giovedì, maggio 03, 2007

BLOG BYW: LECSIWN 2007

3:36: Reit, dw i'm mynd i'r gwely. Nai'm cysgu mwy na thebyg, ond mae'n bryd mynd. Er Llanelli a Cheredigion dw i'm yn teimlo'n llawn iawn. Rhyw deimlo ydw i nad ydym ni am wneud cystal ag oeddem ni'n credu y byddem, er gwaethaf chwaliad y bleidlais Lafur.
Chwerwfelys. Gobeithiaf y deffroaf i ganlyniadau ychydig mwy calonogol. (Ydw i'n gofyn gormod?)
**************************************
3:30: Ceredigion wedi'i gadw yn lot haws na'r disgwyl. Da iawn, Elin!
Dw i'n clywed Llanelli wrth sgwennu hwn....yyyyych nerfs....HMJ dros 13000....CEFN Y FFWCIN RHWYD HELEN!!
**************************************
3:25: Dw i'n meddwl mai fi di'r unig berson yn y byd nath ddarogan y byddai 'na swing i Lafur yng Nghanol Caerdydd! Sgroliwch lawr. Udish i, do?
**************************************
3:14: Dwyfor Meirionnydd yn predictable iawn, ond roedd Caerffili yn uffernol o siomedig. Er popeth, dydi popeth ddim yn fel i gyd heno i Blaid Cymru!!
**************************************
3:00: Plaid yn cadw Arfon. Caru Arfon.
**************************************
2:57: Calyniad sobor o wael i Blaid Cymru yng Ngorllewin Abertawe ac ym Mhontypridd. Wedi chwalu fy hwyliau cryn dipyn y ddau!
**************************************
2:39: Mae Vaughan wedi rhoi'r chwarddiad cyntaf drwy'r nos i mi drwy fynd drwy enwau rhai o ymgeiswyr y Ceidwadwyr.
Dw i'm wedi cael mensh ar y teledu o'r blaen ers imi gael cyfweliad ar Hacio yn ymwneud a phensiynau. Be ddiawl mae hogyn 22 mlwydd oed yn fod i wybod am bensiynau? Dw i'm yn planio byw hynna faint o hir (yn enwedig efo lot mwy o nosweithiau fel hyn).
**************************************
2:25: Chi'n gwybod, dw i byth wedi gweld y gegin amser yma o'r bore yn sobor.
**************************************
2:14: Blaenau Gwent. Trish Law dal i mewn. Tai'm deud clwydda; dw i'n eitha bodlon.
**************************************
2:00: Islwyn. Anniddorol. Blydi hel mae'r ymgeiswyr yn hyll.
**************************************
1:56: PWY OEDD Y PRAT OEDD YN MEDDWL BYDDAI LLANELLI YN CAEL EI ALW ERBYN UN O'R GLOCH? MAI'N DDAU A DW I'M YN 'DI GWELD DIM OND AM BLEIDLAIS RHANBARTH DYFFRYN CLWYD!
Pwy ddiawl sy'n cyfri'r pleidleisiau? Plant ysgol? Deillion? Huw Ceredig?
**************************************
1:46: O mai God mae hyn yn boring. Mae Llandudno yn edrych yn ded (er, chwarae teg, mai'n chwarter i un yn y bora). Bechod ar Alun Pugh ar strydoedd Bae Colwyn am ddeg y bore 'ma, a fynta'n mynd. A Mike German, bosib?
Yr unig beth sy'n cadw fi i fynd ydi'r blog 'ma erbyn hyn. Mae fy nghorff yn diffygio - er, ddim cweit cymaint ag y mae'r bleidlais Lafur HAH!
Ych, mae'n anodd bod yn ffraeth ar yr adeg hwn o'r dydd. Damia'r nifer sy'n pleidleisio ychydig yn uwch 'ma!
**************************************
1:31: Llafur yn poeni yn Islwyn ebe Vaughan ar ei flog; ond wn i ddim i bwy? Mae'n braf iawn gweld Llafur yn toddi - dydi o'm mwy na maen nhw'n ei haeddu ar ol degawdau o'n camrheoli.
Mike German am golli'i sedd debyg. Er nad ydw i'n licio'r Lib Dems, dw i'n rhy fath o licio Mike German.
Methu disgwyl i Bethan Jenkins cael ei hethol. Beth gwell na golwg del a meddwl genedlaetholgar?
**************************************
1:08: Dw i mor flinedig rwan. Dewch a llwyth o ganlyniad i mi plis! Roeddwn i wedi cynllunio cael mbach o gaws a chracyrs ond 'sgen i ddim blydi mynadd codi.
Dw i yn hoff o wallt Dewi Llwyd heno; er fe fyddai'n edrych yn ddoniol iawn am ben Vaughan Roderick. Aberthwn i holl seddau Plaid Cymru i weld hynny.
Er fy mod yn fodlon iawn rwan, mae'r Ceidwadwyr i'w gweld yn gwneud yn sgeri o dda. Oes 'na bosibilrwydd o'r ail safle iddynt?
