mercoledì, giugno 10, 2009

Be wneith rhywun dros yr haf?

Dydi o ddim yn gwybod beth i’w wneud rŵan. Fe ddaeth ac mi aeth yr etholiad yn ddigon ddisymwth, a ‘does math o ddim i’m diddori dros yr haf bellach. Fydda i ddim yn gwylio’r Llewod, er enghraifft. Dwi ddim yn wrth-Lewod fel rhai o’m cyd-genedlaetholwyr, dwi jyst yn meddwl bod y peth yn syniad stiwpid.

Ac mi fydda’n well gen i roi wanc i afr na gwylio criced.

Fel y gwelwch, os edrychwch allan o’r ffenestr (gan gymryd yn ganiataol bod gennych ffenestr addas gerllaw, oni bai eich bod yn byw mewn ogof ym Mlaenau Ffestiniog, neu Flaenau Gwent actiwli, mae’r ddau le cyn waethed â’i gilydd am wn i – rhyfedd a hwythau’n ddau ‘flaenau’ yn de?) mae’r haul hefyd wedi encilio. Mae’r Apprentice wedi dod i ben, ac yn anffodus mae Big Brother wedi dechrau (dwi heb ddilyn Big Brother am dair blynedd bellach).

Bydd y Daily Star yn sôn am Big Brother yn fwy na dim arall, a dydi’r papur ddim yn cymryd hir iawn i’w ddarllen (ychydig fel maniffesto Llais Gwynedd, er, fel bwystfil Llyn Tegid, dydi hwnnw fwy na thebyg ddim yn bodoli) ond dyna’r peth da amdano. Mi fedraf droi at y tudalennau problemau yn syth bin felly, gan ymhyfrydu yn y straeon a ddarllennaf yno.

Fydda i methu fforddio gwyliau. Mi ges wys i’r llys echddoe am i mi beidio â thalu’r treth gyngor. Mi dalais am flwyddyn gron, am ryw reswm, ond leiaf nad af i’r llys. Dwi byth wedi bod mewn llys, a byth yn bwriadu mynd oni lofruddiaf Dyfed. Fyddai’n braf.

Ta waeth, ers gadael y brifysgol mae’r hafau ychydig yn wag – nid gwyliau mohono bellach, ond un slog hir mewn swyddfa tra bod eraill yn mwynhau. Gas gen i ffwcin athrawon.

3 commenti:

Linda ha detto...

Beth am Wimbledon te .....anyone for tennis ? A phaid ag anghofio'r 'Steddfod yn Y Bala ! Mae pawb yn mynd yno....:)

Anonimo ha detto...

Hoi elli di ddim fy llofruddio i! Pwy eith efo chdi i ddal pysgod lu o bob lliw a llun? Hebbda i bydda dy haf yn unig a ddi-sgodyn! Mae fy ngwialen yn barod amdanat ti!

Hogyn o Rachub ha detto...

Ych, dwi ddim isho hyd yn oed dechrau meddwl be ti'n sgota am, Flewfran!