venerdì, luglio 17, 2009

'Sdim byd ar y teledu heno

Yn ddiweddar, rhaid i mi gyfaddef, dwi wedi troi’n unigolyn chwerwach o lawer, gyda phethau bach iawn yn mynd ar fy nerfau (megis y ddolen i’r dde sy’n cyfeirio at Faes E fel “Y Fforwm Drafod Gymraeg” pan y dylai fod “Y Fforwm Trafod Cymraeg” – dydi cyfieithu ddim yn fêl i gyd cofiwch).

Gwraidd hynny ydi fy anobaith parhaol cyfredol. Dwi ddim yn licio’r ffaith fy mod i’n byw mewn oes lle mae popeth dwi’n credu ynddo neu’n ei charu yn diflannu. Hoffwn i wedi bod yn un o’r genhedlaeth gynt a welodd y pethau hynny’n gadarn, neu’n rhan o’r genhedlaeth nesaf, na fyddant yn poeni am y pethau anghofedig hynny. Ni fyddent yn treulio ‘un funud fach cyn elo’r haul i’w orwel’ i’n cofio ni, fetia’ i.

Mae’n waeth nag erioed heno gan nad oes dim byd ar y teledu. Dwi wedi canslo rhyngrwyd y tŷ, gan ei fod mor uffernol, a dwi’n bwriadu cael Sky. Dwi’n gwbl, gwbl fodlon ar analog yn bersonol ond alla’ i ddim aros yn tŷ drwy’r nos heb ryngrwyd na theledu. Dwi’n licio meddwl y byddwyf yn ysgrifennu, ond fel unigolyn cwbl ddi-ddisgyblaeth fyddwn i’m yn mentro’r ffasiwn beth, ond yn hytrach treulio f’amser yn mynd i dai fy ffrindiau ar adegau cyfleus, megis pan fo Come Dine With Me ar y teledu, gan ddywedyd “Duwcs, mae Come Dine With Me newydd ddechrau, rown i o ‘mlaen ia?”

Dwi’n gallu bod yn ofnadwy am wylio teledu. Oni fyddaf yn mynd allan i wneud rhywbeth, bydda i’n gwylio’r teledu o gyrraedd y tŷ ar ôl cyrraedd adra o’r gwaith nes i mi benderfynu cysgu, neu fy mod i wedi yfed gormod fel nad wyf yn gallu aros ar ddihun. Dim ond hanner botel o jin sydd acw ar hyn o bryd. Dwi’n ffan enfawr o G&T, ac yn gwbl fodlon cyfaddef mai hen ddynes yn anad dim y dylwn fod petae’r byd yn lle cyfiawn.

Ond dydi hi ddim, a dyna pam nad oes dim ar y teli heno ac y bydd yn rhaid i mi feddwi i flocio’r ffycar beth allan.

Nessun commento: