lunedì, dicembre 29, 2008

Y Cyri

Dydyn ni ddim yn deulu o gyrïwyr cogyddol, neu fel arall teulu o bobl sy’n coginio cyris. Ond mae tro ar fyd wedi dyfod wrth i mi gael llyfr o’r enw The Curry Bible i Dolig, ac mi wnes gyri echddoe.

Dwi bob amser wedi bod isio gallu gwneud cyri. Un o’r pethau eleni sydd wedi fy ngwylltio eleni ydi’r rhaglenni Indian Cuisine / Chinese Cuisine made easy achos bolocs ydi hynny. Mae’r cyflwynwragedd yn gwneud popeth posibl i wneud y seigiau mor gymhleth â phosibl a gwneud i chi deimlo’n stiwpid nad ydych chi’n dallt. Tai’m i’w dallt nhw, beth bynnag.

Wel, ffwcia nhw, me’ fi, mi wnaf fy nghyri fy hun. Wedi’r cyfan, rhaid cael gwared â’r holl dwrci rhywsut, a fydda fo fawr o hwyl taswn i’n gwybod sut yn union mae gwneud cyri. Digon bodlon oeddwn i luchio twrci, garlleg, nionyn, puprau, tomatos, turmeric, clofau, paprika a chillis i mewn i sosban i weld pa erchyllbeth y rhoddir genedigaeth iddo yn y pair anfad.

Canmol wnaeth pawb, heblaw amdanaf i. Doedd o ddim digon sbeisllyd i’m chwaeth personol, a dwi wedi nodi ambell waith nad ydw i’n licio pobl sy’n cael cyris sy ddim efo sbeis, fel korma – mae o fatha cael vegiburger, sef byrgyr ond dydi o ddim yn fyrgyr go iawn (ffwc ots gen i be udith neb).

Felly dyna gaiff fod yn adduned gyntaf y flwyddyn newydd: neud cyri weithiau; a pha beth bynnag a ddigwydd o leiaf fydda i dal yn gogydd gwell na Nain. Dydi’r ddynas ‘na jyst ddim yn gogyddes.

3 commenti:

Emma Reese ha detto...

Dw i ddim yn hoffi twrci 'left over'. Mae gynno fo flas ac ogla cryf. Ond cyri twrci'n swnio'n dda. Mi na i ddefnyddio mwy o 'chillis' os bydd angen.

Linda ha detto...

Math o 'fruity curry' fyddai'n wneud bob tro efo sbâr cyw iar a thwrci.
nionyn wedi ei dorri
can o diced tomatoes
llwy o siwgr brown
llwy fawr o mango chutney
afal neu ddau wedi ei torri
oxo cyw iar
heb anghofio'r blawd a phowdwr cyri ar y cychwyn ! Ar ôl i bob dim gael ei ddefnyddio fyddai'n ychwanegu'r twrci. Blasus efo fries neu reis.

Anonimo ha detto...

Ydych chi mewn argyfwng ariannol, yn chwilio am arian i ddechrau'ch busnes eich hun neu i dalu eich biliau ?, Mae Benthyciad PayLATER yn cael pob math o fenthyciadau ar gyfradd llog isel o 2% Gwneud cais nawr trwy e-bost yn: ( paylaterloan@zoho.com ) NEU WhatsApp ( +1 929 222 7518 )