladd etholiadau yn yr ardal (Ceidwadwyr) ynteu hogan leol sy’n cynrychioli ward yn Lloegr (Llafur) sydd fwyaf apelgar? Tybed a all Janet Ryder AC effeithio ar y canlyniad drwy ddwyn pleidleisiau? A thybed pwy allai gael budd o’r glymblaid wrth-Lafur ar Gyngor Wrecsam?

Dwi ddim yn gwybod. Ydych chi?

Proffwydoliaeth: Bydd De Clwyd eto’n goch, ond gallai fod yn agos – byddwn i’n rhoi mwyafrif o tua mil i fil a hanner i Lafur yma.

Dyma felly Gymru 2010 hyd yn hyn yn fy marn i ... dwi’n cadw’r hawl i newid ambell sedd cyn yr etholiad, cofiwch!
 
 

2 commenti:

Anonimo ha detto...

Un ystadegyn difyr. Nifer o gynghorwyr yn yr etholaeth:
Llafur 5
Plaid 4
Toriaid 3
a llawer o rai annibynnol.
Ag eithrio tair ward Maelor Saesneg a thair ward y Gymru Gymraeg tua Corwen, sedd y pentrefi diwydiannol ydi hwn. Hen gadarnle Llafur ond dwi'n credu fod Llafur yn wynebu chwalfa yma ac y bydd Plaid yn gwneud yn well na'r hyn rwyt ti'n ei ddweud. Dydi'r ymgeisydd Ceidwadol ddim yn argyhoeddi.

Hogyn o Rachub ha detto...

Diolch. Dwi ddim yn gyfarwydd iawn gyda'r etholaeth, ond mae'n ddiddorol yn sicr bod bob un o gynghorwyr Plaid Cymru yn yr etholaeth. Ro'n i'n meddwl mai gwledig gan fwyaf oedd yr ardal ond rwyt yn gwybod yn well na mi!