giovedì, giugno 15, 2006

Y Glwyfedig Rachubwr

Ych, mae hyn yn afiach. Adra'n Rachub, efo crytshus a splinter, methu mynd fyny grishau ac am fethu wsos ola'r Gym Gym (erioed i mi!) a Pesda Roc. Ac o bosib allan o acshyn am dair mis. Eshi Ysbyty Gwynedd ddoe wedi y driniaeth warthus a gefais yng Nghaerdydd, a doedd 'Sbyty Gwynedd ddim yn meddwl fawr o agwedd Caerdydd tuag ataf, chwaith. Dw i ar gwrs o Cocodamin neu rwbath, ryw laddwyr poen cryfion sy'n fy ngwneud i'n gysglyd ac yn ddwl. Ond o leiaf mi fedrai wylio Cwpan Y Byd hynny dwisho.

Dw i rwan yn mynd i'r fracture clinic yn YG wythnos nesa'. Os mai fracture ydyw mae 'na beryg y bydda i allan am ddigon fel y bydda i'n methu gwneud hyfforddiant fel athro flwyddyn nesa'. Er mawr syndod imi, dw i'n gytud.

Ond dw i'n gytud bethbynnag. Tra nad ydw i efallai'r person mwyaf annibynol yn y byd, dw i'n sicr yn un o'r rhai yn y byd sy'n gwerthfawrogi ac angen ei ryddid bersonol. Does gen i fawr ohono ar y funud, er dw i rwan yn gallu mynd LAWR grisha, gwneud panad (os dw i'n aros yn y gegin, hynny yw, achos fedra i mo'i chario i'r lownj efo dau grytsh) a chodi heb help. Serch hynny, mae 'na ddigon fedrai'm gwneud hefyd, fel cario pethau, cerdded heb crytshus (o gwbl, lot rhy boenus), gosod y modem a rhedeg i ateb y ffon. Mae hi mor od methu gwneud pethau bach. A sai'n lico. Sai'n lico iot.

2 commenti:

Ray Diota ha detto...

Ow, boi. Diflas! :-(

Jyst meddlylia se fe gymaint gwath se fe di digwydd pan NAD oedd Cwpan y Byd mlan...

Joia'r ffwtbol boi a brysia wella.

Huw Psych ha detto...

Gyted...o mor gyted!

Dysgu chdi beidio gwisgo sgert ar noson allan eto! ;o)

Brysia wella, ma wsos y GymGym bellach drosodd felly waeth i chdi fod adra ddim!