**************************************
00:55: Dim fo yn San Steffan 'di boi chwaraeon S4C?
Welshi i o'n Clwb Ifor unwaith dw i'n meddwl.
**************************************
00:44: Elin Jones yn edrych yn ddiogel yng Ngheredigion medda' nhw. Mae hwn yn troi yn noson dda. Gobeitho bydd yr hen Ieuan yn iawn, neu mi fydda i'n drist braidd, a minnau wedi dod i'w licio. Ond mae gen i o hyd gwallt cryn dipyn neisiach.
**************************************
00:41: LLAFUR YN COLLI YN LLANELLI. Pan ddarllenish i hwnnw ar flog Vaughan Roderick nesi gwasgu fy nyrnau a hanner-dod, hanner-meddwlfodcymruwedisgoriocais.
HWRE I HELEN!
**************************************
00:20: Mae Rhys newydd tecstio fi yn gofyn i mi "yrru e-bost doniol i Dewi Llwyd".
Be mae Dewi Llwyd yn ffeindio'n ddoniol?
Dw i'n tynnu'n ol bod Plaid am neud yn dda yn Merthyr. Teimlo'n sili rwan. O flaen y genedl. Mwah.
**************************************
00:17: Ai fi ydio neu ydi Syr Dai Llewellyn yn edrych fel llyffant?
**************************************
00:03: Blydi hel mai'n hanner nos a dw i efo gwaith 'fory! Mae'r aberth dw i'n gwneud i ffigyrau gwylio S4C yn wirion bost, a dywedyd y gwir. Dw i'n teimlo'n hapusach rwan, ond dal yn nerfus hynod. Braf iawn yw gweld Llafur yn dadfeilio fel caws rhad ar hyd a lled y wlad. Dw i 'di penderfynu cadw ymhell i ffwrdd o gyfrij ITV o'r etholiad, yn bennaf oherwydd Gareth, sef yr unig person yng Nghymru sy'n gwybod llai am wleidyddiaeth na fi a Martin Eaglestone. Arbenigwr myn uffern!
A Dewi Llwyd paid a rhoi sylw i Faldwyn. Gas gen i Faldwyn; unwaith dw i'n cyrraedd Powys ar y daith A470 pell dw i'n teimlo fel dw i'n mygu ac na ddihangaf fyth. A phrin fy mod. Iych. Caersws? Ffacin joc.
**************************************
23:48: Vaughan Roderick yn dweud efallai bod Plaid yn ennill yn hawdd yn Arfon. Yn amlwg, roedd fy mhleidlais post yn hanfodol yn y frwydr hon.
Dw i'n dechrau chwysu, fodd bynnag. Can arall o Pepsi bydd hi, debyg. Mi brynais 24 am llai na phumpunt o Lidl diwrnod o'r blaen, jyst er mwyn cadw'n effro heno (celwydd).
**************************************
23:40: Gweld Helen Mary Jones ar S4C rwan. Dydi hi ddim yn fy llenwi efo hyder o gwbl. Byddai peidio a chipio Llanelli yn ergyd annifyr iawn i Blaid Cymru, os am ddim mwy o reswm na chael presenoldeb Helen Mary yn y cynulliad.
**************************************
23:34: Os dw i'n stopio blogio all of a sudden fydd o achos mae'r we 'di torri. Bastad gwe. Eniwe, mae Gareth Jones yn edrych yn binc iawn ar y funud. Dw i'n y gegin yn oer efo dim ond paced o Kettle Crisps i gadw cwmni i mi.
Mae'n rhaid i mi gyfaddef, dw i ddim yr un mor hyderus ag oeddwn i'n gynharach. Nerfau, bosib?
**************************************
22:36: Wedi clywed ambell i si ar S4C yn barod, a bellach dydw i ddim yn llawn hyder. Mae pethau'n agosach o lawer nag oeddwn i wedi amgyffred, debyg. Yr Ynys ddim hynny faint o ddiogel, efallai, a dydi Llanelli heb fy llenwi efo hyder yn y lleiaf.
Dw i am ddechrau crio yn barod, dw i'n meddwl. A dw i'm yn mynd i gwely am pedwar awr a hanner arall!
**************************************
22:12: Dw i'm am ddatgelu fy ffynhonnell, ond aparyntli mae Dafydd Wigley newydd ddweud bod Plaid Cymru am wneud yn well nac erioed o'r blaen...!
**************************************
22.10: Wel, dyna ni. Fydd ‘na ddim mwy o bleidleisiau yn dod i mewn rŵan. Dw i’n nerfus. Mae’n rhaid i Blaid Cymru gwneud yn dda y tro hwn, neu mi fydd hi’n ddiwedd ar genedlaetholdeb yng Nghymru, a dyna fy marn onest i a dyma pam fy mod i’n sach o nerfau.

