mercoledì, gennaio 14, 2009

Y Ddau Benderfyniad

Felly mae, ac felly fydd. Ar ôl rhywfaint o chwilio’r enaid dwi wedi dod i ddau benderfyniad.

Cyn i mi fwrw ymlaen, dylwn egluro ambell beth (wn i fod hyn yn swnio’n seriws ond peidiwch â phoeni, does â wnelo’r peth dim i wneud efo chi mewn gwirionedd). Er fy mod i’n hoffi pwyso a mesur, ac erbyn hyn yn fy henaint yn dda iawn am wneud, a dywedyd pethau doeth yn ôl fy ffansi, yn y pen draw bydda i bob tro yn gwneud penderfyniad o fêr fy esgyrn. Tai’m i licio ffeithiau. Yr ail beth ydi fy mod i’n aml iawn yn blogio o’r galon - wel, ddim o’r galon cymaint â dweud y peth cyntaf dwl sy’n dod i’m mhen, ond rydych chi’n dallt be sy gen i.

Felly nid cyfuniad da mohono o ystyried y ddwy frawddeg gyntaf.

Y cyntaf ydi fy mod i am fwynhau eleni. Wn i’n iawn fod hynny’n swnio’n hurt, ond fe fydda i’n benderfynol o fwynhau oherwydd yr ail reswm, sef dwi wedi dod i’r penderfyniad mai 2009 fydd fy mlwyddyn lawn ddiwethaf yng Nghaerdydd, a dwi’n mynd i’w heglu hi’n ôl am Ddyffryn Ogwen yn 2010 ryw ben. Fydda i wedi bod yma am y rhan orau o saith mlynedd bryd hynny, sy’n amser maith i fab y mynydd fyw yn y ddinas, er ei fod mor hoff ohoni.

Buaswn wedi symud nôl pe na bawn wedi bod yn ddigon ffodus i gael swydd, cofiwch, ac mi wn yn iawn y byddwn wedi edifar yn ofnadwy pe byddwn wedi gwneud. Edifarwn pe symudwn yn ôl eleni hefyd, dwi’n meddwl, neu pe byddwn wedi symud yn ôl y llynedd. Fu’r adeg ddim yn gywir, roedd hi’n rhy gynnar.

Ond, drwy ryw ledrith, mae tua blwyddyn arall yn teimlo’n ‘iawn’ i mi, ac mae ‘teimlo’n iawn’ yn bwysig i Gogs, ac mae ystyr y gair syml a chyffredin hwnnw yn ddyfnach na’r wyneb, ond tai’m ar drywydd ieithyddol rŵan.

Na, mae’r Hogyn wedi penderfynu mynd nôl i Rachub. Flwyddyn nesa, ac efallai bod hynny’n swnio fel gwneud penderfyniad yn rhy fuan neu fwydro ar hap, ond na, dwi wedi dweud ers cryn dipyn fy mod wedi bod yng Nghaerdydd am hirach nag y byddwn yma, ac mae rhywbeth da am gynllunio ‘mlaen am hynny, ac yn rhoi rhywfaint o dawelwch meddwl i mi am yr holl fusnes.


Ew, dwi’n teimlo’n fodlon iawn ar ddweud hynny, hefyd. Da dwi, mewn difri calon.

Nessun commento: