martedì, febbraio 13, 2007

Yr Alban

Peidiwch â dweud wrth neb ond dw i yn y gwaith ar y funud. Does gen i ddim llawer o waith i’w wneud felly mi gymeraf yr hwn gyfle i son rhywfaint am Yr Alban i chi (gan gachu brics achos mae fy nghefn i le mae’r bos yn dod allan o nawr ac yn y man - er mai amser cinio ydi hi so ga'i!). Mae’r lluniau i gyd yn ddigamsyniol o crap ac nid wyf am foddran eu gosod nhw fyny. Roeddwn i’n hynod, hynod feddw.

Nos Wener
Wedi diwrnod hir o deithio (saith awr) cyrhaeddom ni Gaeredin a dyma fi a Haydn Blin a Kinch yn mynd i ryw SportsBar oedd efo’r rhyngrwyd am ddim a chael peint. Yn o fuan, wedi canfod rhai o’r GymGym aeth pethau’n rhemp a phydrodd y nos lawr i abiwisio Eidalwyr doedd cae gadael ni mewn i dafarndai, canu blêr iawn (a gwael hynod) a minnau’n yfed dau fotel o win coch mewn bar gwin bach swanc a cheisio argyhoeddi dwy ddynes Albanaidd mai Pwyliaid oeddynt. Wn i ddim byd arall.

Nos Sadwrn
Y bore wedi sesh mae’n rhaid cael peint yn eithaf sydyn neu fe gewch chi ben mawr, fel yr ydwyf innau wedi dechrau cael yn aml yn ddiweddar, ac wedi brecwast drwg ffwrdd â ni i dafarn o’r enw’r Three Sisters oedd yn llawn dop ond dim ots achos roedd Cymru mor warthus nes i’m boddran gwylio’r ail hanner (prin y gallwn wedi beth bynnag, a minnau’n feddw ac yn colli pawb.
Mi aeth pethau’n flerach byth wrth i mi endio fyny yn yr un hen far gwin efo Ellen a Gwenan a chael potel arall fyth o win imi’n hun cyn rhedeg i ffwrdd efo Kinch a siarad â sguthanod tew a chael cic owt o Wetherspoons am smygu - cyn cael cic owt gan wanc o fownsar “Because I felt like it”. Dydi’r Albanwyr, ysywaeth, ddim yn bobl hapus na chyfeillgar, a blin oeddent hwynt drwy gydol y penwythnos.
Dyna grynodeb fer iawn o’m hanes, gyda Dydd Sul y daith waethaf yn y byd. Saith am flinedig yn ôl lawr i Gaerdydd. A balch ydwyf o fod nôl. Hen Sgotyns blin.

2 commenti:

Anonimo ha detto...

Dwi mor falch dy fod wedi cael amser mor wael. Mae on llenwi fy nghalon gyda hapusrywdd a llawenhad o wybod nad wyt bellach, hebdda i, yn mwynhau bywyd! Prydra yn dy faw ath geleindod ysbrydol.

Hogyn o Rachub ha detto...

Neshi fwynhau'n uffernol!!!!