martedì, luglio 11, 2006

Hogyn o Rachub BA

Da dwi!

Son am gywilydd! Mynd o flaen miloedd o bobl (go iawn) i ysgwyd llaw yr is-ganghellor (sy'n siarad Cymraeg fel Almaenwr efo annwyd) gyda crytsh. A Dad yn gweiddi allan tra fy mod i'n llusgo ar draws y llwyfan fel malwoden ar Nytol. Mamma mia. Byth eto, diolch i Dduw. Dw i'n BA. A mae'n teimlo'n eitha normal, a diddorol clywed enwau canol rhyfedd pawb arall na wyddais cynt (Huw Peris!!!!!!)

Eniwe mi gurodd Yr Eidal Gwpan Y Byd a dyna'r peth pwysicaf. Mi wyliais i o'n hotel efo Dad, drws nesa' i ryw bobl od nad hoffais. Aros yn Holland House oedd y teulu, poni welwch-chwi, sy'n le eithaf drud, ac yn amlwg iawn nid nyni oedd yr unig rai yno yn ceisio edrych yn gyfoethog ond ddim. Oedd y rhai wrth ein hymyl yn amlwg yn bobl efo 'mbach o bres ar yr ochr, ond eto heb ronyn o urddas na diwyg iddynt.

Tasa gin i bres, byddwn i'r person mwyaf urddasol yn y byd a fydda gin i fonoglass a bwstash mawr llwyd (am rhyw reswm yn ddiweddar dw i wedi bod yn galw mwstash yn bwshtas achos ma'n swnio'n well) a thop hat. Beth bynnag, dyma'n fi'n Rachub drachefn am oes pys, felly gwell imi beidio breuddwydio gormod.

Nessun commento: