venerdì, ottobre 31, 2008

Blogiwr Sâl

Dwi ddim wedi bod yn flogiwr da yr wythnos hon, ond dwi wedi bod yn flogiwr sâl. Fel arfer mae gen i system imiwnedd gref, ond pan mae hi ar chwâl mai ‘di cachu arna i. Yn wir, dwi wedi bod yn tagu gymaint dros y dyddiau diwethaf fel bod fy asennau yn brifo ar y diawl ac yn gyson, a ‘sgen i ddim llais erbyn hyn sy’n gwbl drasig. A dwi bron yn sicr fy mod wedi cael haint gan Lowri Dwd sy jyst yn codi cywilydd arna i.

A dwi ddim yn licio Obama achos mae’n sleimllyd ac mae’r diawl am ennill, mae hynny’n gwneud i mi deimlo’n sâl, y sleimbeth iddo. Gas gen i bobl savvy, yn benodol oherwydd nad ydw i gant y cant ynghylch ystyr y gair, a gwleidyddion selebriti. A choeliwch ai peidio, dwi ddim actiwli yn ymddiried yn Obama.

Dwi’n mynd am McCain achos mae’n hen a methu codi’i freichiau ac mae Sarah Palin yn ddoniol ei diffyg ymennydd (ac ydw dwi’n ei ffansio mymryn). Ia, yn y lleiafrif wyf yn hyn o beth, ond mae Ceren yn cytuno.

Sôn am Ceren fe aeth y ddau ohonom i’r dyfodol echnos. Cawsom sgwrs fideo gyda’n gilydd ar ein ffonau symudol. Pa mor cŵl ydi hynny? Roedden ni’n gallu gweld ein gilydd a phopeth. Chwe blynedd nôl roedd gen i ffôn Nokia efo cês Draig Goch arno oedd yn mynd bîb-bîb pan oedd rhywun yn ffonio. Mae’n eithaf sgeri meddwl beth y bydd ffonau yn gallu gwneud yn y dyfodol. Dwi’n gobeithio panad.

1 commento:

Linda ha detto...

Wel pwy a wyr ;)
Dwi 'di bod yn sniffian ayb efo anwyd pen yr wythnos yma , ac wedi dechrau cymeryd llwy o fêl a llwy o apple cider vinegar mewn myg o ddwr poeth [ diolch i emmareese am y syniad !]
Gobeithio y byddi di'n teimlo'n well yn fuan .