mercoledì, luglio 30, 2008

Dychweliad y Gwlithod

Dwi bron â cholli’n llais. Ers deffro bora ‘ma, drwy ryw fodd ar ôl y drydedd noson yn olynol o gael llai na phump awr o gwsg, mae’r llais yn grimp a’r gwddw’n cosi. Fel un sy’n hoff siarad (ac yn dueddol o beidio gwrando os gallaf), gan amlaf gyda fy hun ond nid yn anaml ag eraill chwaith, mae’n eithaf ergyd.

Mi gollais fy llais o’r blaen, tua dwy flynedd yn ôl erbyn hyn pan drigais yn Russell Street. Roedd hynny’n annifyr achos roedd pawb yn gwneud hwyl ar fy mhen a minnau heb fodd i’w hateb yn ôl.

Mae’r slygs yn ôl ‘fyd. Gyda’r tywydd milain mwll yn parhau, sy’n effeithio’n ddybryd arnaf ar ôl ychydig ddyddiau, maen nhw wrth eu boddau ac yn dechrau mynd i mewn i’r gegin yn Stryd Machen. Roedd un wrth y drws cefn echnos, a neithiwr yn crwydro o amgylch y cypyrddau. A fynta’n edrych fel tyrdun o’r radd eithaf mi deimlais ychydig yn sâl; yn salach fyth o gofio bryd hynny ei bod yn tua dau o’r gloch y bore, a minnau wedi bod yn y gwely am dair awr heb gysgu, a’m bod yno yn y bore bach yn lluchio slyg lawr y toiled.

Nid oedd modd i adael iddo fyw. Boddodd, megis dim llai na thri phry cop neithiwr ym Machen draw. Mae’r tŷ dan warchae gan drychfilod: sy’n golygu ei bod hi’n amser glanhau, sy’n ffwcin annifyr.

1 commento:

Anonimo ha detto...

Da oedd y dyddiau distaw hynny a chdithau yn fud! Roedd Russell St yn nefoedd ar y ddaear ar wahan i dy ddrewdod, sdampio diddiwedd pan yn pwdu - ddim yn cael ffordd dy hun, defnyddio'r grisiau ac pan yn eistedd ar y pan yn rhwym! Urgh! Ffonia fi os tisho i mi allu rhoi abiws i ti dros y ffôn a chdithau yn methu ateb yn ôl. Hahahahahaha!