Dw i’n hyderus am Lanelli ac Ynys Môn; yn pryderu am Arfon a Cheredigion.

Bydd hwn yn noson hir.
**************************************
Dwi bron â thorri fy mol isio dechrau’r gêm lecsiwn fawr ‘ma, felly dyma fi’n dechrau ar fy mlog byw tan tua 3 o’r gloch y bore. Ypdêtio fo bydd yn rhaid drwy’r nos, ac mae’n siŵr ysgrifennaf i ddim tan tua 10.30 rŵan, ond hoffwn i rannu ychydig o’r sibrydion dw i wedi bod yn eu clywed drwy’r dydd gyda chi, er nad ydw i’n honni bod yr un ohonynt yn ddibynadwy yn y lleiaf!

+ Gogledd Caerdydd yn edrych yn addawol i’r Torïaid, ond fe fydd yn agos
+ Mae pethau’n mynd o blaid Plaid Cymru yn Llanelli
+ Mae Ynys Môn yn edrych yn ddiogel i Ieuan Wyn Jones, ond Arfon llai felly i Alun Ffred
+ Mae’n agos yng Ngheredigion
+ Mae Islwyn yn edrych yn addawol i Blaid Cymru, gyda’r Torïaid, o bawb, hefyd yn gwneud yn dda yno (dw i’m yn coelio hyn)
+ Mae si ar led bydd Plaid yn gwneud yn dda yn Nedd, Gorllewin Abertawe ac ym Merthyr
+ Bydd Maldwyn yn hynod o agos rhwng y Toris a’r Rhyddfrydwyr


Rhowch wybod i mi os oes mwy! Mae’r gêm fawr wedi dechrau. Flwyddyn yma hoffwn i fod ar yr ochr sy’n ennill (am blydi unwaith).

I’r gâd, gyfeillion, i’r gâd!

18 commenti:

Tortoiseshell ha detto...

Blog neis iawn!

Wedi clywed ar Radio Cymru bod pleidleisiau post Llanelli bron yn gyfartal.

Mae hyn yn sefyllfa lot well i Blaid Cymru na'r tro diwethaf, pan oedd y Blaid tua 500 i lawr ar ol y pleidlais bost.

Anonimo ha detto...

paid crio to.
de penfro'n addawol yn ogystal a gorllewin caerfyrddin mae'n debyg -a llanelli'n agos. cmon. annoying bod canlyniadau ddim am hir ddo.
diolch am y blog.
cwestiwn - efo pwy mae'r annibynwyr yn debygol o gynghreirio?
Nia

Hogyn o Rachub ha detto...

Gyda'r gwrthbleidiau y byddwn i'n tybio. Dw i'm yn gweld Trish Law, Marek, na Ron efallai, yn cyngrheirio efo Llafur drachefn.

Ond paid gofyn i fi, cyfieithydd tew ydwyf sy'n gwybod cymaint am wleidyddiaeth a Martin Eaglestone.

Cwlcymro ha detto...

Plaid yn edrach yn gryd IAWn yn Arfon - ddim yn shwr bocsus lle sy ar agor ddo!

Tegwared ap Seion ha detto...

Dai Llewelyn oedd o?! (sud bynnag ti'n sillafu 'i enw o...) o'n i 'di meddwl fod o'n edrych fel Toad of oad Tole 'fyd!!

Tegwared ap Seion ha detto...

Hei, ti'n enwog! Gai dy lofnod plis??xx

Hogyn o Rachub ha detto...

Na. Cer i dy wely.

Tegwared ap Seion ha detto...

Ow :(

Toad Hole oni'n drio ddeud gynna, gyda llaw.

Hogyn o Rachub ha detto...

Toad of Toad Hall?

Tegwared ap Seion ha detto...

Ia, plis. Y peth gwyrdd 'na o'r Wind in the Willows. Syr Dai Llewellyn. Cytuno o'n i!

Blamerbell ha detto...

Dal ati Hogyn! Yfa coffi a rho back o Kahlua neu rhywbeth ynddo. Dyna dwi eisio.

Blamerbell ha detto...

"Methu disgwyl i Bethan Jenkins cael ei hethol. Beth gwell na golwg del a meddwl genedlaetholgar? "

Oi. Wyt ti'n bod yn profocatif ar bwrpas!

Hogyn o Rachub ha detto...

Oeddwn i'n meddwl mai dyma pwynt y blog 'ma ers ei phedair blynedd ... :(

Anonimo ha detto...

Islwyn: ia di hi ddim byd sbeshal i edrych arni nacdi? Gramadeg da ganddi 'fyd. "Him and his staff have done a very good job...."

Huw Psych ha detto...

"Blydi hel mae'r ymgeiswyr yn hyll."

Blydi hell yndi!! Dal ati was!X

Tegwared ap Seion ha detto...

Di Trish ddim yn oil peinting chwaith nadi! Dewi Llwyd ar y llaw arall...

Tegwared ap Seion ha detto...

Argian mae gen ti ffan yn Blamerbell!

Huw Psych ha detto...

Oi! Cwyd y diogyn! Dim rheswm i fynd i dy wely!

Eniwe - dwi off i ngwely i swatio. Nos da.XX

O.N. Welis i chdi dydd sadwrn??