mercoledì, dicembre 20, 2006

Brithyll i de?

Henffych a hawddamor i bawb (ond am Dyfed)! Wyddoch chi be’? Dw i mewn hwyliau da. A phan ydw i mewn hwyliau da mae’r byd yn goleuo fyny. Ia, efallai mai diwrnod oer a gwlyb ydi hi ar ruddiau Moel Faban heddiw fore, ond mae fy nghalon innau’n tywynnu fel sêr y nos dros y rhos.

A pham, ymofynnwch? Ymhelaethaf. Dw i’n coginio heno. Coginio i’r teulu. Medra i ddim cweit esbonio pam fod hynny’n rhoi si imi, ond mae’n rhannol oherwydd bod gan well bawb yn y tŷ fy nghoginio i yn hytrach nag un Mam. Mae Mam, afraid dweud, a hithau’n fam wedi’r cwbl, yn gogyddes heb ei hail. Ond dw i’n well, yn ôl y sôn ar y winllan deuluol.

Fe es i draw i Dre ddoe ‘fyd, a phrynu Brithyll gan Dewi Prysor. Fe ges i drafferth ei dechrau hi ond dw i’n ei mwynhau rŵan, ac mae hi wedi codi fy nghalon isel hefyd. Rhyngoch chi a fi, ond do’n i’m yn gwybod pwy oedd Dewi Prysor (yn iawn) tan y bu imi weld ei lun ar gefn y clawr ac yn rhywle arall yn ddiweddar, a dw i’n meddwl fy mod i wedi ei fwydro yng Nghlwb Ifor rhywbryd. Neu’r ffordd arall rownd. Beth bynnag, cyfle da i name dropio wedi ei lwyr gymryd gennyf drachefn.

Rŵan, wedi gêm fach ar y cyfrifiadur mi af i Fangor (cachwancgadarnle’r byd gwaraidd) i brynu bwyd ar gyfer Y Wledd.

1 commento:

Anonimo ha detto...

Mae yna gyfle i brynnu'r llyfr hwn wedi ei arwyddo gan yr awdur Dewi Prysor ei hun, neu gyda neges personol i chwi, drwy gwefan newydd o'r enw "www.ysbrydoli.com".
Gwerth cofio amdano os eisiau anrheg arbennig / personol i rhywun yn y dyfodol yntydi!