mercoledì, gennaio 03, 2007

Amgueddfedda

Am ddiwrnod od. Fe ges i gyfweliad swydd heddiw, ond wedi hynny fe es i weld y dyn diog ei hun, Kinch. Dydi hwnnw ddim yn gwneud dim efo’i fywyd, felly mi benderfynais y byddai galw draw yn fy arbed, ac yn fy sbarduno i beidio â mynd i’r diawl megis Efe.

A minnau dal mewn tei a chrys a throwsus a chyda ymbarél fe aeth y ddau ohonom ni am dro; i Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Syndod fy myw a gefais o weld ein bod ni wedi mynd o amgylch yr holl blydi adeilad, yn cynnwys gweld y morgrug, arfau ac arddangosfa ar y byd Moslemaidd. A chwi a adnabyddwch Kinch a ŵyr nad un diwylliedig mohono, ond fe ymglymodd i’r amgueddfa megis pengwin i ffrij.

Ar ôl edrych fel dau ddyn od iawn yn camu o amgylch yr adeilad (a chael ambell i olwg od iawn; fi’n benodol mi dybiaf) fe aethon ni, wedi llwyddo i wastraffu diwrnod arall o ddiweithdra. Dydi o’m yn rhy ddrwg, a dweud y gwir.

1 commento:

Rhys Tudur Owen ha detto...

jason, doeddwn i ddim yn ymwybodol bo chdi di stopio neud tt! (ers 2 funud ddeud gwir) y broblem ydi dwi mond yn dy weld di dyddiau yma pen yn feddw ar abell noson allan sboradic, er mawr siom! ond rhaid edrych ar yr ochr orau o bob sefyllfa does... oleia fydd y plant yn saff rwan de!