lunedì, luglio 07, 2008

Adroddiad Cymdeithas Cledwyn: ennill pleidleisiau'r Cymry Cymraeg

Roeddwn wedi bwriadu ysgrifennu am hyn, ond dim cyn i mi ddarllen y ddogfen yn ei chyfanrwydd. Rŵan, dwi ddim isio ysgrifennu’n hirfaith am y ddogfen hon; o’i darllen prin y mae’n ei haeddu, ond mae rhai pwyntiau yr hoffwn eu nodi o ystyried y ”Y Fro: Ennill pleidleisiau yn y Gymru Gymraeg”. Yn hytrach, hoffwn gynnig ambell i sylw ar ambell i ran o’r ddogfen.

Yn bur ryfedd, cyn mynd ymlaen at y Gymraeg ei hun, mae’r ddogfen yn ystyried syniadau megis tai ecogyfeillgar. Wn i ddim pwy feddyliodd am gynnwys y syniad (canmoladwy, wrth gwrs) hwn yn y ddogfen, ond does â wnelo dim ag ennill pleidleisiau’r Fro – dydi o ddim yn berthnasol yn y ddogfen, ac yn y cyd-destun hwn mae’n od i’w gynnwys, a dweud y lleiaf.


Rhaid i’r blaid Lafur arddel a phwysleisio’r cyfan y mae hi wedi’i gyflawni dros yr iaith

Dyma un dyfyniad a’m tarodd ar unwaith. Yn bersonol, byddwn wrth fy modd yn clywed faint yn union y mae Llafur wedi gwneud dros y Gymraeg. Dewch, dywedwch wrthyf!

Er bod gwaith dadansoddi’n profi nad iaith y ‘crachach’ mo’r Gymraeg, mae’r canfyddiad mai felly y mae hi i’w gael o hyd.”

Pa waith dadansoddi a gynhaliwyd i ganfod y ffaith hon? Os taw ennill pleidleisiau’r Fro yw pwynt y ddogfen, siŵr o fod y dylai’r awduron wybod hyn eisoes? A p’un bynnag, yn yr ardaloedd Cymraeg, nid yw hyn yn ganfyddiad.

Dylid hybu defnyddio Cymraeg syml a llai ffurfiol, ar lafar ac ar bapur, yn enwedig yn y sector cyhoeddus.”

Mae gen i deimlad nad yw’r awduron yn defnyddio’r gwasanaethau Cymraeg os mai dyma’u barn. Oes, ceir canfyddiad bod gwasanaethau Cymraeg yn defnyddio iaith ‘anodd’, ond dydi hyn ddim yn wir. Un o’r peth y mae cyfieithwyr, o bob math, yn ei wneud yw ymdrechu i wneud iaith yn syml a hygyrch ond eto’n gywir. Yn hytrach na hybu’r myth, beth am fynd i’r afael ag ef?


Dylen ni symud oddi wrth gynhyrchu cyfieithiadau symbolaidd a drud o ddogfennau cymhleth.”

Sydd, wrth gwrs, am ennill pleidleisiau Cymry Cymraeg. Jyst oherwydd y mae Dafydd Êl yn ei ddweud, dydi o’m yn golygu ei fod yn iawn...


Dylai darparu rhaglenni Cymraeg mwy hygyrch a llai ffurfiol fod yn amod cynyddu’r cyllid i S4C.”

Anodd, a dweud y lleiaf, yw cynnig sylw ar frawddeg mor anwybodus a hurt. Os gellir dweud rhywbeth o blaid S4C, mae’n gryfder gan y sianel bod yr iaith a ddefnyddir mewn rhaglenni fel rheol yn gweddu’r rhaglen. Eto, mae’n un o’r sylwadau lu yn y ddogfen sy’n awgrymu nad yw’r awduron gyda syniad am beth y maent yn ei drafod, â’u bod hwythau’n dibynnu ar ragfarn eu hunain yn hytrach na ffeithiau neu waith ymchwil.

Gellir dehongli’r sefyllfa yn un lle mae Llanelli-Caerfyrddin yn fwy o ‘hen Lafur’ ac wedi ymateb yn wael i Kinnock a Blair, tra bo’r A55 yn fwy o diriogaeth Llafur Newydd.”

Ers pryd fu lleoedd fel Dyffryn Ogwen a Chaernarfon a Llangefni a Chaergybi yn diriogaeth fwy naturiol i Lafur Newydd? Un o’r ffactorau ym methiant y Blaid Lafur yn ddiweddar mewn ardaloedd tebyg yw Llafur Newydd a’r symudiad tuag at y dde.

Yn etholiadau 2007 i’r Cynulliad, fe lwyddodd y gwrthbleidiau i osod agenda gwleidyddol y rhan fwyaf o’r ymgyrch etholiadol, a gwneud hynny’n arbennig drwy ymosod yn anonest ar bolisïau iechyd. Fe elwodd Plaid Cymru hefyd, yn sicr, o’r sylw a gafodd yr SNP yn y cyfryngau Prydeinig.”

Mae’r brawddegau hyn, i mi, yn dangos gwir werth y ddogfen: y cyntaf sy’n beio pawb arall ond am y Blaid Lafur ei hun, yr ail yn rhagfarn, neu’n syniad rhyfedd. Yn wir, pwy all gymryd dogfen felly o ddifri gyda sylwadau fel hyn?

