giovedì, novembre 08, 2007

Coffi

Coffi. Addewidion cyfrwys a gefais yn blentyn pan y’i blaswyd gennyf; na, nid wyt yn ei hoffi nawr, ond pan wyt ŵr hŷn mi fyddi.

Dw i’n ddau ddeg dau. Gas gennai goffi, a phopeth sy’n ei gwmpasu.

Mae’r blas yn ddigon i wneud i rywun gyfogi fel y mae, ond mae’r holl ddiwylliant sy’n cwmpasu coffi yn troi arnaf. Y Café Culture, ys ddywedant, fel yr un a hyrwyddir yn yr arch-gachu o raglen, Friends. Mynd am goffi am wyth o’r gloch yn nos i gwrdd â chyfeillion: NA. Ewch i dafarn, myn uffern. A ph’un bynnag, pa ddiben yfed coffi gyda’r nos, a chithau am gysgu nes ymlaen?

Ceir gormodedd o goffi, hefyd. Mocha, espresso, cappuchino. Lol.

Panad o de syml – a dim o’ch paned gwyrdd na herbals chwaith (mae hynny ar yr un lefel â choffi). Dyna’r boi. Mae pawb yn cynnig panad o de i chdi pan wyt ti’n mynd draw. Te ydi diod y werin. Ni cheir ymadrodd harddach yn y Gymraeg na “Wyt tisho panad?” (does neb erioed wedi dweud “ti moyn dishgled” i mi); gwyddost yr hyn sydd o dy flaen: paned o de poeth, sgwrs dda a mwytho, yn aml wedi ei ddilyn gan banad arall a sgwrs hirach.

Ia wir, cymerwch eich coffi a’i anharddu a’i dywallt lawr draeniau’r uffern am sydd ots gen i. Gan nad pwy fo’i ŷf, eu lluchio i isaf ddyfnderoedd y môr. Mae te yn torri ffiniau, o’r plasau mawr i’r tai cyngor lleiaf. Panad o de a chywydd a Jeremy Kyle – dyna’r bywyd i mi.

2 commenti:

Anonimo ha detto...

Anghytuno a chytuno hefo chdi.
Mi fasa fy mywyd i yn un trwmgwsg llwyr heb baneidiau di-ri o goffi i'm cadw i fynd, a ma' rhaid cyfaddef nad oes dim byd gwell gen i na paned dda o goffi - dim y stwff ponslyd 'ma ti'n ei gael gan y Cafe Culture, ond paned fel paned John Wayne.
Oes 'na le arall i fynd 'blaw'r dafarn ar ol wyth o'r gloch 'llu oes? Dim syniad gen i pwy 'di friends, mets sy' gen i, a pwy ddiawl 'di Jeremy Kyle? 'Di o'n aelod o'r orsedd?

Linda ha detto...

Rant reit dda rwan...
Er mod i'n hoff iawn o goffi , ychydig iawn ohono fyddai'n yfed. Dim ond un , efallai dwy baned y diwrnod. Ond rwyt yn iawn , mae na rhyw trend efo yfed coffi y dyddiau yma . Ac wrth gwrs mae'r Canadians yn hoff iawn o fynd a choffi efo nhw yn y car!