lunedì, luglio 20, 2009

Dwyieithrwydd

Cymrwch gip yma cyn i mi fynd ar bregeth. Dwyieithrwydd ar ei waethaf yn wir.

Mae’n beth od, mae’n siŵr, i gyfieithydd ddweud nad ydi o’n licio dwyieithrwydd. Er gwaethaf swnian di-ri lleiafrif o Gymry di-Gymraeg, i mi mae dwyieithrwydd yn anad dim yn gyfaddawd y mae’r Cymry Cymraeg, nid y di-Gymraeg, yn ei wneud. Mae bron yn ddull arall o orfodi’r byd mawr Saesneg i’n boddi – hynny ydi, chewch chi ddim gwneud dim byd oni bai eich bod yn ei wneud yn Saesneg hefyd.

Problem fawr dwyieithrwydd ydi pan fo’n cael ei orfodi ar iaith leiafrifol yna mae’n llwyr ddileu’r angen i wneud pethau yn yr iaith honno,o ysgrifennu ynddi i gynnal digwyddiadau drwy ei chyfrwng. Dyna pam y gall rhai o elynion yr iaith ddadlau’n rhwydd, ac weithiau’n effeithiol mae arnaf ofn, yn erbyn gorfod cyfieithu pethau i’r Gymraeg – ‘does mo’u hangen. Yn bersonol, byddwn i’n fwy na hapus gweld llai o bethau dwyieithog o blaid fwy o bethau uniaith, boed hynny’n Gymraeg neu Saesneg (yn dibynnu’n helaeth ar ardal a chynulleidfa, wrth reswm).

Dydw i ddim yn rhannu gweledigaeth y gwleidyddion o Gymru ddwyieithog, chwaith, ac alla’ i ddim smalio gwneud. Fydda i bob amser yn credu yn y Gymru Gymraeg ei hiaith, Cymru ysywaeth na wela’ i mohoni fyth, ond ta waeth am hynny. Y pwynt sylfaenol dwi’n ceisio’i wneud ydi hwn: o sicrhau dwyieithrwydd pur ni ellir sicrhau dyfodol dwy iaith, ac yng Nghymru dydi dwyieithrwydd fawr fwy na ffordd o ddistewi’r Gymraeg yn ddistaw barchus.

Dwi’n amau dim i ambell Dori neu Lafurwr craff ddeall hynny flynyddoedd nôl.

Ystyriwch hyn. Ni chiliodd y cymunedau Cymraeg ar y fath raddfa â’r sefyllfa bresennol cyn i ni gyrraedd oes dwyieithrwydd. Mae sawl ffactor arall ynghlwm wrth eu dirywiad gweddol ddiweddar, ond a ydi dwyieithrwydd yn un tybed? Heddiw, gallwn ddadlau yn y Gymru newydd ddwyieithog, wleidyddol-gywir sydd ohoni mai efallai un sir sy’n parhau lle mae mwyafrif y trigolion yn siarad Cymraeg fwyaf yn eu bywydau bob dydd. Y sir honno ydi Gwynedd. Os oes yn rhaid gwneud pethau’n ddwyieithog yn y fan honno mae hi wir yn ddu arnom.

Ni sy’n nychu. Ni sy’n araf weld ein diwedd. A ydi ein cyfaddawd mawr yn fargen deg, neu’n ffordd gyfrwys o’n tawelu?

4 commenti:

Dyfrig ha detto...

Cytuno yn llwyr efo chdi. Dwinna'n credu bod angen herio'r syniad mae gwlad ddwy-ieithog yw Cymru. Dwi'n credu bod 'na rannau o Gymru sydd yn wirioneddol, naturiol ddwy-ieithog erbyn hyn, ac mae'n deg bod polisiau'r llywodraeth yn cydnabod hynny.
Ond yn bwysicach, mae 'na ardaloedd y Gymry lle mae un iaith yn llawer i'r trigolion na'r llall. Lle mae cymunedau yn naturiol yn gwyro tuag at unieithrwydd, yna dylid cydnabod hynny mewn polisi.
Biti ma fyddai neb yn Cynulliad i'w weld yn rhannu yr un daliadau.

Cai Larsen ha detto...

Cweit - a'r ddadl yma ydi'r unig un tros flogio yn uniaith Gymraeg.

Da iawn chi bois.

Anonimo ha detto...

Wi'n cytuno i raddau, yn enwedig ynglyn a'ch sylwadau am yr annhegwch o orfodi ardaloedd Cymraeg eu hiaith i fod yn ddwyieithog. Fodd bynnag, fel rhywun sy'n dod o ardal Saesneg ei hiaith yn ne Cymru, mae'n bwysig bod cyrff cyhoeddus ac yn y blaen yn darparu gwybodaeth yn ddwyieithog. Efallai mai dim ond tua 10% o'r boblogaeth leol sy'n gallu siarad Cymraeg, ond mae'r ffaith bod ffurflenni ac arwyddion yn ddwyieithog yn bwysig iawn i fi. Mae'n baradocs i raddau bod gorfodi dwyieithrwydd ar Gymru yn cryfhau'r iaith mewn ardal fel y Rhondda, ond yn gwanhau'r iaith yn ei chadarnleoedd.

Anonimo ha detto...

A fabulous gift idea that any mom & grandma links of london sale would be glad to accept is a mother's ring. There are countless styles to pick from london links charms and every one permits each of a mother's children's birthstone to be placed in the ring so mom & grandma can remember her children wherever she goes.Jewelry links london bracelet that is personalized or engraved makes great jewelry gifts for mom. You can have a particular word or meaningful expression engraved inside a ring, necklace or bracelet links of london earrings to demonstrate to your mother the depths of your feelings.Stylish watches are an additional idea for great jewelry gifts for mom. Your mother sweetie bracelet needs a stylish watch to go with her favorite outfit and perhaps even a few to go with her entire wardrobe.Another example of mom's & grandma's jewelry that makes a great gift is mother's earrings.