“....[gwrthbleidiau yn] awgrymu nad yw ymgeiswyr Llafur mewn rhyw ffordd yn Gymry go-iawn neu nad ydyn nhw’n ddigon o Gymry.”

Un enghraifft, plîs?

yn y Gogledd-Orllewin, daeth cenedlaetholdeb diwylliannol i fwrw sefydliad Llafur simsan o’r neilltu yn y 70au ac ymsefydlu’n ewyllys sefydlog y dosbarthiadau canol parchus.”

Unwaith eto, anghywir. Ni chollodd Lafur leoedd fel Caernarfon a Meirionnydd Nant Conwy oherwydd y ‘dosbarthiadau canol parchus’ ond collwyd cefnogwyr Llafur traddodiadol i Blaid Cymru. Mor syml â hynny. Wn i ddim ai gwrthod cyfaddef hyn y mae’r ddogfen hon, neu’n gwbl anymwybodol ohono?


Rhaid i ni hefyd gydnabod bod problem go-iawn yn bod ymhlith y rhai sy’n byw yn yr ardaloedd gwledig y mae llawer o fewnfudo iddyn nhw.”

Mae’n siŵr nad yw Eluned na gweddill yr awduron yn cofio yr ymateb a roddodd y Blaid Lafur i Seimon Glyn ychydig flynyddoedd yn ôl ar ôl iddo leisio pryderon pobl leol Llŷn. Rhesymau felly y mae’r Blaid Lafur wedi colli cefnogaeth – dydyn nhw ddim yn gwybod beth ydi pryderon pobl leol mewn ardaloedd fel Gwynedd na Cheredigion – yn wir, mae tai gwaith iaith yn eithaf dweud y cyfan.


Rhaid i’r blaid Lafur hybu defnyddio beunyddiol ar yr iaith drwy berswâd ac nid drwy rym. Gallai grym ac elitiaeth wneud drwg di-ben-draw. Nid cyflwyno mesurau neu ddeddfau newydd yw’r ateb i bob problem.”

Felly dim ddeddf iaith, dwi’n cymryd? Ffordd wych arall o ennill cefnogaeth y Cymry Cymraeg....


Os yw Llafur yn bwriadu trechu’r canfyddiad ei bod hi’n wrth-Gymraeg, ac os yw hi i ennyn cefnogaeth ei holl aelodau i fesurau o blaid gweithredu’n gadarnhaol dros yr iaith, dylai Llafur ddechrau drwy argyhoeddi ei haelodau ei hun o’r angen i fabwysiadu ei pholisi iaith bendant ei hun.”

Beth sy’n ddiddorol yma ydi’r defnydd o’r gair ‘canfyddiad’. Ai canfyddiad ydyw bod pobl fel George Thomas, Neil Kinnock, Leo Abse, Huw Lewis, Llew Smith ac ati yn wrth-Gymraeg? Yn wir, dyma’r broblem enfawr sy’n wynebu Llafur – y gwrthod llwyr i gyfaddef bod iddi aelodau sy’n casáu’r Gymraeg. Nid y canfyddiad sy’n anghywir, mae arna i ofn, ac os nad eir i’r afael â’r aelodau gwrth-Gymraeg, ni fydd Llafur yn ennill ardaloedd Cymraeg. Syml iawn.

Ychydig o sylwadau roeddwn eisiau eu cynnig, fel y dywedais. Ond braf, a dweud y lleiaf, o edrych ar y ddogfen, yw sylwi na fydd newid yn y Blaid Lafur ac nad yw’n cynnig newidiadau. Y broblem fwyaf i Gymdeithas Cledwyn, heblaw am gynhyrchu dogfen wael uffern sydd yn amlwg heb fawr o ddealltwriaeth o'r sefyllfa na gwaith ymchwil iddi, fydd ceisio argyhoeddi gweddill Llafur o’u hawgrymiadau ac argymhellion: efallai bryd hynny cânt weld pa groeso sydd i syniadau o blaid y Gymraeg yn y Blaid Lafur....!

4 commenti:

Cer i Grafu ha detto...

Mae'r ddogfen yn ei chyfanrwydd mor echrydus o wael, rwyf yn siwr na chlywi di'r Blaid Lafur yn cyfeirio ati hi o gwbl a byddan nhw'n dymuno ei chladdu hi cyn gynted a phosibl.

Rhys Wynne ha detto...

Roedd y sôn am dai eco-gyfeillgar reit ar ddechrau'r ddogfen wedi fy nrysu'n llwyr (a'i dyna yw'r bwriad efallai? - cael yr ymenydd i droi ei hun ffwrdd).

Er bod gwaith dadansoddi’n profi nad iaith y ‘crachach’ mo’r Gymraeg,

Hoffwn innau weld y gwaith dadansoddi yma hefyd.

Allai ddychmygu bod Eluned Morgan yn falch iawn o'i gwaith - edrych fel rhywbeth y taflodd at ei gilydd ar daith adref nos Wener ar yr Eurostar.


gyda llaw, mae by flog yn anodd ar y diawl i'w ddarllen, tydi ysgrifen glas tywyll ar gefndir...erm, glas tywyll ddim y dyluniad gorau.

Hogyn o Rachub ha detto...

Glas tywyll ar las golau ydi'r lliw - ti'n defnyddio Firefox?

Anonimo ha detto...

Yr unig beth mae'r ddogfen yn ei wneud yw atgyfnerthu'r gwirionedd o faint o wrth-Gymraeg a deinosoraidd yw'r Blaid Lafur Gymreig.