martedì, novembre 27, 2007

Asbaragws. Merllys. Cymraeg. Swpyrb.

Dw i’n hoffi asbaragws. Mi edrychais yng ngeiriadur Bruce a sylwi bod sawl enw yn bodoli, megis merllys(-ion), gwillon a lludwlys, yn ogystal ag asbaragws. Does dadl na fyddech chi’n dyfalu bod i’r Gymraeg pedwar gair am yr asparagus Saesneg. Ni cheir ond un yn Cysgeir, er nad oes syndod yn hyn o beth. Pan ddaw at y frwydr eiriol, Bruce sy’n curo bob tro.

Typical Cymraeg ‘fyd. Wn i ddim p’un i ddefnyddio rŵan. Mae’n rhaid i mi ddweud bod ‘merllys’ yn apelio ataf yn fawr, gyda gwillon yn swnio’n rhy debyg i ‘gwinllan’ (sydd, o reidrwydd, yn well nac asbaragws, ond dibynnu pa chwaeth sydd arnoch) a wn i ddim am ‘lydwlys’ ond mae’n rhy ‘gwrych ar ben mynydd’ o air i mi ei gysylltu ag asbaragws.

Y pwynt oedd fy mod felly yn hoff o ferllys. Maen nhw’n flasus. Ac yn ystod y pum munud diwethaf dw i ‘di dysgu pedwar gair Cymraeg amdano. Pum munud yn ôl dim ond y gair Saesneg a wyddwn i. Byw a dysgu, de.

Mi fyddaf yn gwneud ymdrech benodol i wella fy Nghymraeg, yn ysgrifenedig ac ar lafar, ond hefyd ceisio cadw fy nhafodiaith. Tafodiaith, wedi’r cwbl, ydi iaith safonol y werin. Yn fy marn i, mae tafodiaith yn bwysicach nac iaith safonol: bratiaith ydi’r peth drwg, er, mi fyddaf yn onest, dw i’m yn nabod lot o bobl sy’n siarad bratiaith uffernol, chwaith.

Ond dyna dw i’n ei garu am y Gymraeg. Petaech chi’n gallu cyfri’r holl eiriau Saesneg a’r holl rai Cymraeg sy’n bodoli dw i’n siŵr y buasai i’r Gymraeg uffar o lot mwy. Mae gan y Sais gate: mae gennym ni giât, gât, clwyd, porth, iet a llidiart (efallai bod mwy, wn i ddim); mi gewch lefrith a llaeth a lleuad a lloer a phaned a disgled a bob math mewn Cymraeg ond un gair y mae’r Saeson yn ei ddefnyddio am y cyfan. Diflas, de?

Ond pedwar gair i asparagus? Da wan!


(O.N. Dw i’n cael merllys i de. Dyna sbardunodd hyn i gyd.)

1 commento:

Huw ha detto...

Os yr wyt yn hoff iawn o ferllys, a'r gair Cymraeg ei hun, yna dwi'n amgrymu i ti fynychu hwn: http://cardiffuk.facebook.com/event.php?eid=7452185905&ref=nf

Noson, Y Cawl o'r Waun Ddyfal. Bydd fideo yn cael ei ddangos yn ymwneud a chawl a merllys!

http://uk.youtube.com/watch?v=wAJ50KYkFU0