lunedì, aprile 14, 2008

Caerdydd a Chwpan yr FA

Ceir ambell i glwb pêl-droed nad ydw i’n eu cefnogi mewn difri rydw i’n hoff ohonynt. Y mwyaf o’r rhain, am ba reswm od bynnag, ydi Southampton. Ar ôl gweld sgoriau Man Utd a Wrecsam, fydda i’n mynd i weld sut wnaeth ‘rhen Southampton. Dydyn nhw ddim yn gwneud yn dda. Y pwynt ydi, fodd bynnag, dw i’n licio Southampton a hynny heb reswm.

Ond hefyd nifer o glybiau pêl-droed nad ydw i’n eu hoffi am ddim rheswm penodol o gwbl: Aston Villa, West Ham, Middlesbrough, ac am ryw reswm rhyfeddach, Sheffield Wednesday. Ymhlith y rhain mae hefyd Caerdydd. Iawn, dw i’n gwybod dw i’n byw yma ers y rhan orau o bum mlynedd, ond dw i’m yn cefnogi Caerdydd mewn unrhyw fodd. A dweud y gwir i chi, dw i’m yn licio Clwb Pêl-droed Caerdydd yn y lleiaf.

Felly mae’n fy ngwylltio a’m gwneud i braidd yn sâl bod cymaint o bobl isio gwneud allan eu bod nhw’n cynrychioli Cymru yn rownd derfynol Cwpan yr FA. Bol-ycs. Clwb ydi Caerdydd: maen nhw’n cefnogi Caerdydd atalnod llawn. Chi’n meddwl y byddai ffan Arsenal yn cefnogi Chelsea yn rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr achos eu bod nhw’n cynrychioli Lloegr? Tybed pwy fydd selogion Abertawe yn eu cefnogi fis nesa? Cynrychioli Cymru myn uffarn i.

Dim y bydda’ i yn cefnogi Portsmouth o gwbl, cofiwch, a minnau efo cymaint o feddwl o Southampton. Ah. Southampton.

Rŵan, mae Rhodri Glyn Thomas yn dweud a gwneud pethau gwirion yn aml yn ddiweddar, a ddim yn hoff berson i lot ohonom. Ei syniad hurt diweddar, mae’n siŵr y byddwch yn gwybod, ydi y dylai Hen Wlad fy Nhadau gael ei chanu ochr yn ochr â God Save the Queen yn y ffeinal. Yn ffeinal Cwpan Lloegr. Sôn am syniad hurt.

Braint Caerdydd ydi chwarae yn y strwythur pêl-droed Seisnig. Fe ddylent gydymffurfio â phob dim sydd ynghlwm iddo. Does ‘na ddim rheswm pam y dylai anthem gwlad arall gael ei chanu ynghyd ag anthem genedlaethol Lloegr, waeth bynnag pa mor ofnadwy ydyw.

Os oes un peth sy’n waeth na gwleidydd yn stwffio’i drwyn i mewn i chwaraeon, yna Rhodri Glyn Thomas yn gwneud hynny ydyw!

1 commento:

Anonimo ha detto...

nathon nhw chware'r anthem yn 1927... dwi'n meddwl y bydde fe'n briodol iawn i FA Lloeger gynnig chware'r anthem leni. Wedi'r cyfan, doedden nhw ddim yn cydnabod Cymr tra roedden nhw'n chwarae yng Nghaerdydd cyn adeiladu wembley, naddo?

ti'n mynd yn bell iawn i gal 'go' ar RhGT fan hyn, ochri 'da hen Saeson... ;-)