lunedì, dicembre 26, 2005

Tydi Dolig Yn Boen?

Oeddwn i jyst yn darllen Menaiblog, pan fe'm tarwyd gan y syniad a grybwyllwyd yno dy fod yn derbyn anrhegion ar sail beth mae pobl eraill yn feddwl wyt ti. Diolch am wneud fi'n dipresd. Ymddiheuraf o flaen llaw am ddwyn y syniad o restr mewn modd mor ddi-egwyddor, ond fydda i'n licio gwneud rhestrau pan dw i'n dipresd. Dyma ambell i beth ges i:

  1. Llyfrau Barddoniaeth di-ri: "Cadwa at ddarllen barddoniaeth yn hytrach na'i 'sgwennu"
  2. Afftyrshef: "Ti'n drewi"
  3. Pelen aromataidd rhyfedd sy'n toddi'n y bath: "Ti dal i ddrewi"
  4. Sanau yn eu degau: "Ti angen sanau newydd ... mae dy rai di'n drewi"
  5. Hairdryer: "Dw i'n meddwl bod ein mab yn hoyw"
  6. Inflateable Referee: (does gen i wirioneddol ddim syniad beth ar wyneb y bydysawd be all fod yr ysgogiad y tu ôl i'r archeb hwn)
  7. CD Meinir Gwilym: "Dw i'n rhedeg allan o syniadau anrhegion" / "Ydi, bendant yn gê"
  8. Dim mo'r ffôn lôn sydd ei hangen arnaf yn despret: "Sod off nôl i Gaerdydd a phaid cysylltu eto, y bastad bach tew"

Dim fy mod i'n cwyno, wrth gwrs, doeddwn i ddim isho ddim byd 'Dolig, gwnes hynny'n glir ('blaw ffôn). Ond dw i'n falch bod 'Dolig drosodd, fedrwn i'm am fy myw rhoi mwy o bwysau ymlaen, a dydi'r holl ewyllys da 'ma jyst ddim yn fi, dachi'n dallt be dw i'n ei feddwl? Mae tymor o ewyllys da yn eitha gwirion pan fo 'nheulu yn y cwestiwn, beth bynnag. Nain yn contio Taid, Mam yn contio Dad, y chwaer yn contio fi, fi yn contio neb rhag ofn imi gael slap a'n hel ar f'union i'r Sowth eto. Ac yn tŷ ni 'sdim lysh i gadw rhywun yn eu meddwl iawn; iep, go iawn, does gen fy nghartref Rachubaidd ddim alcohol yno fyth. Dw i wedi cael dau lasiad o win coch yma, a dw i'n mynd o'm meddwl.

Blwyddyn nesa' dw i'n mynd i Irac neu rhywle distaw felly i ddianc. Os mae rhywun yn gwybod am rhywle efo llwythi o alcohol a dim 'Dolig, rhowch wybod imi cyn flwyddyn nesa', ia?

Nessun commento: