martedì, giugno 30, 2009

Mae fy mheiriant golchi yn bwyta fy sanau

Mae’r byd hwn yn llawn hud. Hyd yn oed yn ei fodernrwydd bondigrybwyll mae dirgelwch i’w gael yn y mannau tywyll. Y fan dywyll yr wyf yn cyfeirio ati yw peiriannau golchi. Ai fi ydi’r unig un sydd ddim yn dallt, yn enw’r Tad a’r Mab a’r Ysbryd Glân, sut ar wyneb y ddaear y gellir rhoi rhif penodol o hosanau i mewn i beiriant golchi a chael llai yn ôl?

Digwyddodd hynny ddoe, ac nid am y tro cyntaf. Wn i ddim, er racio ‘mrêns hyd syrffed, sut y mae’n digwydd. Rŵan, o’r holl ledrith a rhyfeddodd a roddodd y Tad Mawr ar y ddaear, dwi’n gwbl argyhoeddedig na fwriadodd i’r peiriant golchi fod yn destun dirgelwch parthed hosanau, ond dyna ydyw o’m rhan i. Faint o sanau a gollwyd i’r bwystfil wrth y sinc ni wn – mae rhywun yn gwybod rhywbeth nad ydw i, mae’n rhaid (mae lot o bobl yn gwybod pethau nad ydw i, wrth gwrs).

Mae’n gas gen i olchi dillad. Os bydda i’n mynd i Rachub dwi o hyd yn fy henaint yn gwneud siŵr bod ‘na ddigon o ddillad budur yn dod efo fi. Mae pob rhan o olchi dillad yn orchwyl blinedig. Casglu’r cyfan drewsawr a’i roi yn y peiriant, ei dynnu (a gweld beth ddaw allan), ei osod ar y lein, wedyn mai’n bwrw glaw, wedyn ei roi yn y tymbl a digio wrth feddwl faint o drydan y mae hwnnw’n ei ddefnyddio, ac yna smwddio.

Fedra i ddim smwddio, a dwi ddim yn golygu sefyll wrth y bar min nos yn wincio ar dargedau. Na, bydd fy nillad i, waeth faint o ymdrech a roddaf i mewn i smwddio, yn parhau’n ddigon crintachlyd ar y cyfan, yn benodol trowsysau a chrysau. Gallwch weld o olwg dyn a all smwddio ai peidio, a gwn fod hynny y tu hwnt i’m dawn. Pe bai gen i ddigon o arian byddwn i’n cael rhywun arall i’w gwneud. Y broblem ydi mae pawb dwi’n eu nabod yn edrych cyn waethed â mi, a gwaeth mewn sawl achos, felly mi fyddai’n ddibwynt. Hidia befo, fues i fyth yn un am edrych yn drwsiadus p’un bynnag.

1 commento:

Anonimo ha detto...

Y Draenog Hud
=============

Ti'n son am hud
Ond ble mae'r hud
Yn y byd -
Heb y Draenog Hud.

copyright Y Draenog Hud