giovedì, agosto 23, 2007

Motobeiciwrs. Ffyc off.

Gobeithiaf nad wyf innau, hyd yn oed yn fy ngwendidau achlysurol, yn rhoi’r argraff i chi fy mod i’n berson sympathetig. Wir yr. Roedd ‘na fotobeiciwr tu ôl i mi heddiw wrth i mi yrru i’r gwaith, a daniodd fflam fy nghasineb tuag atynt. Mi glywais y diwrnod o’r blaen pan gânt ddamwain y tebygolrwydd yw y daw eu pen i ffwrdd, o ganlyniad i bwysau’r helmed. Gwd.

Maen nhw’n sbydu. Maen nhw’n goddiweddyd ymhob man. Y bod yn onest motobeiciwrs ydi’r gyrwyr mwyaf cythryblus, peryglaf ar y ffyrdd. Dw i’n eu casáu. I ffwrdd â’u pennau oll!

Ac na, nid ymgais ar jôc wael mo’r uchod, chwaith.

Gofynnwyd i mi rhywbryd yn ddiweddar, a minnau’n clodfori’r Gogledd; ei mynyddoedd, ei cherrig, ei ffermydd, os ydwyf mor hoff ohoni pam drigaf yn y De? Minnau ymatebais yn onest, mai isio gwybod oeddwn i sut y buasai’r Iesu yn teimlo pe troediai strydoedd Soddom neu Gomorrah. A gwn mi wn yn awr. A dweud y gwir, hoffais y teimlad goruchel cymaint fel na fynnaf ymwared â hi eto. Myfi yw’r diemwnt ymysg y glo.

(dim byd i wneud efo swydd a thŷ, cofiwch, dim byd o gwbl)

3 commenti:

Cer i Grafu ha detto...

Er fy mod yn berson sympathetig fy hunan, rwy'n cytuno a thi cant y cant biti'r motorbeicwyr ar hyd lonydd y wlad.

Fe weden inna bod seiclwyr acha'r pafin yr un mor wael a nhw, ac a gwed y gwir wrthot ti 'snam ffwc all o ots gen i weld eu pennau nhw'n dawnsio a bownso tros bob man ychwaith.

Anonimo ha detto...

Calliwch eich dwy! Dwi'n eitha ffan o'r hen feic modur, ac oes, ceir bennau bach yn eu gyrru ar adegau ond dwi'n gwbl yn erbyn yr holl son am rhowlio pennau ma! Ydych chi wedi gweld damwain beic modur? Ydydch chi wedi gweld beiciwr wedi damwain beic a hynny heb fod â bai arno fo ond yn hytrach ar yrrwr car meddw? Gyda llaw roedd hwn yn farw! Dwi wedi!! Mae ne le i bawb ar y ffyrdd.!

Hogyn o Rachub ha detto...

Paaaaaach paid â bod mor sofft